Johnson ddim eisiau cyfarfodydd pandemig gyda phrif weinidogion
- Cyhoeddwyd
Roedd Boris Johnson yn credu ei fod yn "anghywir" i brif weindog gael ei weld yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda Mark Drakeford a Nicola Sturgeon yn ystod y pandemig.
Daw'r sylwadau o'i dystiolaeth i'r ymchwiliad Covid.
Roedd prif weindiog Cymru yn rhwystredig gyda faint o gyfarfodydd yr oedd yn ei gael gyda Llywodraeth y DU ar y pryd.
Ond roedd Mr Johnson yn poeni y byddai gweithio'n agos gydag arweinwyr y gwledydd eraill yn gwneud i'r DU edrych fel "Undeb Ewropeaidd bychan o bedair gwlad".
"Nid fel yna, yn fy marn i, mae datganoli i fod i weithio", meddai.
Roedd gan bob gwlad eu rheolau eu hunain ar gyfer delio gyda'r pandemig, aeth yn fwy gwahanol i rai Llywodraeth y DU yn Lloegr.
Ar ôl cadeirio cyfarfodydd brys yn wreiddiol gydag arweinwyr y dair gwlad ar ddechrau'r pandemig, fe wnaeth Boris Johnson basio'r cyfrifoldeb i Michael Gove, aelod blaenllaw arall o'r llywodraeth.
'Anghywir yn weledol'
Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r ymchwiliad, dywedodd Mr Johnson ei fod yn "anghywir yn weledol" i "brif weinidog y DU i gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda phrif weinidogion eraill yr awdurdodau datganoledig, fel petai'r DU yn rhyw fath o Undeb Ewropeaidd o bedair gwlad yn cwrdd fel cyngor mewn system ffederal".
Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ysgrifennu at Lywodraeth y DU ym mis Ebrill 2020 yn gofyn am "batrwm rheolaidd" i gyfarfodydd rhwng y gwledydd datganoledig a gweinidogion San Steffan.
Ond mae'n amlwg bod gwahaniaeth barn o fewn y llywodraeth ynglŷn â sut i ddelio â'r awdurdodau datganoledig.
Roedd gweinidogion Llywodraeth y DU yn bryderus na fyddai cyfarfodydd rheolaidd o reidrwydd yn golygu y byddai'r llywodraethau eraill yn cytuno â'u hagwedd nhw tuag at Covid.
Ac roedd rhybudd mewn un cyfarfod o weinidogion llywodraeth Boris Johnson ble cafodd cais Mr Drakeford ei drafod, y gallai cyfarfodydd rheolaidd gyda Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon fod yn "geffyl trojan ffederal".
Beth yw system ffederal?
Mewn system ffederal mae grym yn cael ei rannu yn fwy hafal rhwng llywodraethau.
Nid dyna sy'n digwydd yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
Mae'r rhan fwyaf o'r grym yn parhau yn San Steffan, er gwaetha'r ffaith bod y gwledydd datganoledig yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain mewn rhai meysydd.
'Nerfus'
Roedd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart yn "nerfus" am gau'r gwledydd datganoledig allan o benderfyniadau, ac yn meddwl y gallen nhw fel llywodraeth "o bosib ymgysylltu mwy nag ydyn ni ar hyn o bryd".
Ond mae cofnodion y cyfarfod yn nodi ei fod yn meddwl bod Mr Drakeford yn rhoi ei hun yn y sefyllfa gorau "ar gyfer etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf".
Roedd Ysgrifennydd yr Alban Alistair Jack o'r farn y byddai "gweithio ar lefel swyddogol yn well" nag yn uniongyrchol gyda'r prif weidniogion, gan y byddai'n osgoi rhoi llwyfan i Nicola Sturgeon, Prif Weindiog yr Alban ar y pryd.
Mewn negeseuon WhatsApp, dywedodd cyn-ymgynghorydd Boris Johnson, Dominic Cummings, y dylai'r prif weinidog gadeirio cyfarfodydd dyddiol o ystafell gabinet Downing Street ac nid efo'r llywodraethau datganoledig "ar y [rheg] ffôn drwy'r amser chwaith, fel nad yw pobl yn gallu dweud y gwir wrthych chi".
Yn ei thystiolaeth i'r ymchwiliad covid dywedodd arbenigwr gwleidyddol, yr Athro Ailsa Henderson o Brifysgol Caeredin, fod hyn yn dangos bod llywodraeth y DU "ofn ffederaliaeth, ofn gwybodaeth yn cael ei ryddhau", ac nad oedden nhw'n ymddiried "yng nghymhellion y llywodraethau datganoledig".
Yn ei barn hi roedd y cofnodion o gyfarfod gweinidogion y DU yn un o'r dogfennau "fwyaf rhyfeddol i mi ei gweld mewn nifer o flynyddoedd".
"Ac nid oedd unrhyw awgrym yn nhrafodaethau'r llywodraeth y byddai'n gwella penderfyniadau petai mwy o leisiau o fwy o rannau o'r DU yn cael eu cynnwys."
Roedd Boris Johnson yn credu bod y gwahaniaeth mewn polisïau rhwng y pedair gwlad wedi dod yn "broblem gynyddol o ran cyflwyniad".
Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig mae'n dweud ei fod yn difaru peidio â defnyddio deddfwriaeth argyfyngau sifil posibl yn hytrach na deddfwriaeth iechyd y cyhoedd ar gyfer deddfau covid.
Byddai hyn yn golygu mai dim ond Llywodraeth y DU fyddai wedi gallu penderfynu ar y rheolau ynghylch covid, ac atal y llywodraethau datganoledig rhag dilyn eu polisïau eu hunain.
Dywedodd bod yna "wastad risg" y byddai'r llywodraethau datganoledig yn "gwneud pethau'n wahanaol a dewis mesurau mwy cyfyngol, neu un a oedd efallai'n wahanol er mwyn bod yn wahanol".
Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig, dywedodd cyn-weinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething nad oedd y cyfarfodydd rhwng llywodraethau yn "drafodaeth agored sy'n trin llywodraethau eraill yn gyfartal".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2021