Wrecsam: Diswyddo athro dros sylwadau am y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Dr Nigel HuntFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddisgrifiodd Dr Nigel Hunt arwyddion ffordd dwyieithog yn "beryglus" ac "aneglur"

Mae darlithydd a feirniadodd y defnydd o arwyddion ffordd dwyieithog wedi ei ddiswyddo gan Brifysgol Wrecsam.

Roedd Dr Nigel Hunt wedi beirniadu arwyddion ffordd Cymraeg a Saesneg, gan honni eu bod yn "aneglur" ac o bosib yn "beryglus".

Ar grŵp Facebook roedd wedi rhannu llun o arwydd ddwyieithog, gyda neges yn awgrymu bod y cynnwys yn ddryslyd ac y dylen nhw fod yn uniaith Saesneg.

Roedd Prifysgol Wrecsam wedi ymddiheuro am sylwadau Dr Hunt, gan ychwanegu eu bod yn ymchwilio i'r mater.

Ond yn dilyn cadarnhad ei fod bellach wedi ei ddiswyddo am "ddwyn anfri ar eu henw", mae'r athro wedi beirniadu'r sefydliad gan ddweud ei fod wedi ei "siomi" gyda'u "hymateb byrbwyll".

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Roedd Dr Hunt, sy'n arbenigo mewn seicoleg, wedi ei wahodd i weithio dros dro ym Mhrifysgol Wrecsam.

Mewn neges mewn grŵp cyhoeddus ar Facebook fe ddywedodd Dr Hunt: "Mae arwyddion fel hyn yn cynnwys gwybodaeth sydd - i'r rhan fwyaf o bobl - yn gwbl annealladwy.

"Gallai arwyddion dwyieithog fel hyn fod yn beryglus gan ei bod hi'n cymryd hirach i bobl ddeall y cynnwys.

"Gan nad yw'r mwyafrif o bobl yng Nghymru hyd yn oed yn deall yr arwyddion hyn... plîs defnyddiwch Saesneg yn unig."

'Siomedig gyda'r penderfyniad'

Fe ddywedodd Dr Hunt, sy'n byw yn Sir Derby ac oedd 13 mis mewn i rôl tair blynedd fel Athro Gwadd Seicoleg, iddo dderbyn llythyr oddi wrth Is-ganghellor y Brifysgol, Maria Hinfelaar, y diwrnod wedi i'w sylwadau ddod i lygad y cyhoedd.

"Rwy'n siomedig gyda'r penderfyniad," meddai Dr Hunt.

"Roedden nhw'n dweud eu bod yn mynd i gynnal ymchwiliad mewnol, mae hyn wedi ymddangos ar y cyfryngau i gyd, ond mae'n ymddangos nad oes ymchwiliad mewnol wedi bod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brifysgol wedi derbyn "nifer o gwynion" yn ogystal â "sylw negyddol" yn y wasg, medd yr is-ganghellor

"Roeddwn i'n gyrru'n ôl o Gymru pan chwythodd hyn i gyd i fyny, a'r bore wedyn derbyniais y llythyr yn dweud bod fy nghytundeb wedi ei derfynu."

Mae'r Athro Hunt yn mynnu bod ei sylwadau wedi'u seilio ar wyddoniaeth ac nid ar unrhyw deimladau yn erbyn y Gymraeg.

"Mae'n fater o ryddid barn," meddai'r Athro Hunt, "oherwydd fy mod yn wir gredu y dylai academyddion allu cyflwyno eu safbwynt heb gael ymateb negyddol gan eu cyflogwr."

Yn eu llythyr at yr Athro Hunt fe ysgrifennodd yr Is-ganghellor eu bod wedi derbyn "nifer o gwynion" yn ogystal â "sylw negyddol" yn y wasg.

"Mae'r brifysgol yn cydnabod bod gennych hawl i ryddid mynegiant; fodd bynnag, rydym o'r farn bod y cysylltiad â'r brifysgol o fewn y sylwadau hyn wedi dwyn anfri ar ein henw, ac felly mae penderfyniad wedi ei wneud i dynnu eich statws Athro Gwadd ar unwaith."

'Dim yn erbyn y Gymraeg'

Eglurodd yr Athro Hunt, sy'n derbyn triniaeth ar gyfer canser ac ar hyn o bryd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Nottingham, fod cryn amser ers iddo ddysgu yn Wrecsam oherwydd ei gyflwr.

Ychwanegodd bod ei farn am arwyddion dwyieithog "yn seiliedig ar wyddoniaeth" ac nad oedd ganddo unrhyw beth i'w wneud â'r Gymraeg.

"Fe wnes i anfon datganiad atyn nhw mewn gwirionedd, cyn y 'diswyddo', os mynnwch chi, yn siarad am ryddid i lefaru... mae cael arwyddion cymhleth, dwyieithog mewn gwirionedd yn niweidiol i yrru," meddai.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Nigel Hunt yn arbenigo mewn seicoleg, ac roedd wedi ei wahodd i weithio dros dro ym Mhrifysgol Wrecsam

"Ac mewn gwirionedd mae'r Gymraeg ar drai er gwaethaf yr ymdrechion i'w chynnal.

"Does gen i'r un barn yr un ffordd neu'r llall am y Gymraeg ei hun, ac os yw pobl eisiau siarad Cymraeg mae hynny'n hollol iawn - dydi o'n ddim byd i wneud gyda phobl, does dim byd i'w wneud â dim byd arall.

"Mae'n ymwneud yn benodol â'r ffordd mae'r iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio.

"Os oes gennych chi wybodaeth fwy cymhleth, mae gennych chi lwyth gwybyddol uwch. Os oes gennych chi lwyth gwybyddol uwch, gall hynny wedyn effeithio ar eich perfformiad yn gwneud beth bynnag yw'r dasg.

"Felly rydych chi'n cael llwyth gwybyddol uwch pan fydd gennych chi arwydd cymhleth a allai effeithio ar eich ymddygiad gyrru.

"Ac mae tystiolaeth ei fod yn effeithio ar eich ymddygiad gyrru. Felly dyna safbwynt gwyddonol a gafodd ei anwybyddu'n llwyr gan y brifysgol."