Adran Dau: Notts County 0-2 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Elliot LeeFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i'r ddau glwb wynebu ei gilydd ers y frwydr fythgofiadwy ar frig Cynghrair Cenedlaethol Lloegr y llynedd

Roedd dwy gôl mewn pedwar o funudau yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i Wrecsam yn erbyn Notts County.

Cafodd sawl cyfle ei wastraffu gan y ddau dîm yn yr hanner cyntaf.

Bron i Paul Mullin roi'r Dreigiau ar y blaen wedi hanner awr gyda'i ergyd o ganol y cwrt cosbi, ond fe grymanodd y bêl heibio'r postyn chwith.

Jodi Jones gafodd y cyfle gorau i'r tîm cartref, a hynny eiliadau cyn hanner amser, ond fe darodd o'r bêl dros y trawst.

Roedd rhaid aros am 73 o funudau cyn i'r Dreigiau fynd ar y blaen - Elliot Lee yn ergydio'n gywir o ymyl y cwrt cosbi i gornel ucha'r rhwyd.

A thri munud yn ddiweddarach, cafodd mantais yr ymwelwyr ei ddyblu wrth i Ollie Palmer sgorio gydag ergyd bwerus o ganol y cwrt cosbi.

Mae Wrecsam bellach yn y trydydd safle yn Adran Dau, yn gyfartal ar bwyntiau gyda Notts County sy'n ail.