Cymru yn rhan o gais ffurfiol i gynnal Euro 2028

  • Cyhoeddwyd
Capten Cymru, Aaron Ramsey, gyda chapteiniaid y gwledydd eraill - Harry Kane (Lloegr), Seamus Coleman (Iwerddon), Andy Robertson (Yr Alban), a Steven Davis (Gogledd Iwerddon) yn lansio'r cais i gynnal Euro 2028Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Capten Cymru, Aaron Ramsey, gyda chapteiniaid y gwledydd eraill - Harry Kane (Lloegr), Seamus Coleman (Iwerddon), Andy Robertson (Yr Alban), a Steven Davis (Gogledd Iwerddon) yn lansio'r cais i gynnal Euro 2028

Bydd rhai o gemau Euro 2028 yn cael eu chwarae yn Stadiwm Principality, Caerdydd, os bydd cais i lwyfannu'r bencampwriaeth yn y DU ac Iwerddon yn llwyddiannus.

Cafodd cais swyddogol i gynnal y gystadleuaeth ei gyhoeddi gan bum cymdeithas bêl-droed mewn cyflwyniad arbennig ddydd Mercher.

Mae'r trefnwyr yn rhagweld y gallai'r gystadleuaeth ddod â buddion cymdeithasol ac economaidd gwerth hyd at £2.6 biliwn i'r pum gwlad.

Mae Casement Park, Belfast a Bramley-Moore Dock yn Everton - dwy stadiwm sydd heb eu hadeiladu - yn rhan o'r cais.

Mae'r 10 maes hefyd yn cynnwys Parc Hampden yn Glasgow, Parc St James yn Newcastle, Stadiwm Etihad ym Manceinion, Stadiwm Tottenham Hotspur a Wembley.

Mae Parc Croke a Stadiwm Aviva yn Nulyn hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer derfynol.

Twrci yw'r ymgeisydd arall i gynnal cystadleuaeth y dynion ym mis Mehefin a mis Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Stadiwm Principality fyddai'r unig faes pêl-droed yng Nghymru i gynnal gemau Euro 2028

Roedd 14 o stadia yn wreiddiol ar y rhestr fer a gyflwynwyd i Uefa gan y pum cymdeithas bêl-droed y llynedd.

Old Trafford - sydd â'r capasiti mwyaf yn Lloegr ar ôl Wembley - Villa Park, Stadium of Light a London Stadium ydy'r pedwar i gael eu tynnu oddi ar y rhestr.

Yn ôl y trefnwyr byddai'r meysydd pêl-droed byd-enwog hyn yn rhoi llwyfan ar gyfer "y gystadleuaeth Euro fwyaf erioed, a'r mwyaf llwyddiannus yn fasnachol".

Byddai bron i dair miliwn o docynnau ar gael ar gyfer y gemau, mwy nag unrhyw Euro o'r blaen.

Mae'r gwahanol lywodraethau yn cefnogi'r cais, ac eisoes wedi buddsoddi neu addo dros £500m rhwng 2019 a 2025 i wella ac uwchraddio adnoddau llawr gwlad, gyda'r bwriad o gynyddu'r gwariant wrth i Euro 2028 nesáu.

Creu etifeddiaeth

Bydd cronfa etifeddiaeth o £45m hefyd yn cael ei chreu i ddatblygu pêl-droed a chreu cymynroddion ychwanegol.

Dywedodd y trefnwyr y byddai'r twrnament hefyd yn cael effaith bositif dymor hir ar gymunedau trwy dwristiaeth, gwirfoddoli, a hyfforddi.

Dywedodd llefarydd ar ran y trefnwyr eu bod yn falch iawn o gefnogaeth y llywodraethau a'u bod wedi ymrwymo'n llawn i gynnal y digwyddiad.

"Byddent yn sicrhau bod y digwyddiad yn cael cefnogaeth lawn. Bydd hyn yn creu profiad pêl-droed cyffrous a diogel y bydd chwaraewyr a chefnogwyr yn ei fwynhau ym mhob dinas ac ym mhob gêm."

Fe allai Euro 2028 fod yn un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf erioed yn y DU ac Iwerddon.

Cyhoeddodd y cymdeithasau ym mis Mawrth 2022 bod diddordeb ganddynt i gynnal y twrnament, yn dilyn asesiad dichonoldeb i'r cyfleoedd a'r buddion o groesawu pencampwriaeth bêl-droed fawr.