Cwpan Rygbi'r Byd: Biggar yn dychwelyd i herio Ariannin

  • Cyhoeddwyd
Dan BiggarFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan Biggar yn dychwelyd i'r tîm wedi iddo ddioddef anaf yn erbyn Awstralia

Mae 'na chwe newid i dîm Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Ariannin yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd ddydd Sadwrn.

Mae Dan Biggar yn dychwelyd i safle'r maswr wedi iddo fethu'r fuddugoliaeth yn erbyn Georgia oherwydd anaf.

Liam Williams fydd yn dechrau fel cefnwr - er yr amheuon ynglŷn â'i ffitrwydd - gyda Louis Rees-Zammit a Josh Adams ar yr esgyll.

George North a Nick Tompkins fydd y canolwyr gyda Gareth Davies yn dychwelyd fel mewnwr.

Dydi Gareth Anscombe ddim wedi ei enwi yn y garfan, wedi iddo ddioddef anaf cyn y gêm yn erbyn Georgia.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Wainwright fydd yn dechrau yn safle'r wythwr yn lle Taulupe Faletau

Ymhlith y blaenwyr, mae Tommy Reffell wedi ei ddewis yn y rheng-ôl gyda Jac Morgan ac Aaron Wainwright, ar ôl i Taulupe Faletau anafu ei fraich.

Mae Morgan yn gapten eto, gyda Dewi Lake yn cael ei enwi ar y fainc a Ryan Elias wedi ei ddewis fel bachwr.

Adam Beard fydd yn dechrau yn yr ail reng gyda Will Rowlands.

Tîm Cymru

Liam Williams, Louis Rees-Zammit, George North, Nick Tompkins, Josh Adams, Dan Biggar, Gareth Davies; Gareth Thomas, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Tommy Reffell, Jac Morgan (c), Aaron Wainwright.

Eilyddion: Dewi Lake, Corey Domachowski, Dillon Lewis, Dafydd Jenkins, Christ Tshiunza, Tomos Williams, Sam Costelow, Rio Dyer.

Mae hyfforddwr profiadol Ariannin, Michael Cheika, wedi dweud ei fod o'n gweld Cymru fel y ffefrynnau ar gyfer y gêm, gan awgrymu nad yw Ariannin wedi chwarae'n agos at eu potensial yn y gystadleuaeth hyd yma.

Fe orffennodd y Pumas yn ail i Loegr yng ngrŵp D, ar ôl llwyddo i guro Japan 39-27 yn eu gêm ddiwethaf.

Maen nhw hefyd wedi gorfod delio ag anafiadau, gyda chadarnhad fod y blaenasgellwr dylanwadol Pablo Matera allan o weddill y twrnamaint ar ôl dioddef anaf i'w goes.

Os yw Cymru yn llwyddo i ennill yn erbyn Ariannin, yna bydd tîm Warren Gatland yn wynebu un ai Iwerddon neu Seland Newydd yn y rownd gyn-derfynol ym Mharis ar 20 Hydref.

Bydd Cymru'n herio Ariannin yn Stade de Marseille ddydd Sadwrn, gyda'r gic gyntaf am 16:00.