Beth ddigwyddodd i'r seryddwr 10 oed o 1978?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd Rhys Evans yn ddisgybl yn Ysgol Bryntaf ym 1978

46 mlynedd yn ôl roedd bachgen bach 10 oed o Landaf yn gwireddu breuddwyd, sef cael trafod ei hoff bwnc mewn dosbarth llawn o'i ffrindiau.

Ond, yn wahanol i'r arfer, roedd camerâu rhaglen 'Heddiw' yn bresennol ar y diwrnod yn Ysgol Gynradd Bryntaf.

Rhys Morris oedd y disgybl gwybodus, yn adrodd ffeithiau tu hwnt i wybodaeth plentyn o'i oed am y planedau a'r sêr.

Prin oedd Rhys yn gwybod ar y pryd y byddai'n eistedd yn gwylio ffilm ohono'n blentyn yn 1978, ac yntau wedi gwireddu ei freuddwyd o fod yn Astro Ffisegydd.

Ar ddechrau Wythnos Ryngwladol y Gofod o 4 Hydref ymlaen, wythnos sy'n dathlu popeth sy'n ymwneud â'r bydysawd, mae'n rhoi cyfle i Rhys hel atgofion o'i blentyndod yn yr ysgol.

"Dwi'n cofio'r diwrnod yn dda iawn, er ei bod hi 46 mlynedd yn ôl. Roeddwn wedi cael bach o ymarfer i wneud y ddarlith yma o'r blaen, ond gorfod ailadrodd wedyn ar gyfer y teledu.

"Roedd un o fy athrawon yn cael y plant i sôn am eu diddordebau nhw, ac mae'n debyg nes i job dda o hyn.

"Fe wnaeth hi ddeud wrth ei gŵr a phenderfynu y byddai'n gwneud eitem ddiddorol ar gyfer rhaglen 'Heddiw.'

"Ei gŵr oedd y diweddar R. Alun Evans ac fe wnaeth y cyfweliad yn y darn ffilm."

Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar R Alun Evans oedd cyflwynydd y rhaglen Heddiw

Yn ei gyfweliad gyda R. Alun Evans, fe wnaeth Rhys ddatgan ei fod eisiau "gweithio fel darlithydd."

Ar ôl gorffen ei addysg ysgol, fe aeth Rhys ymlaen i astudio Astro Ffiseg yn y Brifysgol, cyn gwneud gradd bellach yng Nghaeredin ac wedyn yng Nghaerdydd.

Mae Dr Rhys Morris erbyn hyn yn arbenigo mewn Nifylau Planedol, sef yr astudiaeth o ran olaf ym mywyd sêr ac mae'n gweithio ym Mhrifysgol Bryste: "Dwi wedi llwyddo i barhau gyda fy niddordeb, dwi mwy neu lai wedi cyflawni fy uchelgais pan oeddwn yn 10 oed."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig