Cwpl o Gaernarfon wedi canfod dyn yn cuddio yn eu car

  • Cyhoeddwyd
Helen GwynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid ei fod o yn desperate neu mewn cyflwr ofnadwy i fynd i'r ffasiwn drafferth," meddai Helen Gwyn

Mae dynes o Gaernarfon yn dweud ei bod hi "ddim yn gallu cysgu" ar ôl dod o hyd i ddyn yn cuddio yng nghist ei char wrth iddi deithio adref o Ffrainc.

Roedd Helen Gwyn, a'i gŵr Richard Morris Jones, ar eu ffordd adref o'u gwyliau haf ar y cyfandir pan gododd dyn dieithr ei ben o gefn eu car.

Mae'r cwpl yn credu bod y dyn wedi torri mewn i'r car wrth iddyn nhw aros am eu cwch ym mhorthladd Caen a chuddio yng nghist y car wrth iddyn nhw groesi'r dŵr dros nos a gyrru i ogledd Cymru - siwrne o dros naw awr.

Er i swyddogion chwilio'r cerbydau o'u blaenau "yn drylwyr" wrth iddyn nhw adael y cwch, mae'r cwpl yn dweud na ddigwyddodd hynny i'w car nhw.

Doedd y Swyddfa Gartref ddim am wneud sylw am yr achos, ond dywedodd llefarydd bod "niferoedd annerbyniol" o bobl yn croesi'n anghyfreithlon gan "roi straen ddigynsail ar ein system lloches".

Yn ôl ystadegau'r Swyddfa Gartref daeth 15,826 o bobl i'r DU drwy ddulliau anghyfreithlon rhwng Ionawr ac Awst eleni.

'Profiad dychrynllyd'

Roedd hi'n ddiwedd y prynhawn a'r cwpl ar fin cychwyn eu taith o Ffrainc pan benderfynon nhw adael eu car i gael rhywbeth i'w fwyta.

"Dwi'n argyhoeddedig, dwi'n gwybod mod i 'di cloi'r car," meddai Helen Gwyn.

Fodd bynnag, mae hi'n credu mai dyna pryd dorrodd y dyn i mewn i'r car.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen Gwyn na wnaeth swyddogion chwilio eu car wrth iddynt groesi'n ôl i mewn i Loegr

"O edrych yn ôl, mi oedd tu fewn i'r car wedi stemio.

"Dyma fi'n rhoi'r weipars ymlaen - ond tu fewn oedd o."

Fe gyrhaeddon nhw Portsmouth am tua 06:00 y bore canlynol, a gwylio'r carafanau o'u blaenau'n cael eu chwilio gan swyddogion wrth adael y cwch.

Roedd y cwpl yn disgwyl i swyddogion ar y ffin chwilio'u "car bach" nhw ond dywedodd Ms Gwyn na ddigwyddodd hynny.

"Dwi ddim yn siŵr os oedd hynny achos o'dd hi'n gynnar yn y bore, neu oeddan nhw'n brin o bobl immigration," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth i'r cwpl yrru'n ôl am Gaernarfon, fe glywon nhw "gnocio" anarferol yn dod o gefn y car.

"O'n i'n meddwl, y lon 'di o, neu'r car yn mynd."

Ond wrth deithio ar yr A494 yn ardal Queensferry, sylwodd Ms Gwyn y silff yng nghefn y car yn symud.

Fe aeth Mr Jones i wirio bod cefn y car yn dal ynghau, cyn mynd ôl i'w sedd.

'Mab i rywun'

"Fel oedd o'n dod yn ôl i eistedd, dyma'r pen yma'n dod allan drwy'r silff yn y cefn," medd Ms Gwyn.

"Pen dyn ifanc.

"Wel, roedd y gŵr wedi cynhyrfu wrth gwrs a gofyn i'r dyn be' oedd o'n wneud yn y car?"

"'I've got a coat' meddai fo gan gamu allan o'r bŵt a gafael mewn cot puffer ddu a cherdded i ffwrdd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Gwyn yn credu bod y dyn wedi dringo i mewn i'r car yn Ffrainc, ac wedi aros yno ar hyd y daith yn ôl i ogledd Cymru

Yn ôl Ms Gwyn mi oedd arwyddion bod y dyn wedi bod yn y car am rai oriau.

"Oedd o wedi agor ble mae'r fuses yn cael eu cadw yng nghefn y car ac wedi gadael pouch tybaco oedd yn amlwg wedi cael ei brynu yn Ffrainc gydag ysgrifennu arno mewn Ffrangeg."

Dywedodd Ms Gwyn ei bod wedi galw'r heddlu wedi'r "profiad dychrynllyd", ond dim ond un alwad yn ôl mae hi wedi ei derbyn ers hynny.

"Mae'r dyn yma, pwy bynnag ydy o, yn fab i rywun," meddai.

"Mae'n rhaid ei fod o yn desperate neu mewn cyflwr ofnadwy i fynd i'r ffasiwn drafferth er mwyn trio dod i mewn i'r wlad yn y ffordd yma."

'Niferoedd annerbyniol'

Dywedodd y Swyddfa Gartref nad ydyn nhw'n gwneud sylw ar achosion unigol.

Ond mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Mae'r niferoedd annerbyniol sy'n peryglu eu bywydau drwy wneud croesiadau peryglus yn rhoi straen ddigynsail ar ein system lloches.

"Fe fydd y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon yn golygu bod pobl sy'n cyrraedd y DU yn anghyfreithlon yn cael eu symud i'w gwledydd gwreiddiol neu i wlad ddiogel arall."

Pynciau cysylltiedig