Plaid Cymru i 'osod sylfeini ar gyfer Cymru annibynnol'

  • Cyhoeddwyd
Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ei araith, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth gynnig polisïau i wella triniaeth canser a helpu busnesau

Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud ei fod am osod y "sylfeini cryfaf posibl" ar gyfer Cymru annibynnol wrth annerch ei gynhadledd gyntaf fel arweinydd Plaid Cymru.

Mewn araith yn Aberystwyth, fe wnaeth yr Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn gynnig polisïau i wella triniaeth canser a helpu busnesau.

Dywedodd bod angen i Gymru "ddiwygio er mwyn adeiladu" ar ôl blynyddoedd o arweinyddiaeth "rhwystredig" Llafur ym Mae Caerdydd.

Mae Mr ap Iorwerth eisoes wedi dweud na fydd yn gosod amserlen ar gyfer annibyniaeth.

Mae hynny'n wahanol i'w ragflaenydd Adam Price, a addawodd refferendwm o fewn pum mlynedd pe bai'r blaid yn ennill grym yn etholiadau diwethaf y Senedd.

Ond yn siarad fore Gwener dywedodd Mr ap Iorwerth bod "dim gwahaniaeth rhyngof i ac Adam Price o ran ein gweledigaeth i Gymru".

"Mi faswn i yn cael refferendwm yfory... oherwydd bod gen i'r hyder yna yn ein gallu ni fel cenedl i lunio gwell dyfodol ar ein cyfer ni," meddai ar Dros Frecwast.

"Ond nid dyna be' sy'n cyfri - nid be dwi'n feddwl.

"'Da ni wedi gweld twf enfawr yn y gefnogaeth i annibyniaeth a phobl sydd yn chwilfrydig o ran be all o olygu, ond 'da ni eisiau gwneud yn siŵr bod ni'n dod â mwy a mwy o bobl efo ni, oherwydd pobl Cymru fydd yn penderfynu yn y pendraw ar yr amserlen."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd cynhadledd gynta'r blaid ers i Adam Price ymddiswyddo fel arweinydd

Cafodd Mr ap Iorwerth ei benodi'n arweinydd fis Mehefin ar ôl i adroddiad damniol i ddiwylliant mewnol y blaid arwain at ymddiswyddiad Mr Price.

Hon yw'r gynhadledd gyntaf ers i adolygiad Prosiect Pawb alw ar y blaid i "ddadwenwyno diwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth".

Yn y gynhadledd, dywedodd Mr ap Iorwerth y bydd "Contract Canser Plaid Cymru" yn cynnwys cynigion ar gyfer diagnosis cyflymach a chyfraddau goroesi gwell.

Bu hefyd yn canmol polisi'r blaid i adfer Awdurdod Datblygu Cymru - y corff a oedd yn gyfrifol am ddenu buddsoddiad nes iddo gael ei ddileu gan Lywodraeth Cymru yn 2006.

Bu'n sôn am yr angen am economi sy'n "gryf, yn gynaliadwy ac yn gymdeithasol gyfiawn", gan nodi hefyd bod "rhaid i ni ddiwygio er mwyn adeiladu".

"Drwy ddiwygio'r strwythurau a'r systemau sy'n ein cynnal, sy'n addysgu ein plant, ac yn gofalu am ein rhieni, gallwn ddechrau adeiladu'r sylfeini cryfaf posibl ar gyfer Cymru annibynnol."

Plaid Cymru yw'r 'gwrthwenwyn'

Fel arweinydd, mae wedi etifeddu cytundeb â Llafur sy'n golygu bod y ddwy blaid yn cydweithio ar bolisïau allweddol, gan gynnwys deddfwriaeth i gynyddu maint y Senedd o 60 i 96 aelod, ond dim ond blwyddyn sydd ar ôl ar y cytundeb.

Roedd araith yr arweinydd yn ymosod ar Lafur a'r Ceidwadwyr wrth i'r blaid adeiladu tuag at etholiad cyffredinol, mwy na thebyg y flwyddyn nesaf, ac etholiad nesaf y Senedd yn 2026.

Fe fydd yn gobeithio am berfformiad gwell nag etholiad diwethaf y Senedd pan lithrodd Plaid Cymru i'r trydydd safle, y tu ôl i'r Ceidwadwyr.

Disgrifiodd ei blaid fel y "gwrthwenwyn i elyniaeth y Torïaid at Gymru" tra'n dweud na fydd chwarae teg i Gymru "byth" yn flaenoriaeth i blaid Lafur Syr Keir Starmer.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei benodi'n arweinydd fis Mehefin ar ôl adroddiad damniol i ddiwylliant mewnol y blaid

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru ar drothwy'r gynhadledd, dywedodd Mr ap Iorwerth: "Dwi'n edrych ar bleidiau yn San Steffan, prun ai'n Geidwadwyr neu'r blaid Lafur, fel pleidiau sydd byth yn mynd i flaenoriaethu Cymru.

"Mae hynny'n hollol amlwg.

"Mi allwn ni gael sgwrs y bore 'ma am HS2 a'r ffordd y mae'r Ceidwadwyr wedi gwrthod rhoi yr hyn sy'n ddyledus i Gymru, a'r blaid Lafur yn gwrthod gwneud adduned i roi'r hyn sy'n ddyledus i ni.

"Plaid Cymru ydi'r blaid sydd yn mynd i sefyll i fyny dros degwch, dros uchelgais i Gymru a dyna'n neges ni yn mynd i mewn i'r etholiad yma.

"Dwi'n cefnogi trydaneiddio ar draws y gogledd, wrth gwrs - dwi wedi gwneud hynny ers degawdau.

"Mae arna Lywodraeth y Deyrnas Unedig biliynau o bunnau i Gymru ar sail datblygiadau HS2 sydd wedi digwydd yn barod, a tra wrth gwrs mi wna'i ddal y llywodraeth i gyfri i wneud yn siŵr y gwnawn nhw wireddu yr adduned yma, dwi'n amau'n fawr ydyn nhw wedi meddwl o gwbl sut i'w wireddu fo.

"Y gwir ydi bod hyn yn llawer llai na'r hyn sy'n ddyledus i Gymru."

Diwylliant yn 'flaenoriaeth'

Wrth ymateb i ddiwylliant mewnol y blaid, ac adroddiad Nerys Evans Prosiect Pawb, fe ychwanegodd eu bod "wedi gwireddu nifer fawr o'r argymhellion yn barod".

"Y peth cyntaf ddywedais i wrth gyhoeddi mod i'n sefyll fel arweinydd oedd mai dyma fy mlaenoriaeth - mynd i'r afael a'r sefyllfa oeddan ni wedi canfod ein hunain ynddi fel cymaint o bleidiau eraill.

"Roedd yn amlwg ein bod ni wedi peidio gwneud yr hyn oedd angen i ni o ran ein trefniadau mewnol.

"Mae o wedi bod yn flaenoriaeth ers i mi ddod yn arweinydd a dwi wedi cael hyder ers y diwrnod cyntaf yn y ffaith bod y blaid wedi dangos mor ddifrifol ydyn nhw o ran mynd i'r afael â'r sefyllfa yma, ac rydan ni yn symud ymlaen ac wedi gwireddu nifer fawr o'r argymhellion yn barod."