'Gobeithio gallu adfer Ysgolion Sul wedi Covid'
- Cyhoeddwyd
Wrth i Ysgolion Sul Cymru wynebu'r cyfnod mwyaf heriol ers dros 200 mlynedd yn sgil Covid dywed tair o'r rhai sy'n derbyn Medal Gee eleni bod y profiadau y maen nhw wedi'u derbyn yn yr Ysgol Sul yn hynod werthfawr a'i bod yn hynod bwysig cadw Ysgolion Sul ar agor.
Wedi cyfnod Covid, dywedodd Cyfarwyddwr Cyngor Ysgolion Sul Cymru, y Parchedig Aled Davies, ei fod yn wirioneddol bryderus am y dyfodol.
Fe fyddai peidio cael Ysgol Sul yn amddifadu plant o brofiad gwbl arbennig, medd Mair Jones o Ledrod, Haulwen Lewis o Bencader a Phyllis Bell o gapel Nebo, Felindre ger Abertawe.
Mae'r tair ymhlith 12 a fydd yn derbyn Medal Gee eleni - medal sy'n cael ei rhoi i "bobl arbennig iawn, sydd wedi treulio oes ym mwrlwm a gweithgaredd yr Ysgol Sul ar hyd a lled Cymru, boed yn dysgu dosbarthiadau o blant ac oedolion, neu fel rhan o ddosbarthiadau oedolion".
Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg dywedodd Mair Jones o gapel Rhyd-lwyd, Lledrod, bod yr Ysgol Sul wedi bod yn hynod bwysig iddi gydol ei hoes.
Fe ddechreuodd fynd i'r Ysgol Sul pan yn bedair oed yn llaw ei mam-gu ym Mhen-llwyn, Capel Bangor, ac yna bu'n athrawes yng nghapeli Tabor, Llangwyryfon a Rhyd-lwyd.
"Rwy' wedi cael profiadau gwych yn yr Ysgol Sul, yn blentyn ac fel athrawes - yr Ysgol Sul wedi sydd dod â'r efengyl yn fyw i fi ac wedi cyflwyno'r Beibl fel canllaw i fywyd bob dydd," meddai.
A hithau wedi colli ei gŵr yn ifanc dywedodd: "Ma' adegau wedi bod pan mae rhywun yn amau ond pan ddowch chi drwy'r adegau tywyll 'na chi'n sylwi bo' chi wedi cael nerth i fynd trwyddo fe - mae'r Ysgol Sul a'r capel wedi bod o help mawr."
'Fel un teulu mawr'
"Mae rhywun wedi gallu rhannu profiad a chlywed am brofiadau eraill drwy'r Ysgol Sul yn y dosbarth oedolion - ond yr hyn sydd wedi rhoi pleser dibendraw i fi yw cael dysgu'r plant," ychwanegodd.
"Ar un adeg ro'dd 25 o blant yn nosbarth Mair Jenkins a finnau yn Lledrod - pawb yn yr un dosbarth ac o'n i fel un teulu mawr. Ro'dd e'n hyfrydwch o'r mwyaf i fod gyda nhw.
"I ddweud y gwir nhw ddylai gael Medal Gee - nhw sydd wedi rhoi'r amser da i fi.
"Mae hi wastad wedi bod yn bleser gweld plant yn awyddus i gymryd rhan a gweld eu brwdfrydedd yn codi arian at achosion da o'u dewis nhw - boed yn gŵn tywys, y Donkey Sanctuary neu Operation Christmas Child.
"Roedden nhw'n gweld bod pobl a phlant eraill yn llai ffodus na nhw.
"Dwi'n ddiolchgar iawn am y fedal, ond erioed wedi chwennych na meddwl am y fath fraint. Dwi'n gredwr cryf yng ngwerth yr Ysgol Sul a boed iddi barhau."
Un arall sydd wedi cael ei magu yn yr Ysgol Sul yw Haulwen Lewis, sydd yn parhau i fod yn athrawes Ysgol Sul yng nghapel Tabernacl, Pencader.
Dywed hithau hefyd ei bod wedi, ac yn parhau, i gael profiadau gwerthfawr yn yr Ysgol Sul ond ei bod yn gresynu bod niferoedd y plant a'r athrawon wedi gostwng.
'Cael gwobr bob Sul'
"Mae'r plant sy' 'da fi yn yr Ysgol Sul yn cael addysg grefyddol dda yn yr ysgol ond mae dod i'r Ysgol Sul a bod yn rhan o drafodaeth yn gwneud iddyn nhw feddwl mewn ffordd wahanol.
"Mae cyfle i bawb ofyn cwestiwn a dwi'n teimlo bod y plant eisiau gwybod mwy," meddai.
"Mae'r plant sy' gyda fi nawr rhwng pedair a 12 oed a'r dasg yw cadw'r rhai hynaf wrth iddyn nhw gael gwaith cartref ond mae rhywun yn trio cadw eu diddordeb.
"Ddydd Sul, er enghraifft ar gyfer y Gymanfa Bwnc maen nhw wedi ysgrifennu drama eu hunain yn seiliedig ar y Mab Afradlon - ond eu dewis nhw yw galw'r ddrama yn 'Y Tad Caredig'.
"Wi'n cael gwobr bob Sul o wrando a dysgu'r plant. Ni'n cael tipyn o hwyl i ddweud y gwir.
"Fy neges i rieni yw ewch â'ch plant i'r Ysgol Sul a gadael iddyn nhw benderfynu os ydyn nhw am ddod neu beidio yn hytrach na gofyn iddyn nhw ydyn nhw am fynd a hwythau ddim yn gwybod beth yw'r Ysgol Sul."
Phyllis Bell oedd diacones gyntaf capel Nebo yn Felindre ger Abertawe ac ar hyd y blynyddoedd mae'r Ysgol Sul wedi bod yn hynod o bwysig iddi.
Mae hi'n hynod o falch o dderbyn Medal Gee am ei chyfraniad clodwiw i'r capel ac wrth iddi ei derbyn mewn gwasanaeth arbennig yn Yr Allt-Wen ei neges oedd y bydd Ysgol Sul Nebo yn ailagor.
Mae'r Ysgol Sul wedi bod ar gau ers cyfnod Covid ond "dwi'n gwybod am ryw chwech o blant sydd yn yr ardal ac mae'n bwysig ein bod ni'n mynd atyn nhw a'u gwahodd i'r Ysgol Sul," meddai.
"Roedd naw dosbarth yma ar un adeg - a fy mab a'i ffrindiau yn mynychu am wyth mlynedd a hanner yn ddi-dor.
"Ydi mae'r oes wedi newid - mae yna chwaraeon a phethau eraill yn denu - ond mae'n bwysig bod yr Ysgol Sul yn parhau."
Cyflwynir y medalau eleni i:
David Gwyn Howell Jones - Hermon, Cynwyl Elfed;
Haulwen Lewis - Tabernacl, Pencader;
Jane Heulwen Mair Jones - Rhydlwyd, Lledrod;
Gwynfor Parry - Siloam, Talwrn, Llangefni;
Eleri Ames - Capel y Groes, Y Groes, Dinbych;
Margaret Elizabeth Davies - Capel y Groes, Y Groes, Dinbych;
Robert Glyn Davies - Capel Y Groes, Y Groes, Dinbych;
Nest Davies - Yr Allt-wen, Pontardawe;
Hannah Rhydwen James - Yr Allt-wen, Pontardawe;
Eiry Hannah Shopland - Yr Allt-wen, Pontardawe
a Phyllis Bell, Nebo, Felindre, Abertawe.
Yn ogystal mae Sharon Rees - Pen-rhys a'r Allt-wen, Pontardawe yn derbyn medal wrth iddi baratoi i ymddeol wedi blynyddoedd o weithio ym Mhen-rhys.
Dywedodd Aled Davies, Cyfarwyddwr Cyngor Ysgolion Sul Cymru: "Bob blwyddyn cyflwynir medalau i bobl arbennig iawn, sydd wedi treulio oes ym mwrlwm a gweithgaredd yr Ysgol Sul ar hyd a lled Cymru, boed yn dysgu dosbarthiadau o blant ac oedolion, neu fel rhan o ddosbarthiadau oedolion.
"Mae hon yn fedal y gall eglwysi gyflwyno enwau ar ei chyfer, i rai sydd dros 75 oed ac wedi bod yn ffyddlon gydol oes i waith yr Ysgol Sul.
"Braint flynyddol yw cael cyfarfod y bobl arbennig hyn a wnaeth gymaint o gyfraniad i fywyd ysbrydol ein cenedl, a da bod cyfle bob blwyddyn i gyflwyno medal yn gyhoeddus i nodi ein diolchgarwch iddynt.
"Rydym yn ddiolchgar i deulu Thomas a Sussanah Gee am eu hawydd i gefnogi'r cyflwyno hwn, ac am eu nawdd hael tuag at y trefniadau.
"Mewn dyddiau o drai yn hanes ein Hysgolion Sul, gweddïwn eto am gael gweld eraill yn ymroi i'r gwaith.
"Erys yr angen i gyflwyno'r newyddion da am Iesu Grist i blant Cymru, a gobeithiwn y bydd eraill yn cael eu hysbrydoli gan ffyddlondeb y medalwyr hyn."
Gellir clywed mwy am y stori yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwgac yna ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2021
- Cyhoeddwyd21 Awst 2021