Cymru v Ariannin: 'Dim ots pwy sy'n ennill byddai'n hapus'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cymru v Ariannin: 'Tipyn o gyffro yn tŷ ni'

Bydd miloedd o gartrefi ar draws Cymru yn gweiddi'n groch dros dîm Warren Gatland brynhawn Sadwrn, ond ni fydd mor syml â hynny mewn cornel fach o Sir Gâr.

Ariannin fydd gwrthwynebwyr Cymru yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

Ond tra bydd gweddill y gymuned yn cefnogi'r cochion, cymysg fydd y darlun mewn un tŷ ym mhentref Blaen-y-Coed ger Trelech.

Yno fe fydd Ann-Marie Lewis a'r plant yn gweiddi dros Gymru.

Ond er byw yng Nghymru ers blynyddoedd mae ei gŵr, Fabio, yn wreiddiol o Batagonia ac felly'n parhau i obeithio am y gorau i'w famwlad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd lle yn y rownd gynderfynol yn disgwyl enillwyr y gem rhwng Cymru a Ariannin brynhawn Sadwrn

"Fydd na dipyn o gyffro yn tŷ ni, felly sydd wastad pan mae'r ddwy wlad yn cyfarfod," medd Ann-Marie ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

"Er bod rhan ohonom yn perthyn i'r Ariannin bydd y tri ohonom, fi, Ifan a Miriam, byddwn ni yn gweiddi dros Gymru yn sicr, does dim amheuaeth am hynny!

"Mae'n bach o hwyl, ni'n dwlu ar yr Ariannin ond yn joio'r tynnu coes a'r sbort."

'Mae'n win-win'

Yn ôl Fabio mae ei gefndir yn golygu bydd yn win-win situation, pwy bynnag fydd yn fuddugol.

"Dim ots pwy sy'n ennill byddai'n hapus," meddai.

Ffynhonnell y llun, Ann-Marie Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann-Marie yn disgwyl gêm agos brynhawn Sadwrn yn Marseille

Ond nid yw Ann-Marie yn disgwyl gêm hawdd, serch hynny.

"Dwi'n meddwl fydd yn gêm anodd yfory, dyw'r Ariannin ddim wedi bod ar eu gorau a fydd cwpl o sypreises... ma' ishe bod yn eitha gwyliadwrus.

"Mae Cymru wedi bod yn gwneud yn arbennig o dda ond fi'n credu bydd yn gem agos yfory."

Mae Ann-Marie yn disgwyl canlyniad agos 24-18 i Gymru, ond mae Fabio yn proffwydo buddugoliaeth fwy cyfforddus i Gymru, a sgôr o 32-22.

'Gêm fawr yn y ddwy wlad'

Wedi byw ym Mhatagonia am gyfnod cyn dychwelyd i Gymru, fuodd y plant yn Ysgol Gymraeg y Gaiman ac Ysgol yr Hendre yn Nhrelew, gan hefyd ddysgu Sbaeneg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rygbi yn magu poblogrwydd yn Ariannin, medd y ddau

"Mae bywyd yn fwy hamddenol mewn un ffordd," ychwanegodd Ann-Marie.

"Mae'r tywydd yn braf, dwi wrth fy modd allan yna."

Ond tra fod poblogrwydd rygbi wedi tyfu yno dros y blynyddoedd diwethaf, campau Lionel Messi a'r tîm pêl-droed - sef pencampwyr y byd presennol - sy'n dal i hawlio'r rhan fwyaf o'r sylw.

"Yn sicr mae mwy o ddiddordeb yn rygbi [yn Ariannin], yn enwedig ers iddyn nhw orffen yn drydydd yn 2007", medd Fabio.

"Er hynny mae'r Archentwyr yn fwy barod i edrych ar rygbi, ond pêl-droed yw'r gamp."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ond mae lle i fynd cyn i sêr y gamp efelychu arwyr byd pêl-droed y wlad fel Messi a Maradona

Ychwanegodd Ann-Marie: "Ers 2007 mae'r gamp wedi tyfu ond pêl-droed fydd wastad ar y brig yn yr Ariannin.

"Ond fydd hi'n gêm fawr yn y ddwy wlad yfory, fydd 'na gefnogaeth lawr yn Nhrelew ac yn yr Andes, fydd 'na Gymry Patagonia yn gwylio hefyd."

Os yw Cymru yn llwyddo i ennill yn erbyn Ariannin, yna bydd tîm Warren Gatland yn wynebu Iwerddon neu Seland Newydd yn y rownd gynderfynol ym Mharis ar 20 Hydref.

Bydd Cymru'n herio Ariannin yn Stade de Marseille ddydd Sadwrn, gyda'r gic gyntaf am 16:00.

Pynciau cysylltiedig