Defnyddio allyriadau carbon i greu topiau poteli
- Cyhoeddwyd
Mae un o ddefnyddwyr plastig mwya'r byd - Coca-Cola - wedi cyhoeddi cynlluniau i ddefnyddio carbon o'r amgylchedd i greu topiau poteli.
Fe ddaw'r prosiect, ar y cyd gyda Phrifysgol Abertawe, wrth i'r cwmni geisio cyrraedd targed net sero erbyn 2040.
Gobaith y brifysgol yw "datblygu rhyw fath o ddatrysiad" i ddibyniaeth ein cymdeithas ar danwyddau ffosil, yn enwedig wrth gynhyrchu plastig.
Yr her, yn ôl Coca-Cola, ydy sicrhau bod y broses newydd yma yn gallu cystadlu'n economaidd gyda'r deunydd pecynnu presennol, sy'n cyfrannu carbon wrth gael ei greu.
Sut mae creu plastig o'r fath?
Yn ôl yr Athro Andreoli, pennaeth peirianneg cemegol ym Mhrifysgol Abertawe "Mae'r plastig ry'n ni'n ei gynhyrchu heddiw yn cyfrannu tipyn o garbon deuocsid i'r amgylchedd.
"Ry'n ni'n gallu creu plastigion sydd ddim yn cynhyrchu allyriadau carbon."
"Ry'n ni'n cychwyn gyda charbon deuocsid fel ein prif ddeunydd," meddai'r Athro Andreoli
"Felly rydym yn dadffosileiddio'r broses yn gyfan gwbl ac yn gwneud plastig heb danwydd ffosil a charbon ffosil."
Mae'r "hud yn digwydd" mewn electrod du bach lle mae gwefr drydanol yn mynd trwy gymysgedd o CO2 a dŵr, gan gynhyrchu ethylene - cynhwysyn allweddol yn y math hyblyg o blastig sydd fel arfer mewn topiau poteli.
"Ry'n ni eisiau profi bod y dechnoleg yn y labordy yn gweithio", meddai, gan ychwanegu y byddai "llwyddiant" yn awgrymu ffyrdd o ddatblygu'r broses ar raddfa fwy.
Ar hyn o bryd mae ethylene yn cael ei wneud fel sgil-gynnyrch rhad petrogemegau, wrth i danwydd ffosil sydd wedi'i gynhesu i dros 800C "gracio" i ffwrdd o'r moleciwlau sydd eu hangen i wneud plastig.
Fe wnaeth y broses gynhyrchu dros 260 tunnell o allyriadau CO2 - bron i 1% o holl allyriadau carbon y byd - yn 2020, yn ôl y grŵp The Global Carbon Project.
'Datrysiad'
Mae Bill Gannon yn gweithio fel swyddog ymchwil yn y brifysgol, ac yn dweud bod y dechnoleg newydd yn bwysig am ei bod hi'n gweithio heb ddefnyddio olew.
Ei obaith yw "datblygu rhyw fath o ddatrysiad" i ddibyniaeth ein cymdeithas ar danwyddau ffosil, yn enwedig wrth gynhyrchu plastig.
Yn ôl Mr Gannon, mae buddsoddiad yn hanfodol wrth geisio datblygu'r fath dechnolegau.
Yn ôl Craig Twyford - cyfarwyddwr adran fentro Coca-Cola yn Ewrop a'r Pasiffig - defnyddio plastigion sydd wedi'u hailgylchu yw'r brif ffordd y bydd y cwmni yn lleihau ei ôl troed carbon gan 30% erbyn 2030.
"Rhwng 2030 a 2040, mi fydd rhaid i ni ddechrau ar opsiynau mwy radical - edrych ar wahanol dechnolegau," meddai.
Yn ôl Mr Twyford mae angen ystyried sut mae defnyddio carbon yn y dyfodol mewn ffyrdd arloesol.
"Allwn ni ei ddefnyddio i garboneiddio ein diodydd," meddai, "neu ei ddefnyddio gydag Abertawe i greu ein defnydd pecynnu."
Ychwanegodd fod y cwmni hefyd yn ariannu ymchwil yn nhalaith California i weld a oes modd troi CO2 i siwgr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2021