Pobl yn cael eu hatal rhag siarad Cymraeg - comisiynydd
- Cyhoeddwyd

Mae Efa Gruffudd Jones yn dweud bod bod angen mynd i'r afael â'r her o greu awyrgylch lle gellir defnyddio'r Gymraeg yn naturiol bob dydd
Mae angen i sefydliadau ar draws Cymru nid yn unig i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, ond i'w hyrwyddo hefyd, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Yn ei hadroddiad sicrwydd cyntaf ers cychwyn ei swydd fel comisiynydd, dywedodd Efa Gruffudd Jones ei bod yn bryderus bod "canran sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn cael eu hatal rhag siarad yr iaith yn eu bywydau bob dydd".
Mae adroddiad 'Codi'r Bar' yn rhoi darlun o'r ffordd y mae sefydliadau yn meddwl am y Gymraeg wrth lunio polisïau ac wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau yn y Gymraeg.
Dywed y comisiynydd bod lefelau cydymffurfiaeth yn gyffredinol wedi gwella - yn enwedig ymysg cyrff sydd wedi dod o dan Safonau'r Gymraeg ers amser ond bod angen mynd i'r afael â'r her o greu awyrgylch lle gellir defnyddio'r Gymraeg yn naturiol bob dydd.
Mae hyn yn golygu gwella'r gwasanaethau a gaiff eu cynnig ar lafar i bobl, boed hynny dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, meddai.
'Angen mwy o bwyslais ar y Gymraeg fel sgìl'
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, mae'r gweithle yn allweddol o safbwynt yr iaith.
"Mae twf mewn addysg Gymraeg yn hanfodol ond mae angen sicrhau hefyd fod cyfleoedd i'n pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg yn y byd gwaith wedi hynny," meddai.

Mae angen sicrhau fod pobl ifanc yn gallu defnyddio'r Gymraeg wedi iddyn nhw adael addysg, medd Comisiynydd y Gymraeg
"Mae'n braf gweld fod gwasanaethau ysgrifenedig Cymraeg ar gael yn helaeth ond prin yw'r cynnydd yn y gwasanaethau llafar sydd ar gael sef yr hyn y mae pobl yn ei ddweud y maent ei eisiau yn fwy na dim.
"Rwy'n cydnabod fod recriwtio er mwyn cyflenwi'r gwasanaethau hyn yn medru bod yn heriol ond mae angen rhoi mwy o bwys ar y Gymraeg fel sgìl ac rwy'n annog sefydliadau i greu strategaethau cynllunio gweithlu dwyieithog."
Ymysg y canfyddiadau eraill o'r adroddiad mae:
95% yn derbyn cyfarchiad yn y Gymraeg wrth wneud galwad ffôn i sefydliad cyhoeddus;
90% o negeseuon Twitter a Facebook sefydliadau cyhoeddus ar gael yn Gymraeg;
Y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg mewn 33% o'r tudalennau wê a arolygwyd dros y flwyddyn;
72% yn cytuno bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella;
Bron i 75% o siaradwyr Cymraeg yn gweld fod cyfle iddynt ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Negyddiaeth at y Gymraeg yn niweidiol
Un elfen bryderus a ddaeth i'r amlwg, medd y comisiynydd, oedd fod canran sylweddol o siaradwyr Cymraeg wedi cael profiad o rywun arall yn eu hatal rhag siarad yr iaith yn eu bywydau bob dydd.
Nododd 18% eu bod wedi profi hyn dros y 12 mis diwethaf ond roedd hynny yn cynyddu i 29% ymhlith y rhai, rhwng 16 a 34 oed, a holwyd.
Mae hon yn sefyllfa hollol annerbyniol meddai Efa Gruffudd Jones.
"Mae'r math hwn o negyddiaeth tuag yr iaith Gymraeg, heb os, yn effeithio ar hyder siaradwyr Cymraeg ac yn siŵr o gael effaith ar lefelau defnydd o'r Gymraeg."
Mae'r comisiynydd yn credu fod sefydliadau yn awyddus "i wella yn barhaus".

Hoffwn weld pob sefydliad yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau fod egwyddorion Mesur y Gymraeg,' medd Efa Gruffudd Jones
"Ers cychwyn yn y swydd hon ddechrau'r flwyddyn rwyf wedi cael y cyfle i gyfarfod a sgwrsio gyda nifer fawr o'n rhanddeiliaid ac mae'r agwedd yn gyffredinol yn gadarnhaol tuag at y Gymraeg.
"Hoffwn weld pob sefydliad yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau fod egwyddorion Mesur y Gymraeg wedi eu gwreiddio'n ddwfn yn eu sefydliadau a'u bod hefyd yn gosod arweiniad sy'n croesawu'r defnydd o'r Gymraeg.
"Byddaf yn parhau i fonitro ac yn ymyrryd lle bo angen gan gynnig cymorth ac arweiniad er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn ganolog i'n gwasanaethau cyhoeddus," ychwanegodd.
'Mae 'na awydd mawr i ddysgu'r iaith'
Wrth ymateb i gynnwys yr adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol - sy'n darparu nifer o gyrsiau wedi eu teilwra ar gyfer y gweithle - bod y galw am eu gwasanaeth yn fwy nag erioed.
Dywedodd Dona Lewis wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru: "Ma' cynllun Cymraeg gwaith y ganolfan yn cynnig ystod eang o hyfforddiant, rhywbeth sydd gobeithio, yn gallu cael ei dderbyn gan weithwyr dim ots pa fath o waith ma' nhw'n ei wneud.
"'Da ni'n cynnig cyrsiau dwys, cyrsiau codi hyder a chyrsiau preswyl - ac yn aml mae'r hyfforddiant wedi ei deilwra ar gyfer sectorau penodol.
"'Da ni wedi gweld y cynllun yn mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2017 - 'da ni wedi darparu gwasanaethau i tua 1,500 o gyflogwyr, cyflogwyr sydd yn aml angen cyd-ymffurfio a'r safonau, ond nid dim ond hynny yn angenrheidiol.

Cafodd Dona Lewis ei phenodi'n brif weithredwr ar y ganolfan ym mis Rhagfyr 2022
"Mae 'na awydd mawr i ddysgu'r iaith. 'Da ni'n trafod lot efo nifer fawr o gyflogwyr - am y fath o gymorth maen nhw ei angen, o ran pa fath o hyfforddiant sy'n addas, pa fath o hyfforddiant sy'n bosib iddyn nhw ei gynnal, ond yn sicr 'da ni di gweld y galw yn cynyddu dros y blynyddoedd," meddai Ms Lewis.
"Mae hyder yn rhan fawr o'n harlwy ni yma yn y ganolfan. Dydi dysgu iaith ddim yn digwydd ar ei ben ei hun - mae'n rhaid gwneud hynny wrth feddwl am ei defnyddio hi a chodi hyder i neud hynny.
"Mae rhan fawr o'r hyn 'da ni'n ei neud efo dysgwyr yn ymwneud a defnyddio'r Gymraeg sydd gyda nhw, a gwneud hynny yn gyfforddus a hyderus.
"Mae'r galw wedi cynyddu, ag ymateb i'r galw ydi'r her fawr i ni... 'da ni'n ceisio gwneud hynny mewn ffordd arloesol a chreadigol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022