Covid hir: Gadael swydd prif weithredwr Powys 'mor anodd'
- Cyhoeddwyd
![Cyn cael ei phenodi'n Brif Weithredwr Cyngor Powys roedd Dr Caroline Turner yn brif weithredwr cynorthwyol Cyngor Sir Ynys Môn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/FD75/production/_131458846_ad5afd5b-8019-41f7-81dc-02b9ae19010b.jpg)
Cyn cael ei phenodi'n Brif Weithredwr Cyngor Powys roedd Dr Caroline Turner yn brif weithredwr cynorthwyol Cyngor Sir Ynys Môn
Roedd gorfod gadael ei swydd fel prif weithredwr Cyngor Powys yn gynharach eleni oherwydd Covid hir yn "dipyn o gnoc", medd Dr Caroline Turner.
Fe ddechreuodd ar y swydd yn 2019 a'i dymuniad oedd parhau yn brif weithredwr am rai blynyddoedd eto ond ddiwedd Gorffennaf bu'n rhaid iddi ymddeol wedi iddi sylweddoli na fyddai hi'n gwella'n iawn o Covid hir.
"Ges i Covid deirgwaith - rhwng Rhagfyr 2020 a Hydref 2022 a 'nes i ddim gwella'n hollol iawn ddim un tro ond roeddwn yn dal i fedru gweithio wedi rhai wythnosau er gwaethaf cyfnodau o flinder," meddai wrth Cymru Fyw.
"Ond fis Chwefror eleni wedi i fi gael symptomau tebyg 'nes i'm gwella dim am ddau fis a dwi ddim wedi bod yn iawn ers hynny.
"Roeddwn i'n brifo drostaf yn ofnadwy, roedd fy glands wedi chwyddo ac fe ges i flinder anhygoel - blinder dwi i erioed wedi ei brofi o'r blaen yn fy mywyd.
![Roedd Dr Turner yn awyddus i rannu ei stori "gan ei bod hi'n amlwg y gall Covid hir a'i symptomau ddigwydd i unrhyw un"](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1C7F/production/_131459270_79fecd92-ecad-45a2-a961-d7f58b7a342c.jpg)
Roedd Dr Turner yn awyddus i rannu ei stori "gan ei bod hi'n amlwg y gall Covid hir a'i symptomau ddigwydd i unrhyw un"
"Roedd pob un darn o'm corff yn brifo, o'm sawdl i'm corun, a felly fues i am ddau fis - ddim yn gwneud rhyw lawer.
"Wedi deg diwrnod yn fy ngwely dyma ymdrechu i godi a thrio dod nôl i normal.
"Erbyn dechrau Ebrill o'n i'n trio cadw trefn ar y tŷ ond be 'nes i ffindio mai dim ond un 'stafell o'n i'n gallu glanhau ac wedyn o'dd rhaid i fi eistedd lawr am oriau i geisio dod drosto fo.
"Os o'n i'n mynd i siopa o'n i'n gorfod dewis i ba siop oeddwn i'n mynd - jyst prynu be oedd ei angen ac yna yn syth i'r tŷ cyn gynted â fedrwn i achos wedyn ro'n i wedi ymlâdd - a felly ro'n i am ddiwrnodau wedyn.
"Os oeddwn i'n 'neud gormod byddwn i'n cael tri, bedwar diwrnod drwg iawn - union fel o'n i efo Covid a felly dwi wedi bod ers hynny, er yn gwella'n gynt erbyn hyn."
![Mae Dr Caroline Turner yn eneidgol o Ynys Môn ac yma mae hi a'i merch Gwenan ar bont Y Borth](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/DAD5/production/_131412065_1146e7dd-73cf-4047-9b0e-fa8b40d231df.jpg)
Mae Dr Caroline Turner yn eneidgol o Ynys Môn ac yma mae hi a'i merch Gwenan ar Bont Y Borth
Dywed Dr Turner ei bod wastad wedi bod yn berson ffit ac iach ac yn un sy'n mwynhau gweithio.
Mae hi wedi gweithio ym myd llywodraeth leol a'r gwasanaeth sifil ers dros chwarter canrif.
'Ydw i am wella?'
Cyn ei phenodi'n Brif Weithredwr Cyngor Sir Powys roedd Dr Caroline Turner yn Brif Weithredwr Cynorthwyol Cyngor Sir Ynys Môn. Mae hi hefyd wedi gweithio yn Llywodraeth Cymru ac wedi bod yn diwtor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Roeddwn i'n mwynhau bod yn y gwaith a dwi wedi bod yn cadw'n ffit rhan fwyaf o'm mywyd.
"Felly mae teimlo fel hyn wedi bod yn sioc. Ro'n i'n nofio llawer pan yn 'fengach. Dwi wedi cadw'n ffit dros y blynyddoedd ac yn sicr dros y blynyddoedd diwetha' ma'. Ro'n i'n rhedeg yn rheolaidd.
"Ro'dd y cyfnod o salwch cychwynnol a methu 'neud dim yn hynod o rwystredig.
"Mi o'dd yna adegau o'n i'n meddwl - ydw i am wella? Ydw i am allu mynd nôl i nofio neu redeg? Ro'dd y cyfan yn sioc."
![Dr Caroline Turner](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/91AF/production/_131459273_7faa49c7-3d90-4f20-8724-7fe743bd77dd.jpg)
Roedd Dr Caroline Turner wedi cael Covid deirgwaith cyn cael Covid hir yn 2023
Roedd hi'n fwriad gan Dr Turner ddychwelyd i'r gwaith yn ystod yr haf.
"Ro'n i wedi gosod nod i fy hun i fynd nôl ddechrau Mehefin os allwn fynd am bythefnos gyfan heb ddiwrnod drwg ond ddigwyddodd hynny ddim.
"Es i 'Steddfod yr Urdd yn Llanymddyfri am ddiwrnod - 'nes i rili fwynhau. Doedd e ddim yn ddiwrnod arbennig o hir a 'nes i siŵr fy mod yn eistedd lawr, cael sgwrs a phaned ond ddau neu dri diwrnod ar ôl hynny doeddwn i methu gwneud rhyw lawer.
"Dyna pryd 'nes i sylweddoli bo fi ddim yn barod i fynd nôl i'r gwaith ac o'n i'n eitha upset am hynny.
"O'n i wedi adeiladu fy hun i fynd nôl a dyma sylweddoli erbyn mis Mehefin bod y blinder a'r poenau ddim yn gwella.
"Ro'n i'n dal yn cael dyddiau da ond os o'n i'n rhy brysur ro'n i'n wael eto - ddim wastad y diwrnod wedyn, weithiau deuddydd neu dridiau wedyn ac ro'n i'n gorfod mynd i orwedd.
"Mae hynny dal i ddigwydd - dwi newydd fod mewn priodas ond wedyn wedi cael dau ddiwrnod drwg," ychwanegodd Dr Turner.
![Caroline Turner](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/138D4/production/_131448008_8ff05141-0a2d-4052-8554-f1956805d905.jpg)
Ers cael Covid hir dywed Dr Caroline Turner (a welir yma gyda'i gŵr) ei bod hi'n bwysig rheoli yr hyn y mae'n ei wneud
Dywed ei bod yn awyddus i rannu ei stori gan ei bod hi'n amlwg y gall Covid hir a'i symptomau ddigwydd i unrhyw un.
"Erbyn diwedd Mehefin, dechrau Gorffennaf roedd yn rhaid i fi wneud y penderfyniad anodd i adael fy swydd - swydd roeddwn yn ei mwynhau yn ofnadwy a swydd lle mae pawb wedi bod mor gefnogol.
"Ond ro'dd rhaid gwneud hynny er mwyn fy iechyd a'n lles - ac er yn anodd dwi'n meddwl bod fi wedi gwneud y penderfyniad iawn."
Ddechrau mis Hydref fe gyhoeddodd Cyngor Sir Powys mai Emma Palmer yw'r prif weithredwr newydd a'i bod yn dechrau ar ei gwaith yn fuan.
'Pwysig peidio rhoi mewn iddo'
Dywed Dr Turner bod pob meddyg teulu ac arbenigwr meddygol wedi cymryd y salwch o ddifri a'i bod yn parhau i ddisgwyl i weld niwrolegydd.
"Mae symptomau pawb yn wahanol ond yr hyn dwi wedi bod yn ei wneud yw paco fy hun gan fod cadw'n actif yn hynod o bwysig i mi.
"Pan ro'n i'n sâl 'nes i ddechrau mynd allan i gerdded ychydig bob dydd gan gynyddu'r pellter yn raddol. Dwi hefyd wedi mynd nôl i redeg a gwneud Park Run sy' wedi bod o gymorth mawr - mae cerdded a rhedeg am yn ail yn gwbl dderbyniol, a dyna wnes i am nifer o wythnosau.
"Dwi dal ddim mor dda ag oeddwn i - flwyddyn yn ôl roeddwn i'n rhedeg yn sylweddol gyflymach nag ydw i rwan ond dwi'n derbyn mai fel yna mae petha' - dwi'n ffodus fy mod yn fyw ac yn iach, ac yn gwerthfawrogi'r hyn dwi'n gallu ei wneud.
![Caroline Turner](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/EAB4/production/_131448006_5450c348-f0c3-4150-ad71-730806f80683.jpg)
Mae cadw'r corff yn iach yn holl bwysig, medd Dr Caroline Turner, ac mae hi hefyd yn hoff iawn o gerdded a rhedeg y Park Run
"Mae cadw'n heini yn ofnadwy o bwysig, cadw'r corff yn iach, bwyta'n iach, cael awyr iach, ymarfer y corff - a dwi'n meddwl bod hyn wedi bod o help mawr i fi wella. Dwi rwan yn gallu 'neud llawer mwy na be' oeddwn i ddau fis yn ôl.
"Dwi newydd ddechrau hefyd mynd i ddosbarth gwnïo gyda Menter Caerdydd, dosbarth Mathemateg yng Ngholeg y Cymoedd a dwi rwan yn lywodraethwr ar ysgol cyfrwng Cymraeg yn Sir Caerffili.
"Mae angen trio bod yn ffit yn gorfforol ond mae'n bwysig cadw'r meddwl i fynd hefyd ynghyd â chymdeithasu.
"Mae'n anodd yn aml derbyn bod gen i Covid hir ond mae'n bwysig peidio rhoi mewn iddo, trio gweld be sy'n bosib ond hefyd gorffwys ynghanol hyn i gyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd24 Awst 2021
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2021