Cymru'n cefnogi cais i gynnal Euro 2028

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mynegi diddordeb mewn cynnal pencampwriaeth Euro 2028, ar y cyd â chymdeithasau eraill y DU ac Iwerddon.

Mae mynegi diddordeb yn gam pwysig yn y broses o wneud cais swyddogol i UEFA i gynnal y bencampwriaeth.

Mae'r cam yn dilyn asesiad dichonoldeb i'r cyfleoedd a'r buddion o groesawu pencampwriaeth bêl-droed fawr.

Mae llywodraethau'r DU, Cymru, Yr Alban ac Iwerddon wedi cadarnhau eu cefnogaeth, tra bod llywodraeth Gogledd Iwerddon, sydd ddim yn cwrdd yn ffurfiol ar hyn o bryd, yn dilyn ac yn cadw golwg ar y broses yn ofalus.

Mae'n debyg mai Stadiwm Principality yng Nghaerdydd fyddai'r unig leoliad yng Nghymru i gynnal gemau, petai'r cais yn llwyddiannus.

Twrnament estynedig?

Mewn datganiad, dywedodd y pum cymdeithas bêl-droed y gallai Euro 2028 fod yn un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf erioed yn y DU ac Iwerddon.

"Mae'r bartneriaeth hon rhwng pum cymdeithas yn cynnig rhywbeth arbennig i bêl-droed Ewropeaidd, yn cynnwys y potensial i gynnal twrnament estynedig."

Ychwanegodd y datganiad y byddai'r cymdeithasau'n datblygu eu hargymhellion ymhellach dros y misoedd nesaf, yn cynnwys cynnal trafodaethau gyda dinasoedd a meysydd pêl-droed i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen, gan gynnwys asesiad o'r costau a'r buddion.

"Bydd y DU ac Iwerddon yn cynnig twrnament heb ei ail o safbwynt technegol - gyda stadia sydd â chysylltiadau ac isadeiledd ardderchog - sy'n gwneud ein partneriaeth i gynnal Euro 2028 yn un ddelfrydol.

"Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n rhaid i bêl-droed wneud popeth posib i ddangos sut all ein camp fod yn rym er daioni. Rydym yn credu'n bendant yng ngallu pêl-droed i ddod â phobl at ei gilydd."

Mae disgwyl i UEFA gyhoeddi pwy fydd yn cynnal y bencampwriaeth ym mis Medi.