Cymeradwyo codi tai ym mhentref Pwylaidd Penrhos
- Cyhoeddwyd

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio o blaid cynlluniau i ailddatblygu pentref Pwylaidd Penrhos ger Pwllheli.
O saith bleidlais i bump fe bleidleisiodd y pwyllgor fore Llun o blaid dymchwel unedau a chodi 107 o dai fforddiadwy newydd yn eu lle.
Cymdeithas Tai ClwydAlyn sydd wrth wraidd y cynllun a'r argymhelliad ger bron y cynghorwyr oedd ei ganiatáu gydag amodau.
Wrth ymateb dywedodd cyfarwyddwr datblygu ClwydAlyn, Craig Sparrow: "Ry'n yn falch o benderfyniad y pwyllgor cynllunio.
"Fe fydd cam cyntaf y cynllun - sef codi 44 o dai effeithlon o ran ynni - yn rhoi blaenoriaeth i'r trigolion sydd eisoes yn byw ym Mhenrhos a phobl yn y gymuned sydd ag anghenion isel neu ganolig."
Yn ychwanegol, fe fydd yna ddau gartref yn benodol i oedolion sydd ag anableddau dysgu.
'Gorfodi neb i adael'
"Fe fydd yna dri cham i'r cynllun er mwyn lleihau unrhyw amharu ar y trigolion sy'n byw ar y safle," meddai Mr Sparrow.
"Bydd hi'n bosib i breswylwyr fyw yn eu cartrefi presennol tan bod y tai newydd yn barod ac yna fe fydd modd iddyn nhw benderfynu be maen nhw am wneud. Fydd neb yn cael ei orfodi i adael ei gartref."
Roedd rhai preswylwyr lleol wedi dweud eu bod yn poeni am y cynlluniau.
Mae'r Pwyliaid wedi bod ym Mhen Llŷn ers cyfnod yr Ail Ryfel Byd pan oedd canolfan yr awyrlu ym Mhenrhos.

Mae yna damaid o Wlad Pwyl wedi bod ym Mhen Llŷn ers degawdau

Tu fewn i dir y cartref mae cofeb i gadfridog Pwylaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, Władysław Anders
Cyn i Gymdeithas Tai ClwydAlyn fanylu ar y cynlluniau dywedodd Maria Owsianks, sy'n 90 oed: "Symudais i yma gyda fy ngŵr bum mlynedd yn ôl i fyw yn agosach i'm teulu.
"Dw i'n hynod o siomedig bod y cais cynllunio yn cynnig dymchwel y pentref. Mae yna bobl ym Mhentref Pwylaidd Penrhos a gafodd, fel eu plant, eu gyrru allan o'u cartrefi gan y Sofietiaid a'u hanfon i Siberia.
"Cefais fy nhaflu allan o fy nghartref yn 11 oed... daethom i Benrhos ar ddiwedd ein hoes gan ddisgwyl hafan ddiogel.
"Nid oeddem yn disgwyl cael ein gorfodi allan o'n cartrefi eto."
'Wir isio cartref gofal yna'
Roedd y cynghorydd Angela Russell, sy'n cynrychioli Llanbedrog ar Gyngor Gwynedd, o blaid y cynllun.

Mae'r Cynghorydd Angela Russell yn gefnogol i gynlluniau y gymdeithas dai
Dywedodd: "Tai fforddiadwy fyddan nhw a fath â pentref gofal achos dyna 'dan ni isio.
"'Dan ni wir isio cael gweld cartref gofal yna… dwi'n gwybod nad ydyn nhw ddim ar y plania' yma ond hwnnw ydi'r main game felly …hwnnw 'dan ni isio a'r tai 'ma sy'n gorfod dod gyntaf."
Dywedodd fod yna angen mawr am gartrefi fforddiadwy yn yr ardal.

Safle Penrhos fel y mae ar hyn o bryd

Darlun artist o sut y mae disgwyl i'r unedau gorffenedig edrych
Ychwanegodd Craig Sparrow: "Ry'n wedi ymrwymo hefyd i ddatblygu cartref gofal newydd ac yn cydweithio â Chyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr drwy edrych ar y gwahanol ddewisiadau i gynnal gwasanaeth gofal arloesol ar y safle ond fe fydd hwnnw yn rhan o gais cynllunio ar wahân.
"Ers blynyddoedd mae'r safle wedi bod yn hafan sy'n darparu llety hanfodol i Bwyliaid a fu'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac a arhosodd ym Mhrydain wedi'r Ail Ryfel Byd.
"Mae hwn yn ddatblygiad hir dymor i ClwydAlyn ac fe fyddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid a'r gymuned leol wrth lunio cynlluniau'r dyfodol.
"Ry'n yn deall bod rhai preswylwyr yn poeni am yr ailddatblygu - ond ry'n yn angerddol am barhau y naws gymunedol sydd ar hyn o bryd ym Mhenrhos wrth i ni gamu i bennod newydd yn ei hanes."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2016