Heddwas yn cadw ei swydd ar ôl ymweliadau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Heddlu'r De ym Mhen-y-bont ar OgwrFfynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwrandawiad yn cael ei gynnal ym Mhencadlys Heddlu'r De ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae heddwas yn ardal Abertawe aeth i gael rhyw gyda'i gariad ar bedwar achlysur tra ar ddyletswydd wedi osgoi colli ei waith "o drwch blewyn".

Fe gyhoeddodd panel disgyblu rybudd ysgrifenedig terfynol i'r swyddog gyda Heddlu De Cymru, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol.

Ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2018, fe wnaeth y swyddog fynd i'r gampfa, ymweld â'i gariad ac ymweld ag aelod arall o'i deulu yn ystod oriau gwaith.

Roedd wedi honni fod uwch swyddogion wedi dweud wrtho y gallai reoli ei oriau ei hun.

Dywedodd cadeirydd y gwrandawiad, Oliver Thorne, wrtho ei fod yn "gadael y llu i lawr ac rydych wedi gadael eich hun i lawr".

Ychwanegodd fod y swyddog, sydd yn ei 40au, wedi dod "o fewn trwch blewyn" o golli ei swydd.

'Wedi gwirioni gyda'r ddynes'

Byddai'r swyddog yn newid allan o'i grys heddlu, gadael ei radio ar ôl a gyrru i gartref y ddynes, oedd ddim yn bell o'r orsaf.

Clywodd y gwrandawiad ei fod wedi treulio hyd at 45 munud yn y tŷ cyn dychwelyd i ddyletswydd.

Dywedodd nad oedd yn gwybod nad oedd yn cael gadael ei waith yn ystod ei amser cinio i fod gyda'r ddynes, a oedd yn cael ei hadnabod fel Miss A.

Dywedodd Mr Thorne fod y swyddog wedi torri côd moeseg y Coleg Plismona, sy'n nodi na ddylai swyddogion ymddwyn mewn ffordd rhywiol nac amrhriodol tra ar ddyletswydd.

"Byddai'r cyhoedd yn bryderus iawn bod swyddog yn tynnu ei hun o'i ddyletswyddau er mwyn cael rhyw," meddai Mr Thorne.

Dywedodd y bu achos bwriadol o dorri safonau a chyfrifoldebau sy'n gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Yn cynrychioli'r swyddog, dywedodd Christopher Rees KC fod y swyddog wedi bod dan straen aruthrol yn ei fywyd personol ar y pryd.

Dywedodd fod y swyddog wedi gwirioni gyda'r ddynes oedd wedi arwain at "gyfres o benderfyniadau gwael y mae'r swyddog yma wedi eu cydnabod".

'Ymddygiad heb gyrraedd y safonau'

Yn dilyn y gwrandawiad dywedodd y Prif Uwcharolygydd Mark Lenihan, Pennaeth Safonau Proffesiynol Heddlu'r De: "Mae pob heddwas yn addo cynnal y Safonau Ymddygiad Proffesiynol a'r Côd Moeseg ac mae Heddlu De Cymru yn cymryd o ddifrif y rhai sy'n methu â gwneud hynny.

"Does dim amheuaeth bod ymddygiad y swyddog heb gyrraedd y safonau a ddisgwylir.

"Mae sancsiwn Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol yn ganlyniad difrifol a bydd yn aros ar gofnod personol y swyddog am y 18 mis nesaf.

"Dylai aelodau'r cyhoedd a chymunedau de Cymru fod yn dawel eu meddwl bod Adran Safonau Proffesiynol yr heddlu yn cymryd unrhyw gŵyn neu honiad yn ymwneud ag ymddygiad unigolyn o ddifrif, fel y dangoswyd yma, ac y bydd bob amser yn sicrhau yr ymchwilir yn drylwyr i faterion o'r fath gan gymryd y camau priodol."

Pynciau cysylltiedig