'Angen hyblygrwydd' yng nghynllun coed llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Ian RIckmanFfynhonnell y llun, UAC
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Ian Rickman ei ethol yn llywydd newydd Undeb Amaethwyr Cymru fis diwethaf

"Mae angen mwy o hyblygrwydd" - dyna neges llywydd Undeb Amaethwyr Cymru wrth iddyn nhw drafod cynllun Llywodraeth Cymru i weddnewid cymorthdaliadau amaeth.

Fe ddaw sylwadau Ian Rickman ar ôl i arweinwyr undeb arall, NFU Cymru, ddweud ar ddechrau'r Sioe Fawr yn Llanelwedd eu bod yn gwrthod y cynllun a "nad yw'n gwneud synnwyr busnes".

Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi bod yn rhan allweddol o ymateb Llywodraeth Cymru i heriau newid hinsawdd a cholledion natur.

Dywedodd Mr Rickman na fydd yn boicotio'r cynllun ac y bydd yr undeb yn cydweithio â Llywodraeth Cymru wrth drafod.

Mae disgwyl i'r cynllun ddechrau yn 2025, gan ddisodli'r hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi cyfrannu dros £300m y flwyddyn i ffermydd Cymreig.

Sail y model newydd yw gwobrwyo ffermydd am waith sydd yn amsugno allyriadau carbon, darparu cynefinoedd natur a gwella ansawdd dŵr, ymhlith pethau eraill.

Mae'n rhaid i ffermydd gytuno i gyfres o ofynion cyffredinol - gan gynnwys sicrhau bod 10% o'u tir wedi'i blannu â choed, a 10% yn rhagor yn cael ei reoli fel cynefin i fywyd gwyllt.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaw sylwadau'r ddau undeb ar ddechrau'r Sioe Fawr yn Llanelwedd

Mewn cynhadledd newyddion ar Faes y Sioe fe ddywedodd Aled Jones ac Abi Reader o undeb NFU Cymru fod y cynlluniau'n rhy gymhleth.

Dywedon nad ydyn nhw eisiau gweld coed yn cael eu tyfu ar "dir cynhyrchiol ar gyfer tyfu bwyd".

Mewn ymateb i hynny, dywedodd Gweinidog Amaeth Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, fod safbwynt arweinwyr NFU Cymru yn un "siomedig iawn".

Roedd hi'n dadlau fod "sawl sgwrs i ddigwydd eto, ac ar y foment ry'n ni'n y cyfnod ymgynghori."

'Aelodau'n methu goresgyn heb gynllun'

Mae Ian Rickman am sicrhau fod cynllun mewn lle fydd yn gallu gweithio i ffermwyr ac fe ddywedodd ei fod am weld yr holl fanylion cyn penderfynu ar ei ymateb.

Dywedodd y bydd yr undeb yn cydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn "sicrhau fod ffermydd yn gynaladwy ac yn ffynnu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae eisoes mwd o dan droed ym meysydd parcio'r Sioe Fawr

Ond roedd e'n pwysleisio "na fyddai modd i fwyafrif llethol o aelodau'r undeb oresgyn os nad oes cynllun mewn lle i'w cefnogi".

"Mae angen mwy o hyblygrwydd," dywedodd.

Fe wnaeth Lesley Griffiths A.S. alw ar ffermwyr i ymweld â stondin y Llywodraeth i ddeall mwy ynglŷn â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

"Drwy weithio gyda'n gilydd mae gennym gyfle unigryw na chawn ei debyg eto yn ein hoes i ddylunio'r cynllun cywir i ffermwyr ac i Gymru," meddai.

"Rwyf am gadw ffermwyr ar y tir, yn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gan ymdrin â'r argyfyngau hinsawdd a natur ar yr un pryd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg ar drothwy'r Sioe Fawr

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fore Llun , dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr dros faterion gwledig yn Senedd Cymru , Sam Kurtz: "Mae'r undebau a ffermwyr Cymru wedi cael dwy gic i fod yn onest.

"Os gall y gweinidog eistedd i lawr gyda'r undebau a symud ar y 10% o blannu coed dwi'n credu efallai fydd y ffermwyr yn ychydig fwy agored.

"Os dydyn nhw ddim a ymuno a'r scheme newydd 'dyn ni ddim am gael y positif mas ohono, mae'n rhaid iddi hi roi rhywfaint o obaith i'r ffermwyr."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar amaeth, Llyr Huws Gruffydd AS: "Yn ystod fy nadl ar y pwnc hwn gyda'r Gweinidog yn y Senedd fe wnes i ei hannog i ailystyried y targed o 10% am yr union reswm sydd bellach yn dod i'r amlwg.

"Os bydd ffermwyr yn pleidleisio â'u traed ac yn dewis peidio ag ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy bydd yn gadael bwlch yn strategaeth newid hinsawdd y Llywodraeth.

"Mae'n rhaid i'r Gweinidog wrando ar farn y rhai y bydd hi'n dibynnu arnyn nhw i gyflawni'r cynllun.

"Unwaith eto, rwy'n ei hannog i ailystyried y targed ac o leiaf fabwysiadu agwedd llawer mwy hyblyg at blannu coed ar y fferm."

Mae trydydd ymgynghoriad ar y cynlluniau i fod i gael ei lansio cyn diwedd y flwyddyn, gyda'r cynllun yn ei ffurf terfynol i'w gyhoeddi yn 2024.

Pynciau cysylltiedig