Angen i brif weithredwr Betsi 'ddeall gogledd Cymru'
- Cyhoeddwyd
Rhaid i brif weithredwr nesaf Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr "ddeall gogledd Cymru," yn ôl cadeirydd y bwrdd.
Dywedodd Dyfed Edwards ei fod wedi oedi'r ymdrech i recriwtio pennaeth parhaol am y tro, er mwyn peidio "penodi'r person anghywir".
Er bod unigolion o bedwar ban byd wedi dangos diddordeb, mynnodd fod cael "empathi" a dealltwriaeth o gymunedau a phobl yr ardal yn "hanfodol".
O ganlyniad fe fydd Carol Shillabeer, o Fwrdd Iechyd Powys, yn aros fel pennaeth dros dro bwrdd iechyd y gogledd tan y gwanwyn.
'Rhaid penodi'r person iawn'
Mae Mr Edwards a Ms Shillabeer yn cydnabod fod yna waith sylweddol i'w gyflawni "er mwyn creu'r amodau lle bo llwyddiant yn bosib" ar ôl trafferthion sylweddol diweddar.
"Ma' 'na lot fawr o waith i'w wneud" meddai Dyfed Edwards.
"Ry'n ni'n sefydliad go fawr - yn lot mwy o ran maint na'n llywodraeth ni hyd yn oed ac ma' gynnon ni bresenoldeb reit ar draws y gogledd.
"Felly i greu un tîm ac un bwrdd ma' hynny'n mynd i gymryd ychydig o amser."
Beth sydd wedi digwydd yn y bwrdd iechyd?
Fe gafodd bwrdd iechyd y gogledd ei osod dan fesurau arbennig, dolen allanol gan Lywodraeth Cymru am yr eildro yn ei hanes ym mis Chwefror.
Roedd hynny'n dilyn adroddiad damniol arall ynglŷn â sut oedd y bwrdd yn cael ei arwain.
Ar yr un pryd cafodd 11 o aelodau annibynnol y bwrdd eu gorfodi i ymddiswyddo.
Cafodd cadeirydd dros dro ei benodi, ac yn fuan wedyn ymunodd Carol Shillabeer fel prif weithredwr dros dro.
Ond yn yr haf penderfynodd Dyfed Edwards oedi'r broses o recriwtio prif weithredwr parhaol.
"Fe nethon ni hysbysebu'r swydd ac roedd 'na gryn ddiddordeb," meddai Mr Edwards.
"Roeddwn i'n cael sgyrsiau â phobl mewn gwledydd amrywiol ar draws y byd a dweud y gwir.
"Ond mi oeddwn i wedi dweud o'r dechrau ma' rhaid i ni benodi'r person iawn ar gyfer y bwrdd iechyd yn y cyfnod hwn... a'r cam cyntaf i gael y person iawn yw peidio penodi'r person anghywir.
"Felly amynedd bia hi a sicrhau ein bod ni'n cael ein hunain mewn safle gwell fydd wedyn yn rhoi hyder i rywun ymuno â'r bwrdd fel prif weithredwr."
Felly a yw Mr Edwards yn credu bod deall cymunedau'r gogledd yn bwysicach na CV disglair?
"Dwi'n credu bod hynny'n hanfodol," dywedodd. "O'n i'n bownd o ddweud hynny fel rhywun sy' 'di cael ei eni a'i fagu a byw yma erioed.
"Mae'r lle yma angen rhywun sy' efo, mwy na dim byd arall, empathi.
"Dyw hynny ddim yn golygu fod rhaid iddyn nhw allu cyfeirio at gyndeidiau sy' 'di byw yma am ganrifoedd - ond eu bod nhw'n deall yr ardal, deall cymunedau, deall y boblogaeth.
"Bydd hynny'n golygu fod rhywun mewn sefyllfa dda wedyn i gynllunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol a gwneud rhai penderfyniadau heriol."
'Tybed sut beth yw cael Betsi ar eich CV?'
Yn ei chyfweliad cyntaf ers cymryd yr awenau fel prif weithredwr dros dro y bwrdd, fe wnaeth Carol Shillabeer gydnabod yr heriau mawr sydd angen eu goresgyn.
Yn eu plith yr angen i adfer enw da y sefydliad yn dilyn cyfnod o dros ddegawd o bryderon am ddiogelwch cleifion, perfformiad gwael, prinder staff a gwendidau yn llywodraethiant y bwrdd.
Ms Shillabeer yw'r seithfed prif weithredwr, parhaol neu dros dro, ar y bwrdd mewn ychydig dros ddegawd.
"Pan ddes i yma yn fy wythnos gyntaf, dywedodd rhywun wrtha i - tybed sut beth yw cael Betsi ar eich CV?
"Mae'r cwestiwn yna wedi aros gyda fi.
"Os ydych chi'n llawfeddyg, yn nyrs, yn borthor, sut brofiad yw gweithio i'r bwrdd iechyd hwn pan fydd eich cymydog yn dweud 'rydw i wedi bod yn aros tair blynedd am lawdriniaeth' neu 'dwi'n gweld eich bod chi yn y newyddion eto.'"
Ychwanegodd: "Os ydych chi'n rhoi Betsi Cadwaladr mewn i unrhyw beiriant chwilio - ar gyfrifiadur - be' sy'n mynd i ddod fyny ydy mesurau arbennig, y broblem yma, y broblem arall... pa mor braf fyddai newid y ddeialog honno?
"Er mwyn dechrau cael gwared ar label o 'sefydliad sy'n methu' - mae gwir angen i chi ddatrys y materion craidd."
Un o'r materion, sydd o bwys mawr i'r cyhoedd, yw maint rhestrau aros am driniaethau'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd.
O gymharu â byrddau iechyd eraill Cymru, mae Betsi Cadwaladr yn aml ar waelod y domen o ran niferoedd sy'n aros y cyfnodau hiraf.
Mae tua 18,000 o bobl yng ngogledd Cymru sy'n aros am driniaethau orthopedig er enghraifft.
Ond sut mae cyflymu triniaethau?
Yn Ysbyty Abergele, mae'r bwrdd wedi canoli rhai llawdriniaethau clun a phen-glin, gyda llawfeddygon o ysbytai Gwynedd, Glan Clwyd a Maelor Wrecsam yn dod i ddefnyddio'r ddwy theatr sydd wedi cael eu lleoli yno.
Gan nad yw'n ysbyty sydd ag uned frys mae'n llai tebygol y bydd llawdriniaethau'n cael eu gohirio - fel all ddigwydd mewn ysbytai mwy.
Yn ogystal, o gael cefnogaeth gan ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol yn fuan cyn neu ar ôl llawdriniaeth, mae claf yn aml yn gallu dychwelyd adref o fewn diwrnod o gael llawdriniaeth.
Ar hyn o bryd mae tua 2,000 o lawdriniaethau'r flwyddyn yn digwydd yma, y gobaith yw cynyddu hynny i 3,000.
Gobaith y bwrdd hefyd yw sefydlu "canolfan" llawdriniaethau yn y gogledd yn y pendraw.
Aros tair blynedd am glun newydd
Cyn ymddeol roedd Wyn Thomas, 66, o Landudno yn gweithio i'r bwrdd iechyd.
Ond oherwydd poen yn ei glun roedd yn teimlo na allai fwynhau ei ymddeoliad cymaint ag y byddai wedi dymuno.
Cyn i mi gwrdd ag e yn Ysbyty Abergele bu'n aros am dair blynedd am glun newydd ac roedd hynny wedi cael effaith ar ei fywyd.
"Mae'r glun wedi dirywio dros amser... mae'n atal fi rhag gwneud y pethe dwi'n licio, fel cerdded, rhedeg a chwarae sboncen ac yn y blaen.
"O'n i'n gwneud lot o gerdded a theithio i fyny tan ddwy flynedd yn ôl. Gobeithio ar ôl y llawdriniaeth fyddai'n gallu gwneud y pethau hynny eto."
Ar ôl dod i Abergele, mae Wyn yn cael ei asesu yn y bore, yn cael ei lawdriniaeth yn y prynhawn ac yn cael mynd adref erbyn y diwrnod wedyn fan bellaf.
Esboniodd: "Y drefn fan hyn yw bod hwn yn elective centre [sy'n canolbwyntio ar driniaethau sydd wedi cael eu trefnu o flaen llaw].
"Felly dyw'r pwysau o ddydd i ddydd [ar ysbytai mawr] ddim yn effeithio ar y lle 'ma. Felly mae'r meddygon a'r cleifion yn gallu bod yn eitha' sicr fod y llawdriniaeth yn mynd i ddigwydd."
Yn y ward hefyd, yn barod i ddychwelyd adref ar ôl cael pen-glin y diwrnod cynt mae John Williams, 67, o Fethel, Caernarfon.
"O'n i'n gwneud rownd lefrith cynt, a bob tro oeddwn i'n stopio i eistedd lawr roedd y ben-glin yn cloi... wedyn aeth o'n waeth.
"Bob nos pan oeddwn ni'n mynd i 'ngwely oedd o fath a chyllell yn erbyn fy mhen-glin.
"Ges i fy mhen-glin newydd ddoe a dwi'n mynd adre 'wan achos dwi 'di pasio'r test efo'r ffisiotherapydd."
Pobl wedi gweithredu 'tu hwnt i unrhyw ffiniau'
Fel cadeirydd mae Dyfed Edwards yn cydnabod fod taclo rhestrau aros hir yn flaenoriaeth.
"Mae o'n [y rhestrau aros] fy mhoeni achos dwi'n gweld o ddydd i ddydd yn fy nghymuned ac yn yr ardal ehangach, pobl ar restrau aros sydd wedi bod yn aros yn rhy hir.
"Mae 'na waith mawr iawn i 'neud a rhaid i ni fod yn ddyfeisgar a chreadigol a gweithio gyda'n gilydd ar draws y rhanbarth."
Ond ynghyd â gwella'r gofal i gleifion mae Mr Edwards hefyd yn mynnu bod angen cryfhau llywodraethiant y bwrdd yn dilyn sgandalau diweddar yn ymwneud â chyfrifon a'r penderfyniad i dalu cyflog llawer uwch nag oedd yn cael ei ganiatáu i gyn-bennaeth.
Dywedodd: "'Da ni wedi darganfod gweithredu gan rai o'r bwrdd blaenorol oedd yn mynd y tu hwnt i unrhyw gyfundrefn llywodraethiant.
"Mae'n ymddangos i fi bod brwdfrydedd pobl wedi mynd o'u blaenau nhw a phobl yn meddwl eu bod nhw yn gallu gweithredu y tu hwnt i unrhyw ffiniau.
"Wel, nid yw hynny'n bosib - ma' gyda ni reolau am reswm, cyfundrefn llywodraethiant am reswm ac fel cadeirydd fe fyddai'n gwneud pob dim i sicrhau ein bod ni'n gweithio y tu fewn i'r ffiniau yma, a ddim yn symud modfedd y tu hwnt iddyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2023
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2023