Betsi Cadwaladr methu â recriwtio prif weithredwr

Arwydd Betsi
  • Cyhoeddwyd

Mae bwrdd iechyd y gogledd wedi methu â recriwtio prif weithredwr newydd, er gwaethaf “chwilio'n ddwys”.

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ydy’r corff mwyaf yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac mae wedi cael pedwar prif weithredwr yn y pedair blynedd ddiwethaf.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru y bwrdd iechyd yn ôl o dan fesurau arbennig ym mis Chwefror oherwydd pryderon am ei arweinyddiaeth a methiant i ddelio â phroblemau diogelwch cleifion.

Mae rheolwyr yn dweud nad yw’r gwaith o chwilio am brif weithredwr newydd wedi llwyddo hyd yma, er gwaethaf gobeithion o lenwi'r swydd yn gyflym.

Ffynhonnell y llun, Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jo Whitehead ymddeol ym Medi 2022

Yn ôl y bwrdd iechyd, bydd prif weithredwr dros dro yn aros yn ei swydd tra bo’r chwilio’n parhau am ymgeisydd addas.

Fe wnaeth y prif weithredwr blaenorol, Jo Whitehead, ymddeol ym mis Medi 2022.

Cafodd pryderon eu codi fis Chwefror 2023 am y ffordd yr oedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei redeg.

Dywedodd adroddiad gan Archwilio Cymru fod tystiolaeth o “gamweithrediad a charfannau” ac “nad yw’r tîm cyfan yn unedig o amgylch y prif weithredwr dros dro [ar y pryd].

“Mae holltau eglur a dwfn o fewn y tîm gweithredol sy’n atal y tîm hwnnw rhag gweithio’n effeithiol.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Chwefror dywedodd Eluned Morgan y byddai penodi prif weithredwr newydd yn "rhan allweddol o wella perfformiad" Betsi Cadwaladr

Mewn ymateb, gofynnodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan i'r aelodau anweithredol, annibynnol ar y bwrdd iechyd ymddiswyddo, a rhoi'r sefydliad dan fesurau arbennig.

Dywedodd ar y pryd y byddai penodi prif weithredwr newydd yn rhan allweddol o wella perfformiad y GIG yng ngogledd Cymru.

“Wrth galon y gwaith i ddatblygu ac adeiladu sefydliad cynaliadwy, sy’n gallu darparu’r gwasanaethau GIG y mae pobl gogledd Cymru yn eu haeddu, fydd penodi prif weithredwr parhaol newydd,” meddai.

“Bydd y cadeirydd newydd yn arwain y gwaith o recriwtio unigolyn sydd â’r weledigaeth, yr arweiniad a’r egni angenrheidiol i ailadeiladu hyder y gweithlu a’r cyhoedd.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dyfed Edwards, cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ei bod yn hanfodol cael y person iawn

Cafodd hysbysebion ar gyfer swydd y prif weithredwr eu cyhoeddi ychydig wythnosau’n ddiweddarach, gydag ystod cyflog o £208,000 i £225,000 y flwyddyn, ond mae’r bwrdd iechyd bellach wedi cadarnhau nad oes unrhyw un wedi’i benodi i’r swydd.

Dywedodd Dyfed Edwards, cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Ni wnaeth ein hymgyrch i recriwtio prif weithredwr newydd arwain at benodiad a bydd chwiliad dwys pellach yn ailddechrau yn ystod y misoedd nesaf.

“Mae hon yn swydd hollbwysig ac mae’n hanfodol ein bod yn penodi’r person iawn i adeiladu’r diwylliant cadarnhaol a fydd yn helpu i arwain y sefydliad i ddyfodol mwy disglair."

Ffynhonnell y llun, Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd secondiad Carol Shillabeer yn parhau am y tro

Penodwyd y prif weithredwr dros dro presennol, Carol Shillabeer, ym mis Mai 2023, ac mae ar secondiad o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Ychwanegodd Dyfed Edwards: “Yn y cyfamser, rwy’n falch y bydd Carol Shillabeer yn parhau yn rôl y prif weithredwr dros dro.

“Mae gan Carol brofiad helaeth mewn swyddi prif weithredwr ac arweinyddiaeth glinigol yn y gwasanaeth iechyd ac mae’n gweithio’n galed gyda chydweithwyr ar draws y bwrdd iechyd i sicrhau ein bod yn sicrhau cyfnod o sefydlogrwydd, tra’n gwneud cynnydd wrth fynd i’r afael â rhai o’n heriau allweddol.”

'Siomedig iawn'

Mae "siomedig iawn bod neb eto isio trio am y swydd," medd Gordon Hughes - cadeirydd pwyllgor Sir Ddinbych hen Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ac aelod o'r corff cenedlaethol sydd bellach yn cynrychioli defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, Llais.

Gan gydnabod ar raglen Dros Frecwast bod "enw drwg" y bwrdd yn y blynyddoedd diwethaf yn ffactor, dywedodd bod y "rhan fwya' o'r cleifion yn meddwl bod y triniaeth maen nhw'n ca'l yn dda iawn".

Ond mae'n dadlau bod angen "mwy o adnoddau - mwy o ddoctoriaid, mwy o nyrsys, mwy o gefnogaeth" gan Lywodraeth Cymru i'r bwrdd i wella'r sefyllfa.

Awgrymodd hefyd bod angen i'r bwrdd ddod allan o fesurau arbennig cyn ystyried camau mwy radical y mae rhai wedi eu hawgrymu, fel cael dau neu dri bwrdd iechyd ar gyfer y gogledd, a fyddai'n "cymryd amser i'w wneud".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

“Y ffordd orau o ddenu prif weithredwr newydd yw cael gwared â’r tîm gweithredol presennol," medd Darren Millar

Yn rhan o ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mae etholaeth Gorllewin Clwyd, sy’n cael ei chynrychioli yn Senedd Cymru gan yr aelod Ceidwadol, Darren Millar.

Dywedodd: “O ystyried yr enw sydd gan y bwrdd iechyd, nid yw’n syndod bod recriwtio prif weithredwr newydd yn profi i fod yn her.

“Nid yn unig y bydd gan unrhyw un sy’n cymryd yr awenau dasg sylweddol o drawsnewid perfformiad y GIG yng ngogledd Cymru, ond byddant hefyd yn gorfod gweithio gyda thîm gweithredol sydd wedi camweithredu ac a ddylai fod wedi eu diswyddo - y rhan fwyaf ohonynt, amser maith yn ôl.

“Y ffordd orau o ddenu prif weithredwr newydd yw cael gwared â’r tîm gweithredol presennol fel y gall prif weithredwr newydd benodi tîm sydd â’r hygrededd a’r diwylliant y dylai pobl ei ddisgwyl gan uwch reolwyr sy’n gweithio yn ein GIG."