Harlech: Coeden fawr yn hollti barn mewn tref yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Coeden HarlechFfynhonnell y llun, Google

Mae disgwyl i benderfyniad gael ei wneud ar ddyfodol coeden sy'n destun dadl ymhlith cymdogion yn un o drefi Gwynedd.

Roedd perchennog y tir ble mae'r binwydden wyllt aeddfed yn sefyll yn Harlech wedi trefnu i'w thorri.

Ond fe gafodd ei hatal rhag gwneud wedi i gymdogion gysylltu ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn mynegi pryderon.

Ers i'r awdurdod osod gorchymyn dros dro i warchod y goeden mae cymdogion eraill wedi datgan cefnogaeth i'r perchennog.

Maen nhw'n dadlau bod y goeden yn amharu ar olygfeydd o Fae Ceredigion ac yn peri risg o syrthio mewn tywydd garw.

Ond er y gefnogaeth yna, yr argymhelliad ydy i aelodau pwyllgor gadarnhau'r gorchymyn i'w gwarchod mewn cyfarfod ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai trigolion yr ardal yn dadlau fod y goeden yn anharddu'r olygfa yma o Fae Ceredigion

Mae'r binwydden ar dir Dinah Pickard ger Hen Ffordd Llanfair, ac ym mis Mai fe ddywedodd y ddynes wrth ei chymdogion, ei bod wedi cyflogi contractwr i'w thorri.

Cysylltodd hwythau, sydd wedi adnewyddu ffermdy cyfagos sydd bellach yn dŷ haf, yn syth â'r Awdurdod Cynllunio, i atal y torri, ac fe osodwyd Gorchymyn Cadw Coed (GCC) dros dro ar y goeden.

Ond mae cymdogion eraill yn cytuno â phryderon Ms Pickard, gan ddadlau bod y goeden wedi tyfu dros chwe throedfedd mewn 10 mlynedd.

Maen nhw hefyd yn ofni, gan ei bod mewn lleoliad agored iawn, y gallai syrthio mewn gwyntoedd cryfion.

'Mae'n niweidio fy iechyd meddwl'

Yn ôl Ms Pickard, pe byddai'r goeden yn cwympo fe allai flocio'r ffordd i dri eiddo, gan gynnwys y tŷ haf, dymchwel wal gerrig a thanc olew, a thorri llinellau trydan a theledu i bob tŷ.

"Mae meddwl am y posibilrwydd yma yn achosi pryder i mi ac mae'n niweidio fy iechyd meddwl," meddai.

Mewn llythyrau i'r Awdurdod, mae preswylwyr pum tŷ cyfagos wedi dadlau bod y goeden yn beryglus mewn tywydd gwael, yn hyll ac o rywogaeth estron, ac yn anharddu'r olygfa o Fae Ceredigion.

Mewn adroddiad i'r pwyllgor dywed Swyddog Coed a Choetiroedd yr Awdurdod Cynllunio "bod llawer o goed rhywogaethau estron yn derbyn GCC, ac er nad yw'n cael ei ystyried yn berygl penodol, mae dyletswydd o ofal ar unrhyw berchennog tir â choed, boed y coed wedi'i warchod neu beidio, i sicrhau diogelwch ymwelwyr ar eu tir yn ogystal â thir cyfagos".

Ychwanegodd bod "ganddi werth amwynder uchel iawn ac fe gyfoethogir hynny o achos ei phrinder yn enwedig o ran ei rhywogaeth, maint a'i gwelededd".