Ysgol Llanrug: Dadlau am ddatblygu tai ar dir Tŷ'r Ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o bobl mewn pentref yng Ngwynedd yn galw am ail-ddatblygu safle a thŷ er budd yr ysgol a chymuned, yn hytrach nac adeiladu tai newydd.
Yn ôl rhai rhieni a thrigolion yn Llanrug, mae Cyngor Gwynedd wedi newid eu bwriad gwreiddiol dros brynu tir Tŷ'r Ysgol heb ymgynghori â'r gymuned leol.
Mae Gemma Jones, sylfaenydd deiseb sydd â dros 500 o lofnodion, yn galw ar y cyngor i wneud tro pedol a rhoi'r holl safle i'r ysgol "sy'n brin o le ac ardal werdd".
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod wedi prynu'r safle "rhag ofn" y byddai angen ad-drefnu addysg yn yr ardal, ond nad oes angen hynny erbyn hyn.
'Newid defnydd o safle'
Prynodd Cyngor Gwynedd Tŷ'r Ysgol yn 2017 gan deulu'r perchennog oedd yn byw yno cyn iddo farw.
Roedd caniatâd cynllunio i adeiladu dau dŷ marchnad agored pedair llofft yng ngardd Tŷ'r Ysgol ers 2016, cyn i Gyngor Gwynedd brynu'r safle.
Er bod Ms Jones yn cydnabod bod caniatâd cynllunio i'r safle eisoes, mae'n dadlau bod Cyngor Gwynedd wedi ei brynu "yn y gobaith o ddatblygu Ysgol Gynradd Llanrug" ac nid i adeiladu tai.
Mae Robin Williams, cyn-brifathro Ysgol Gynradd Llanrug, yn cofio trafod bod y cyngor am brynu Tŷ'r Ysgol er budd yr ysgol cyn ei ymddeoliad yn 2015.
Dywedodd: "Y drafodaeth oeddan ni'n ei gael drwy'r ysgol oedd drwy Charles Wyn Jones, y cynghorydd sir ar y pryd, mewn cyfarfodydd llywodraethwyr.
"Roedd teulu diweddar berchennog Tŷ'r Ysgol wedi cysylltu 'efo Charles a bod nhw'n fodlon gwerthu y tŷ a'r safle yn ôl i'r cyngor sir. Hynny er budd yr ysgol i'r dyfodol tasa na angen estyniad arall."
Mae dogfen Cyngor Gwynedd o Hydref 2017 yn nodi'r penderfyniad dros brynu'r tir fel cyfle "i brynu safle yn Llanrug at ddibenion addysg all gyfrannu at ehangu opsiynau ar gyfer cynllunio addysg i'r dyfodol".
'Ysgol angen lle i ehangu'
Er na ddigwyddodd cynllun ad-drefnu ysgolion yn yr ardal, mae Ms Jones yn credu y dylid defnyddio'r holl safle at ddibenion addysg.
Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol dros 250 o blant a dywed Ms Jones - sy'n riant i blentyn yno - bod "yr ysgol angen lle i ehangu wrth i'r pentref dyfu".
Dywedodd: "Mae'r ysgol wedi gorfod rhoi lle parcio priodol, estyniad arall ar y neuadd, ac adeiladu dau floc sydd wedi bwyta i mewn i dir chwarae allanol y plant.
"Mae'r plant ar ben ei gilydd, maen nhw newydd ailffurfio y dosbarthiada', maen nhw wedi cael y coridor drwyddyn nhw a oedd yn le dysgu, felly mae'r dosbarthiada' yn fach i niferoedd y plant."
Er bod Cyngor Gwynedd am glustnodi cornel o'r tir i'r ysgol, dyw Ms Jones na chefnogwyr y ddeiseb ddim yn teimlo fod y llecyn yn ddigonol.
"Mae 'na botensial o gael gymaint o ardal chwarae tu allan, polytunnels i gael y plant i 'nabod natur. 'Dan ni gyd yn gwybod bod llesiant mor bwysig ar hyn o bryd," meddai Ms Jones.
"Sneb wedi cytuno i gael triongl bach yng nghefn yr ysgol, dydyn nhw [cyngor] heb ymgynghori 'efo ni."
Hoffai Ms Jones weld y tŷ a arferai fod yn gartref i bennaeth yr ysgol, "yn cael ei ailneud a'i ddefnydio fel rhan o adeiladau'r ysgol a hwb i'r gymdeithas".
Cytuno mae'r cynghorydd cymuned Rhys Parry, sy'n dweud bod yr ysgol dan "straen enfawr gyda lle", a bod y safle'n un "naturiol er mwyn sicrhau dyfodol yr ysgol".
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd nad yw "niferoedd plant yn yr ysgol yn arwain at yr angen i gynyddu maint yr ysgol ymhellach eto" yn dilyn eu haddasiadau diwethaf.
"Ar hyn o bryd mae 80 o lefydd gweigion yn Ysgol Llanrug yn dilyn adeiladu pedwar dosbarth newydd yno dros y 15 mlynedd ddiwethaf.
"Mae gwariant o £400,000 newydd ei gwblhau ar addasiadau pellach yn yr ysgol gan gynnwys darparu ystafell athrawon newydd a cynyddu maint y neuadd.
"Byddwn hefyd yn defnyddio rhan o safle Tŷ'r Ysgol ar gyfer ymestyn y gofod tu allan i'r ysgol."
Ychwanegodd y cyngor eu bod yn "parhau i ystyried defnydd priodol ar gyfer y tŷ sydd ar y safle ar hyn o bryd".
Ar hyn o bryd mae 267 cais am dŷ cymdeithasol yn Llanrug, sydd gyfystyr â 572 o bobl, ac mae 75 o drigolion wedi cofrestru gyda'r cynllun tai fforddiadwy 'Tai Teg'.
Bydd y ddau dŷ fforddiadwy newydd ar dir Tŷ'r Ysgol yn cael eu hadeiladu dan gynllun Tai Teg ac yn cael eu gwerthu ar ddisgownt i brynwyr tro cyntaf lleol.
Er yn derbyn bod angen cartrefi fforddiadwy, dywedodd Ms Jones: "Mae yna brinder tai ffoddiadwy yn y pentref fel sydd dros y wlad ond fydd yna fyth gyfle eto i'r ysgol gael ehangu, os na bod nhw'n mynd i adeiladu superschool a tynnu'r ysgol o galon y pentra'.
"Teimlad ni ydy mae yna lefydd eraill yn y pentra o fewn y ffinia' datblygu lle fasa' nhw'n gallu adeiladu tai. Mae'r ysgol angen y tir i roi'r addysg orau i'r plant."
'Dim cynghorydd i ymgynghori ar y pryd'
Yn Chwefror 2021 fe wnaeth Cyngor Gwynedd drosglwyddo tir Tŷ'r Ysgol o'r Adran Addysg i'r Adran Eiddo.
Mae'r ddeiseb yn nodi bod hyn wedi digwydd "heb ofyn i'r ysgol am angen a thra roedd gan y pentref ddim cynghorydd i'n cynrychioli".
Ychwanegodd y cynghorydd Rhys Parry: "O Dachwedd 2020 i Mawrth 2021 doedd gan Llanrug ddim cynghorydd sir. Mis Chwefror 2021 trosglwyddwyd y tir i'r Adran Eiddo."
Wrth ymateb dywedodd Cyngor Gwynedd: "Erbyn 2021 daethpwyd i'r casgliad na fyddai angen Tŷ'r Ysgol na gweddill y tir ar gyfer dibenion addysgol y dalgylch, ac yn dilyn penderfyniad pellach gan y Cabinet trosglwyddwyd y tir a oedd yn weddill i ofal yr Adran Tai ac Eiddo i'w ddefnyddio i ddiwallu anghenion tai lleol yn unol ag uchelgais Cyngor Gwynedd i gefnogi pobl Gwynedd i fyw mewn cartrefi addas a fforddiadwy yn eu cymunedau."
Dywedodd Beca Brown, cynghorydd sir Llanrug ac aelod cabinet dros addysg: "Rydw i wrth fy modd bod yr ysgol gynradd yn cael darn o dir ychwanegol rŵan er mwyn datblygu gofod dysgu tu allan, ond yn cydymdeimlo'n fawr gyda'u rhwystredigaeth nad ydi Tŷ'r Ysgol bellach wedi ei glustnodi i ddibenion addysg.
"Byddaf yn gweithio gyda'r ysgol a'r gymuned i greu cynllun ar gyfer y tŷ, er mwyn ei gyflwyno i'r cyngor."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023