Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru 43-19 Georgia

  • Cyhoeddwyd
Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymru wedi ennill eu gêm olaf yn rownd y grwpiau gan guro Georgia 43-19.

Er tipyn o bwysau gan Georgia yn yr ail hanner gwnaeth tri chais gan Louis Rees-Zammit, ynghyd ag eraill gan Tomos Francis, Liam Williams a George North sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i Gymru.

Dechreuodd y ddau dîm yn egnïol ac roedd yn amlwg fod y gêm yn mynd i fod yn ornest ffyrnig.

Sgoriodd Cymru eu cais cyntaf wedi chwarter awr, gyda Francis yn tirio'r bel wedi sgarmes oddi ar dafliad o'r lein.

Dyma ond 3ydd cais Francis yn y 76 gem mae wedi'i chwarae i Gymru, a'i gyntaf mewn Cwpan Byd.

Wedi i Gareth Anscombe ddioddef anaf cyn y gêm, Sam Costelow bu'n cicio i Gymru, a llwyddodd osod y trosiad gyntaf dros y pyst yn gyfforddus, gan sgorio ei bwyntiau gyntaf yng Nghwpan y Byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sam Costelow bu'n cicio i Gymru wedi i Gareth Anscombe ddioddef anaf cyn y gêm

Daeth ail gais y dynion mewn coch yn fuan wedyn, gyda phas hir gan Costelow yn gosod y bêl yn berffaith i Williams ei rhedeg dros y llinell.

Gyda chic gosb i ddilyn symudodd Cymru 17-0 ar y blaen.

Llwyddodd Georgia ymateb cyn diwedd yr hanner, gan fanteisio ar gamgymeriad gan Dewi Lake er mwyn i'r capten Merab Sharikadze tirio'r bêl wrth y pyst.

Gyda'r sgôr ar 17-7 parhaodd Georgia i roi pwysau ar Gymru ym munudau olaf yr hanner.

Ar ddechrau'r ail hanner cafodd pas llac yng nghanol y cae gan Georgia ei gasglu gan North a basiodd y bêl i Rees-Zammit er mwyn iddo ei rhedeg hyd y cae ar gyfer trydydd cais Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Daeth cyfle i Georgia gyda Akaki Tabutsadze bron yn cyrraedd y llinell gais, ond cafodd ei atal gan Rio Dyer.

Georgia oedd yn meddu ar y bêl am y rhan fwyaf o'r ail hanner a llwyddon nhw drosi'r meddiant yn bwyntiau.

Vano Karkadze sgoriodd eu hail gais cyn i Davit Niniashvili tirio'r bêl eto rhai munudau'n ddiweddarach er mwyn ddod a'r sgôr i 24-19.

Methodd Costelow trosi cic gosb ond wnaeth ail gais i Rees-Zammit oddi ar gic gan Williams symud Cymru i 12 pwynt ar y blaen eto.

Cafodd Taine Basham carden felen eiliadau wedi iddo ddod ar y cae, ynghyd â Davit Niniashvili o Georgia, wedi ychydig o sgarmes rhwng y ddau dîm.

Ond gorffennodd Cymru'r gêm yn gryf gyda Rees-Zammit yn sgorio'i drydydd cais cyn i North tirio'r bêl eto ym munud olaf y gêm.

Ar ôl gorffen ar frig eu grŵp bydd Cymru yn wynebu naill ai Japan neu'r Ariannin yn y rownd nesaf ym Marseille ar 14 Hydref.

Disgrifiad,

'Colli Anscombe a Faletau yn wael i Gymru'

Roedd cefnogwyr i'w gweld yn dathlu yn dilyn y gêm.

Dywedodd Andrew Evans: "Roeddwn yn falch iawn, roedd yn dda gweld rhywfaint o rygbi rhedeg cyn rownd yr wyth olaf, a chawsom hynny i raddau.

"Pe baech chi wedi dweud wrtha i [cyn y twrnamaint] y bydden ni yn y sefyllfa yma fe fyddwn i wedi dweud na, felly dwi mor falch."

Dywedodd Zoe o Gaerdydd: "Roeddwn i'n meddwl y byddai'n agosach.

"Mae wedi bod yn gyffrous iawn i wylio, rydyn ni wedi gwneud yn well nag oeddwn i'n meddwl y bydden ni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Steffan [canol] obeithion y bydd Cymru'n cyrraedd y rownd gynderfynol

Dywedodd Steffan, sy'n 10 mlwydd oed: "Roedd hi'n agos ar un adeg, ond rydyn ni ar frig y grŵp nawr felly rwy'n hapus. Dwi'n falch iawn ohonyn nhw, dwi'n credu gallan nhw gyrraedd y rownd gynderfynol.

Ychwanegodd ei fam Samantha, o Lanhari: "Roedd hi'n gêm cwbl anhygoel - ychydig yn nerfus ar adegau ond mi ddaethon nhw try yn y diwedd gyda buddugoliaeth hyderus - dwi'n hapus iawn."