Starmer: Llafur am amddiffyn swyddi Tata ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd
Keir Starmer a Mark Drakeford ym Mhort TalbotFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn gwmni i Syr Keir yn ystod yr ymweliad fore Llun

Byddai cynlluniau'r Blaid Lafur ar gyfer dyfodol gweithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot yn fwy uchelgeisiol o'i gymharu â rhai'r Ceidwadwyr, yn ôl arweinydd y blaid.

Yn ystod ymweliad â'r safle ym Mhort Talbot fore Llun, dywedodd Syr Keir Starmer ei fod eisiau gweld cynllun fyddai'n gwarchod swyddi.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo hyd at £500m i gynllun datgarboneiddio Tata, ond fe allai arwain at golli miloedd o swyddi.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes, Kemi Badenoch, mae'r cytundeb yn diogelu tua 5,000 o swyddi, ond yn peryglu swyddi tua 3,000 o weithwyr eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Doedd Syr Keir ddim yn fodlon ateb cwestiynau ynglŷn â dyfodol statws cynllun HS2

Mae cwmni Tata Steel yn cyflogi tua 8,000 o bobl ar hyd y Deyrnas Unedig, gyda 4,000 o'r rheiny'n gweithio ym Mhort Talbot.

Er yn cydnabod y byddai llai o bobl yn gweithio ar y safle wedi'r broses datgarboneiddio, dywedodd Syr Keir bod yna ddiffyg eglurder ynglŷn â'r sefyllfa ar hyn o bryd.

"Y prif bryder i mi ar hyn o bryd yw'r ffaith bod 'na gynllun sy'n dod â'r hyn sy'n bodoli nawr i ben, sy'n rhoi syniad o'r hyn allai ddod yn y dyfodol, ond sydd ddim yn cynnwys manylion ynglŷn â'r sefyllfa rhwng y ddau bwynt yna," meddai.

"Byddai'r Blaid Lafur yn uchelgeisiol... rydyn ni am weld y galw am ddur yn cynyddu.

"Mae angen i ni fod yn cynhyrchu ynni glan erbyn 2030, ac er mwyn gwneud hynny bydd angen mwy o ddur arnom ni.

"Rydyn ni am weld cynllun sy'n gwarchod y swyddi a'r profiad sydd gennym ni ar hyn o bryd, ac yn cyfuno hynny gyda phroses bontio sy'n golygu bod yna swyddi yma ar gyfer y genhedlaeth nesaf hefyd."

Doedd Syr Keir ddim yn fodlon ateb cwestiynau ynglŷn â dyfodol statws cynllun rheilffordd HS2 fel prosiect 'Lloegr a Chymru', na chwaith yn fodlon trafod unrhyw newidiadau posib i fodel ariannu Llywodraeth Cymru.

Mynnodd y byddai llywodraeth Lafur yn San Steffan yn gweithio gyda'r llywodraeth ym Mae Caerdydd "ar sail rheolau, fel bod modd i ni gyd-lynu".