Llywodraeth Cymru i roi £40m i adnewyddu Morglawdd Caergybi

  • Cyhoeddwyd
caergybiFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod am fuddsoddi gwerth £40m i adnewyddu Morglawdd Caergybi, gyda'r gobaith o ddiogelu dyfodol y porthladd.

Mae Morglawdd Fictoria yn helpu i amddiffyn Porthladd Caergybi o'r tywydd garw fel bod y llongau yn medru hwylio.

Erbyn hyn, mae'r morglawdd - sy'n "gyswllt hanfodol" rhwng y DU, Gweriniaeth Iwerddon a'r UE - wedi erydu yn dilyn tywydd stormus.

Mae'r diwydiant yn cyflogi tua 700 o swyddi'n lleol.

Mae'r buddsoddiad o £40m yn cynnwys benthyciad o £20m a grant o £20m gan Lywodraeth y DU sydd am helpu gyda'r gost o ryw £110m i adnewyddu'r morglawdd.

Ffynhonnell y llun, ANDREW WOODVINE/GEOGRAPH
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r morglawdd wedi amddiffyn porthladd Caergybi ers 1873

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Bydd y buddsoddiad hwn o £40m yn y morglawdd yn helpu i sicrhau dyfodol y porthladd ac yn diogelu swyddi."

Dywedodd fod Porthladd Caergybi - yr ail prysuraf yn y DU - yn "chwarae rhan hanfodol wrth greu ffyniant economaidd i'r rhanbarth".

Ychwanegodd Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU ei fod yn "croesawu'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru".

Mae'r porthladd yn "allweddol", meddai, i "symud miliynau o dunelli o nwyddau a chludo miloedd o deithwyr bob blwyddyn".

Dywedodd fod "adnewyddu'r morglawdd a diogelu'r porthladd a'r cyffiniau yn hollbwysig i'r cynllun hirdymor hwnnw".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r morglawdd wedi dirywio fwy na'r disgwyl yn y blynyddoedd diwethaf, medd arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi ei bod wedi "llythyru gyda sawl gweinidog" o fewn Llywodraeth Cymru ers iddi ddod yn arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn "yn pryderu am y dirywiad yn y morglawdd".

Dywedodd bod y dirywiad hwnnw "wedi gwaethygu mwy na'r disgwyl yn y blynyddoedd dwytha" a bod gwaith adnewyddu o'r herwydd yn "hanfodol" er mwyn amddiffyn y porthladd ac i atal llifogydd yn y dref ei hun.

Fe fydd sicrwydd bod y morglawdd yn ddiogel am flynyddoedd i ddod, meddai, yn "agor mwy o gyfleon economaidd", ochr yn ochr ag elfen o'r Bid Bargen Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru"i ddod â'r tir yn ôl i ddefnydd o gwmpas y porthladd".

Yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, mae'r gwaith adnewyddu yn debygol o gymryd hyd at ddwy flynedd, ac mae "rhywfaint o amharu yn ystod y cyfnod yna" i'w ddisgwyl.

Ychwanegodd ar raglen Radio Wales Breakfast bod y morglawdd "yn ased sylweddol i economi gogledd Cymru".

Rydym wedi addasu fersiwn flaenorol o'r erthygl yma i nodi fod y buddsoddiad o £40m gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys y £20m a addawyd gan Lywodraeth y DU yn gynharach eleni.

Pynciau cysylltiedig