Beddau: Menyw wedi marw ar ôl tagu ar falws melys
- Cyhoeddwyd
Fe dagodd menyw i farwolaeth ar ôl bwyta malws melys (marshmallows) mewn digwyddiad codi arian i dîm rygbi.
Bu farw Natalie Buss, 37, ar ôl cwympo yng Nghlwb Rygbi Beddau, Rhondda Cynon Taf nos Sadwrn.
Mae'r BBC ar ddeall ei bod hi'n cymryd rhan mewn her pan ddechreuodd hi dagu, a'i bod hi ar lwyfan ar y pryd.
Y gred yw bod hynny wedi digwydd yn ystod sesiwn bingo i godi arian i dîm dan-10 y clwb.
Mewn datganiad, talodd y clwb deyrnged i "wraig, mam a merch wych" gan ddweud eu bod wedi "colli ffrind annwyl iawn".
Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn ymchwilio.
Ddydd Llun, fe ddywedodd y clwb fod wedi digwydd yno am tua 22:10 ar 7 Hydref.
Wrth bostio ar Facebook ddydd Mawrth, dywedodd Clwb Rygbi Beddau eu bod nhw a'r gymuned wedi "torri eu calonnau".
"Nos Sadwrn fe gollon ni ffrind annwyl iawn y bydd colled fawr ar ei hôl," meddai.
"Mae pawb sy'n gysylltiedig â Chlwb Rygbi Beddau ac o fewn y gymuned wedi'n llorio wedi'r ddamwain drasig ac rydym yn ei chael yn anodd deall y teimlad o golled y mae pobl yn ei deimlo.
"Wedi dweud hyn, mae'n rhaid cydnabod bod ein colled yn ddim o'i gymharu â cholli menyw oedd yn wraig, yn fam ac yn ferch wych.
"Fel clwb rydym yn anfon ein cydymdeimlad diffuant at y teulu oll, ei ffrindiau agos ac i bawb sydd wedi'u heffeithio. Rydych chi i gyd yn ein meddyliau heddiw."
Yn dilyn y digwyddiad, fe ymatebodd nifer o glybiau'r ardal ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnig eu cydymdeimlad.
Mae'r AS lleol, Alex Davies Jones hefyd wedi postio ar-lein: "Trist iawn darllen y newyddion ofnadwy yma heddiw. Mae fy nghalon gyda phawb sydd wedi'u heffeithio ac mae fy meddyliau gyda'u teulu a'u ffrindiau."
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf eu bod nhw hefyd, fel y rheolydd iechyd a diogelwch a'r awdurdod trwyddedu lleol, yn ymchwilio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023