Iolo Williams yn dychwelyd i Winterwatch ar ôl triniaeth calon

  • Cyhoeddwyd
Iolo Williams

Nôl ym mis Mai cyhoeddodd y naturiaethwr Iolo Williams na fyddai'n cyflwyno rhaglen Springwatch arall eleni ar ôl cael triniaeth ar emboledd wedi iddo gael gosod stent.

Ond gwta chwe mis yn ddiweddarch, cyhoeddodd ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru y bydd yn dychwelyd yn rhan o dîm Winterwatch yn fuan.

"'Dan ni'n mynd nôl i Arne yn Dorset dros y gaeaf, ardal hyfryd o Loegr," meddai.

"Bu'n rhaid i mi dynnu allan o'r gyfres ddwytha o Springwatch, ges i drawiad ar y galon yn annisgwyl iawn.

"Dwi'n cadw'n ffit iawn, dwi'n chwarae rygbi ers bo' fi'n 45 oed, dwi'n rhedag dwy i dair gwaith yr wythnos. O'n i'n rhedag ar hyd y gamlas a wedyn ges i drawiad ar y galon allan o ddim byd, ond oedd rhaid i fi golli allan ar Springwatch."

'Mae'n braf i ddod nôl'

Er iddo orfod gorffwys a gofalu amdano ei hun ar ôl y driniaeth, roedd yn ysu am gael gweithio eto:

"Ges i dair wythnos a hanner adra ond ar ôl tair wythnos a hanner o'n i'n meddwl, 'rargian alla i'm aros adra, felly es i nôl i'r gwaith.

Ffynhonnell y llun, Iolo Williams
Disgrifiad o’r llun,

Iolo a'i feibion - Dewi a Tomos, a'i wraig - Ceri

"Chwarae teg, oedd y wraig i ddechra yn wyliadwrus; 'paid codi hwnna, ista lawr, gorffwys', ond ar ôl tair wythnos a hanner 'nath hyd yn oed hi droi ata i a deud 'pa bryd wyt ti'n myn nôl i dy waith' achos oeddan ni'n mynd ar nerfau ein gilydd yn styc yn y tŷ!

"Ond ydi, mae'n braf i ddod nôl, maen nhw'n dîm hyfryd, nid yn unig y tîm ydach chi yn ei weld ar y teledu fel cyflwynwyr ond y tîm tu ôl y camerâu."

Disgrifiad o’r llun,

Iolo gyda rhai o gyflwynwyr y cyfresi Springwatch a Winterwatch; Chris Packham, Michaela Strachan a Gillian Burke

'Mae byd natur wedi drysu'n lân'

Dros y penwythnos fe gyhoeddwyd bod tymheredd cyfartalog y byd o leiaf 1.5C yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol ar tua traean o ddyddiau 2023.

Yn ôl gwyddonwyr, mae aros o dan y trothwy 1.5C yn hanfodol er mwyn osgoi canlyniadau mwyaf niweidiol newid hinsawdd.

Ydy Iolo'n teimlo bod y misoedd cynhesach yn effeithio byd natur yng Nghymru'n barod?

"Ydy mae o. Mae byd natur wedi drysu'n lân yn aml iawn."

Ffynhonnell y llun, Iolo Williams
Disgrifiad o’r llun,

Iolo yng nghanol mynyddoedd Eryri

Eglura: "Mae rhywun yn gweld petha fatha mae'r blodau yn yr ardd rŵan, maen nhw yn blodeuo o leia ddwywaith y rhan fwyaf ohonyn nhw.

"Mae gen i friallu gwyllt sydd wedi ail flodeuo, wrth gwrs mae hynna yn wych i'r gwenyn ond os eith hi'n oer rŵan be' mae hwnna yn mynd i 'neud iddyn nhw? Mae'n mynd i ladd llawer ohonyn nhw.

"Ar ben hynny mae gen i ddraenogod, maen nhw yn ymddangos yn ganol y gaea' weithia. Maen nhw fod yn gaeafgysgu, does yna ddim bwyd ar gael iddyn nhw, maen nhw'n mynd i golli pwysa, fyddan nhw yn medru goroesi dros y gaeaf wedyn?

"Mae o'n drysu bywyd gwyllt. Mae'r blaned yma wedi newid wrth gwrs, 'dan ni wedi gweld cynhesu ac oeri byd eang o'r blaen ond proses naturol ara' lle mae bywyd gwyllt yn gallu addasu.

"Mae'r newidiadau dynol yma yn newidiadau cyflym a fydd y rhan fwyaf o fywyd gwyllt methu addasu felly ydy, mae o yn rwbath y dylsan ni gyd boeni amdano a 'neud rhywbeth amdano."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig