Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Siom i'r rhanbarthau Cymreig

  • Cyhoeddwyd
Sgoriodd Liam Belcher un o dri cais CaerdyddFfynhonnell y llun, Mark Lewis/Huw Evans Agency

Caerdydd 22-23 Benetton

Fe anfonwyd Ciaran Parker o'r maes ar ei ymddangosiad cyntaf i'r Gleision wrth i'r ymwelwyr fanteisio ar gic gosb hwyr i selio buddugoliaeth ddramatig ar Barc yr Arfau.

Roedd hi'n ymddangos fod y prif hyfforddwr newydd, Matt Sherratt, am sicrhau'r cychwyn perffaith pan oedd Caerdydd 19-3 ar y blaen.

Sgoriodd Liam Belcher, Rhys Carre ac Ellis Bevan i gyd o fewn 13 munud wrth i'r tîm cartref reoli'r gêm.

Ond croesodd Gianmarco Lucchesi a Tomas Albomoz ar y naill ochr i'r egwyl cyn i gic gosb Jacon Umaga wedi 79 munud gipio'r fuddugoliaeth.

Ffynhonnell y llun, Inpho

Connacht 34-26 Y Gweilch

Llwyddodd Connacht i wrthsefyll ymdrechion y Gweilch i sicrhau cychwyn perffaith i Pete Wilkins fel prif hyfforddwr gyda buddugoliaeth o 34-26 yn Galway.

Fe wnaeth hat-tric o geisiau Caolin Blade yn yr hanner cyntaf helpu'r dalaith i fynd ar y blaen o 27-5 ar yr egwyl.

Cathal Forde oedd sgoriwr ceisiau arall Connacht yn yr ail hanner gyda'i gais yn helpu i sicrhau'r fuddugoliaeth,

Ond croesodd Keelan Giles, Reuben Morgan-Williams, James Ratti a Rhys Davies i sicrhau bod y Gweilch o leiaf yn achub pwynt bonws.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Y Dreigiau 17-22 Caeredin

Brwydrodd Caeredin yn ôl i guro'r Dreigiau ar domen eu hunain.

Sicrhaodd ceisiau cynnar gan Sio Tomkinson a Corey Baldwin y dechrau perffaith i'r Dreigiau ar Rodney Parade.

Ond cadwodd esgid Ben Healy Gaeredin yn y gêm, ac roedd hi'n addo diweddglo cyffrous wedi cais gan Ben Vellacott 15 munud cyn y diwedd.

A Healy gafodd y gair olaf, gan gicio dwy gic gosb hwyr i selio buddugoliaeth i dîm prifddinas yr Alban.

Ffynhonnell y llun, Rex Features

Bulls 63-21 Scarlets (Sul)

Roedd hi'n grasfa i'r Scarlets yn Ne Affrica wrth i'r Bulls sgorio naw cais ym Mhretoria.

Sgoriodd Taine Plumtree ddwywaith wrth wneud argraff ar ei ymddangosiad cyntaf i'r Scarlets wedi i Johnny McNicholl groesi.

Ond roedd y Bulls eisoes wedi sicrhau pwynt bonws o fewn 24 munud yn unig - diolch i ymdrechion Ruan Nortje, Cameron Hanekom a Johan Grobbelaar.

Ychwanegon nhw bum cais arall yn yr ail hanner i sicrhau fod y Scarlets yn ildio 60 pwynt mewn gêm gynghrair am y tro cyntaf erioed.