Y DU ac Iwerddon yw'r unig gais i gynnal Euro 2028
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl y bydd rhai o gemau Euro 2028 yn cael eu chwarae yng Nghaerdydd, wedi i'r unig wrthwynebwyr dynnu eu cais yn ôl.
Bellach dim ond cais y DU a Gweriniaeth Iwerddon sydd wedi ei chyflwyno i gynnal y bencampwriaeth yn sgil penderfyniad Twrci i dynnu 'nôl o'r ras.
Yn hytrach, mae Twrci wedi penderfynu cyflwyno cais ar y cyd gyda'r Eidal i gynnal y bencampwriaeth yn 2032 - sydd bellach wedi ei gymeradwyo gan UEFA.
Mae disgwyl i gais y DU ac Iwerddon gael ei gymeradwyo'n ffurfiol pan fydd Pwyllgor Gwaith UEFA yn cyfarfod yr wythnos nesaf.
Mae'r trefnwyr yn rhagweld y gallai'r gystadleuaeth ddod â buddion cymdeithasol ac economaidd gwerth hyd at £2.6bn ar draws Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon - sydd oll i gynnal gemau fel rhan o'r cais.
Mae'r gwahanol lywodraethau yn cefnogi'r cais, ac eisoes wedi buddsoddi neu addo dros £500m cyn 2025 i wella ac uwchraddio adnoddau llawr gwlad, gyda'r bwriad o gynyddu'r gwariant wrth i Euro 2028 nesáu.
Byddai bron i dair miliwn o docynnau ar gael ar gyfer y gemau - mwy nag unrhyw bencampwriaeth Ewropeaidd flaenorol.
Fis Ebrill fe ddewiswyd 10 stadiwm ar gyfer cais y DU a Gweriniaeth Iwerddon, gan gynnwys Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, Parc Hampden yn Glasgow, Stadiwm Aviva yn Nulyn a Wembley yn Llundain.
Mae dau faes sydd heb eto eu cwblhau - Parc Casement yn Belfast a stadiwm newydd Everton yn Lerpwl - hefyd wedi'u cynnwys yn y cais.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2022