Ymosod ar ddyn o Ddyffryn Nantlle 'am ei fod yn Fwslim'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mwslim o Wynedd yn sôn am ei brofiad o Islamoffobia

"Mae dilyn crefydd Islam yn ofnadwy o bwysig i fi," medd Ali Imanpour o Ddyffryn Nantlle, "ac mae cael rhywun yn ymosod ar yr hyn dwi'n gredu ynddo yn brifo'n ofnadwy. Dwi hefyd yn poeni y bydd fy mhlant yn cael eu targedu os ydyn nhw'n dilyn Islam."

Daw sylwadau Mr Imanpour, a symudodd i Gymru o Iran yn 1989, wrth i ffigyrau newydd gan y Swyddfa Gartref ddangos bod troseddau casineb am resymau crefyddol wedi cynyddu 26% yn ystod 2022-23.

Roedd yna hefyd fwy o droseddau yn erbyn pobl trawsrywiol (22%) ond yn gyffredinol mae nifer y troseddau casineb sy'n cael eu hadrodd i'r heddlu wedi gostwng 4%.

Fe ddangosodd ffigyrau 2021-22 bod 6,295 o droseddau casineb wedi'u cofnodi gan heddluoedd Cymru - cynnydd o dros 35% ar y flwyddyn flaenorol.

Yn ôl Becca Rosenthal, un o reolwyr Cymorth i Ddioddefwyr yng Nghymru, mae'n bosib mai llai o bobl yn rhoi gwybod i blismyn am droseddau casineb sy'n gyfrifol am y gostyngiad diweddaraf.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

'Dwi 'di cael fy mygwth oherwydd be' dwi'n coelio yn," medd Ali Imanpour o Ddyffryn Nantlle

Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg dywed Ali Imanpour o Benygroes fod dilyn crefydd Islam yn holl bwysig iddo.

"Dwi reit strict yn dilyn fo. Dwi'n gweddïo pum gwaith y dydd. 'Dan ni'n dilyn yr halal. 'Dan ni'n 'neud bob dim - bob dim mae Islam yn gofyn i fi. Mae'r crefydd yna i guido ni sut i fyw mor onest a fedran ni," meddai.

Yn 2019 cafodd un troseddwr ddirwy yn Llys Ynadon Caernarfon am ei fygwth yn eiriol ar y ffôn.

'Cymaint o Gymro ag ydw i o Fwslim'

"Dwi gymaint o Gymro â be' ydw i o Fwslim sydd yn dilyn Islam," meddai gan ychwanegu bod dioddef ymosodiad pan yn ifanc wedi'i greithio.

"'Nes i gael fy ymosod ar pan o'n i yn ifanc. O'n i be? Yn 14 dwi'n meddwl. Hwnna oedd yr adeg gynta' un lle 'na'th person ymosod arnai… o'n i ddim yn gwybod pwy oedden nhw, oedd gennai ddim syniad pwy oedden nhw.

"Wedi iddo fo ddigwydd o'n i yn gwybod pwy oedden nhw ag oedden nhw yn 'nabod fi ond do'n i ddim yn 'nabod nhw ac roedden nhw'n nabod fi fel Mwslim.

"So doedden nhw ddim yn nabod fi fel pwy o'n i, sut dwi wedi cael fy magu, pwy ydi ffrindiau fi, pwy ydi ffrindiau Mam a Dad a be' sy'n dwad hefo teulu.

"O'n i ddim ond yn Fwslim i'r person yna ac oedd hwnna'n ddigon i'r person yna ymosod arna i a phigo fi allan o griw o bump a gafael ynddo fi ag ysgwyd fi dim ond oherwydd bod fi'n Fwslim.

"So fedrwch chi ddychmygu fod rhywun 'di targedu chi yn based ar be' yda chi'n coelio?

"Dim ond hynna. Dim sut 'da chi'n edrych, dim yr iaith 'da chi'n siarad, mor bwysig â ydi hynny yn Gymru.

"Dwi 'di cael fy mygwth oherwydd be' dwi'n coelio yn. Fedrai goelio mewn unicorns os dwi isio a ddim yn poeni neb ond mae [fy ffydd Islamaidd] yn amlwg wedi poeni'r person yma.

"Dydi hynna yn gwneud dim synnwyr... Ac o'n i yn meddwl wedyn, Iesu, be' dwi fod i neud? Sut dwi'n newid? Sut dwi'n profi i bobl dwi ru'n peth ag ydi the norm yng Nghymru? A does na'm ateb.

"Dwi ddim yn gwybod, dwi'n Gymraeg, siarad Cymraeg... - dwi am i bobl Cymraeg ddeall bod fi jyst cymaint o Gymro ag ydw i o Fwslim sydd yn dilyn Islam."

'Cymorth ar gael'

Ar ddiwedd wythnos codi ymwybyddiaeth am droseddau casineb ychwanegodd Becca Rosenthal, o Cymorth i Ddioddefwyr yng Nghymru, ei fod yn bwysig bod dioddefwyr yn gwybod bod cymorth ar gael.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Becca Rosenthal, un o reolwyr Cymorth i Ddioddefwyr yng Nghymru, mae'n bosib bod llai o bobl yn rhoi gwybod i blismyn am droseddau casineb

"Mae troseddau casineb yn gallu bod yn hynod o bersonol - yn targedu pobl ar sail pwy ydyn nhw ac i rai pobl mae eu heffaith yn gallu para am hir.

"Yn sicr gall gael effaith ar hyder pobl a be 'dan ni'n ei weld fod pobl yn mynd yn ynysig ac yn ofni gwneud yr hyn roeddent yn arfer ei wneud.

"Mae troseddau casineb yn gallu effeithio ar y teulu cyfan a chymuned hefyd ac mae ymchwil yn dangos bod troseddau yn gallu achosi pwysau seicolegol anferth."

Poeni am y plant

"Dwi yn poeni am ddyfodol y plant," ychwanegodd Ali Imanpour.

"Dyw'r plant ddim yn edrych yn Fwslemaidd - dwi'n hanner Cymro ond dwi'n poeni y byddan nhw'n cael eu targedu os yn dilyn Islam.

"Os 'dach chi'n Fwslim chi'n enemy number one a mae hynna'n poeni fi.

"Munud mae pobl yn clywed am terrorists - mae pobl yn lincio fe i Mwslims a hynna dwi'n ofni.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae digwyddiadau fel yr hyn sy'n digwydd yn y Dwyrain Canol yn gallu achosi mwy o droseddau casineb, medd Cymorth i Ddioddefwyr

"Dwi'n ofni y bydd fy mhlant yn dewis peidio bod yn Fwslim oherwydd y stigma 'ma sy'n cael ei gario gan yr hyn sy'n mynd ymlaen yn y Dwyrain Canol a be sy'n y newyddion.

"Yn aml, dyw heddwch crefydd Islam ddim yn cael ei bortreadu... Dwi'n meddwl bod pobl ddim yn dallt Islam yn iawn."

Dywed Cymorth i Ddioddefwyr Cymru bod mwy o droseddau casineb yn sgil digwyddiadau sydd ar y newyddion a bod hi'n hynod o bwysig ceisio deall effeithiau yr ymladd yn y Dwyrain Canol - nid yn unig ar bobl tramor, ond ar bobl yng Nghymru a'r DU hefyd.

"Mae gan nifer berthnasau tramor sy'n dioddef yn uniongyrchol ond hefyd mae'r cyfan yn gallu cael effaith ar hunaniaeth pobl yma," medd Becca Rosenthal.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Mae cyfweliadAli Imanpour i'w glywed yn llaw yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 1230 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig