Rhun ap Iorwerth: 'Etholiad nesaf yn anodd i Blaid Cymru'
- Cyhoeddwyd
Bydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn anodd i Blaid Cymru, yn ôl ei harweinydd newydd.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth y bydd y newidiadau i ffiniau etholaethau San Steffan yn creu problemau i'r blaid.
Bydd un o seddi Plaid Cymru yn diflannu o'i herwydd, tra y bydd ffiniau rhai eraill yn newid.
Fe wnaeth Mr ap Iorwerth hefyd awgrymu y byddai'n camu i ffwrdd o bolisïau treth ei ragflaenydd, gan ddweud wrth bodlediad Walescast BBC Cymru na allai'r blaid fod yr unig un yn yr etholiad sy'n addo codi trethi.
Daw ei sylwadau wedi iddo ddweud na fyddai'n gosod amserlen ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth, er i Adam Price addo y byddai pleidlais o fewn pum mlynedd petai'r blaid yn dod i rym.
Mae disgwyl etholiad cyffredinol rhywbryd yn 2024, ac fe fydd Plaid Cymru'n mynd mewn iddo â phedair sedd.
"Mi wna i ddatgan yn glir iawn ein bod ni'n mynd mewn i'r etholiad nesaf mewn cyd-destun anodd," meddai'r arweinydd, "gyda newidiadau i ffiniau'r etholaethau'n gwneud pethau'n anodd i ni."
Etholiad o "newid" fydd hi, medd Mr ap Iorwerth, "lle mae popeth wedi'i bolareiddio hyd yn oed yn fwy - glas yn erbyn coch".
"Mae e'n anochel, yn nhermau'r pwysau gan gyfryngau'r DU fydd yn edrych ar yr ornest honno rhwng Sunak a Starmer.
"Felly mae'n etholiad heriol. Does dim pwynt cuddio o hynny."
'Disgwyl mwy ond yn dymuno talu llai'
O dan arweinyddiaeth Adam Price, roedd Plaid Cymru'n galw am godi trethi er mwyn ariannu gofal cymdeithasol a'r GIG, gan gynnwys y gyfradd sylfaenol.
Fe ddywedodd Mr ap Iorwerth: "Mewn egwyddor, hoffwn i fod yn talu mwy o dreth.
"Pan 'dw i'n edrych ar wledydd sydd â gwasanaethau cyhoeddus gwell, mae eu trethi nhw'n uwch.
"Mae gennym ni sefyllfa yma yng Nghymru ac yn y DU lle 'dan ni'n disgwyl mwy a mwy ac yn dymuno talu llai a llai, a dyw'r ddau beth ddim yn cyd-fynd.
"Ond yr her, yn amlwg, yw bod y sgwrs wleidyddol yn ei gwneud hi'n anodd tu hwnt i un blaid ddweud 'iawn, 'dan ni am fod yn blaid treth uchel,' lle fydd y lleill i gyd yn dweud 'wel, gallwn ni gynnig union yr un peth â nhw, ond fyddwch chi'n talu llai o dreth'.
"Yn anffodus, does dim modd iddo fod yn fater o un blaid yn dweud 'dewch atom ni os ydych chi am dalu mwy o dreth' achos wedyn rydych chi'n creu problemau i'ch hun."
Fe wadodd Mr ap Iorwerth ei fod yn dweud na fyddai'n mynd mewn i'r etholiad gan addo i beidio codi treth incwm ar unrhyw ran o gymdeithas.
Ond fe ychwanegodd y cyn-newyddiadurwr: "'Dw i'n dweud, gyda'r pwerau sydd gennym ni nawr, dydy o ddim mor syml â dweud y gwnawn ni ychwanegu ceiniog i dreth incwm ym mhob band.
"Oherwydd, mewn argyfwng costau byw, dy'ch chi ddim eisiau bod yn cymryd arian o bocedi pobl sydd â swm cyfyngedig iawn, iawn o arian sbâr ac sydd ar incwm isel. Rhaid i ni weld system dreth flaengar."
'Plaid bositif'
Ar ôl cyfnod anodd iawn i'w blaid - yn sgil adroddiad ddaeth i'r casgliad fod yna "ddiwylliant gwenwynig" yn y blaid ac arweiniodd at ymddiswyddiad Adam Price - mae Mr ap Iorwerth yn treulio'r haf yn cwrdd ag aelodau'r blaid a'r cyhoedd, ac yn lledaenu neges "gwleidyddiaeth flaengar".
"Dyma yw'r unig ffordd 'dw i'n gallu gwneud gwleidyddiaeth - ar y droed flaen," meddai.
"'Dan ni'n gallu gwylltio mewn gwleidyddiaeth. 'Dw i ddim am i bobl weld Plaid Cymru fel plaid grac. 'Dw i am i bobl ein gweld ni fel plaid bositif."
Bydd Walescast ar BBC One Wales am 22:40 nos Fawrth, ac ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2023
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2023