O Sheffield i Gwm Einion: 'Dod o hyd i iaith fy mam'
- Cyhoeddwyd
Wedi ei geni a'i magu yn Lloegr i rieni o Geredigion, roedd yr awdur Jane Blank wastad yn dyheu am ddychwelyd i Gymru ac ail-gysylltu gyda'i gwreiddiau.
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, yma mae hi'n sôn am sut ddysgodd Gymraeg er mwyn 'trwsio'r gadwyn iaith' a dorrwyd gan ei rhieni.
"I don't want to go back to stinky Sheffield!"
Roedd hi'n ddiwedd mis Awst, rhywdro yn yr 1970au, ac roedd y car yn llawn ar ôl gwyliau hir yn Eglwysfach yng Ngheredigion - y streipen hir o bentref rhwng Talybont a Machynlleth lle bu RS Thomas yn offeiriad tan 1967.
Roedd Mam yn gyrru. Athrawes oedd Mam - dyna sut o'n ni'n gallu treulio wythnosau dros yr haf efo Mamgu a Dadcu. Roedd Mam yn ei alw yn 'going home to Wales'.
Doedd Catrin a Nia, y chwiorydd iau, ddim yn crio... ond roeddwn i'n inconsolable.
Er bod fy marciwr genetig i, drwy ochr Mam, yn mynd nôl at ddiwedd Oes yr Iâ ar Ynys Prydain mae'r teulu yn gymysgedd llwyr.
Ar ochr Dad, daeth Gottlieb Blank o'r Almaen a daeth hen dad-cu i mi o Lindisfarne. Erbyn yr ugeinfed ganrif roedd y Gymraeg wedi diflannu o deulu Dad yn gyfan gwbl. Ond, nôl yng Ngheredigion, roedd y teulu yn para i siarad Cymraeg fel mamiaith.
Hanes 'hudolus' y Cymry
Roedd Mam yn llawn hiraeth dwfn. Roedd hi, a'i thad, yn raconteurs ardderchog ac roedd fy nghlustiau ifanc yn llawn straeon a chwedlau am fywyd ar Ynys Edwin, fferm fawr ar stad Ynyshir, lle cafodd ei magu.
Roedd rhywbeth hudolus i fi am Gymru. Roedd Mam a'r teulu yn sôn am fywyd ar y ffermydd ac am Dadcu yn colli ysgol i agor giatiau ar gyfer Helfa Gogerddan; am y cwnjwr a'r ddewiniaeth. Es i lan Cwm Einion, heibio tyddyn ar ôl tyddyn lle'r oedd straeon y teulu yn arllwys allan; heibio afon dywyll efo'i byllau 'Llyn y Gigfran', 'Llyn Ianto' ac 'Ogof Morris', lle'r oedd lleidr defaid wedi bod yn cuddio cyn cael ei grogi.
Ges i fy nhynnu mewn yn llwyr a, 30 mlynedd yn ddiweddarach, yn defnyddio'r testimoni yn nofelau Nanteos. Ac ar ôl ymweld â Phlas Nanteos yn y 1970au, ges i fy ysbrydoli mewn ffordd mor gryf a pharhaol, nes mod i wedi gosod fy ail a thrydedd nofel yno.
Rhan o chwedlau rhamantaidd Mam oedd ein cysylltiad efo Syr John Rhŷs Ponterwyd oedd yn perthyn i Mamgu ac yn ffigwr pwysig yn hanes y Cymry a'r Gymraeg.
Cafodd ei eni i deulu o fwyngloddwyr o Nant y Moch a thrwy addysg daeth yn un o ysgolheigion Celtaidd a golygyddion testunau Cymraeg Ganol gorau ei ddydd. Roedd e, a'i wraig a dwy ferch, yn ieithyddion penigamp. Ac 'ym myd y Sais' roedd John Rhŷs wedi llwyddo wrth ddod yn Brifathro Coleg yr Iesu yn Rhydychen a chael y teitl 'Marchog' yn 1907.
'The English Cousins'
Er mod i'n dwli ar y byd oedd yn cael ei greu drwy'r straeon am y teulu, roeddwn i'n teimlo'n drist gythreulig gan nad oeddwn i byth yn mynd i fod yn rhan ohono fe. Cymraeg oedd iaith y byd hwn.
Roedd un o'n cefnderoedd yn ein galw ni'n tair The English Cousins. Roeddwn i'n ei gasáu e! Yna wnes i addo mod i'n mynd i ddysgu Cymraeg, dod 'nôl' i fyw yng Nghymru a magu fy mhlant drwy gyfrwng y Gymraeg!
Trwsio'r 'gadwyn iaith'
Ar ôl gadael cartref wedi cwblhau'r Lefel A the heat was on i gwpla fy addewid!
Es i fyw ger Penrhyndeudraeth am flwyddyn. Roedd gyda fi lyfr o arferion Cymraeg ac roeddwn i'n ymarfer efo Mrs Jones drws nesa' a ddaeth o Lerpwl yn Landgirl yn ystod y rhyfel. Ar y pryd, roedd gymaint o Gymraeg yn yr ardal ei bod wedi gorfod dysgu'r iaith.
Dw i'n credu bod y ffaith bod pob siaradwr Cymraeg nawr yn hollol ddwyieithog yn broblem enfawr i ni. Mae siarad Cymraeg nawr yn ddewis i ni gyd.
Dydy hi ddim yn bosib 'boddi' yn yr iaith a, gan fod pawb yn gallu siarad Saesneg, mae siarad Cymraeg yn gallu cael ei weld fel ein bod yn ystyfnig, anghwrtais, hyd yn oed yn fygythiol. Mae disgwyliad y dylwn ni gyd newid i Saesneg os oes hyd yn oed dim ond un person wrth y bwrdd ddim yn siarad yr iaith.
Mae pob iaith yn marw un sgwrs, un frawddeg, hyd yn oed un gair ar y tro, ac mae dewis peidio siarad Cymraeg yn dewis colli ein hiaith. Wrth beidio ymestyn yr iaith i'n plant, ni'n torri'r gadwyn fregus ac yn eu hamddifadu o'u hetifeddiaeth am byth.
Felly, sut i drwsio'r gadwyn yma? Wel, cyrsiau a herio siaradwyr naturiol i siarad efo fi!
Ar ôl cwrdd â'r gŵr, yn enedigol o Wrecsam via Caerdydd, sydd o deulu Cymreig a gollodd yr iaith cyn yr ugeinfed ganrif, roedd pethau'n dechrau symud yn gyflymach. Roedden ni'n disgwyl babi ac yn addo siarad Cymraeg iddo fe. Gorfod dysgu, 'te!
Dod o hyd i 'iaith fy mam'
Roedd y teulu yng Ngheredigion yn hynod o dda. Roedd pawb wedi newid i Gymraeg efo ni!
Ond, roeddwn i dal ddim yn rhugl. Yna, pan oedd y babi yn saith mis oed, newidiodd popeth.
Ges i swydd fel Athrawes Saesneg yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ger Pont-y-pŵl. Oni bai am wersi'r Adran Saesneg, roedd POPETH yn mynd ymlaen drwy'r iaith Gymraeg! Roeddwn i'n boddi am y tro cyntaf, dros fy mhen bob dydd dros y blynyddoedd. Diolch o galon i gydweithwyr a'r disgyblion am gefnogi fi!
A dyna ble, ar fryn ger Pont-y-pŵl yn edrych dros y môr i Wlad yr Haf, ffeindiais i Iaith fy Mam.