Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-0 Bristol City
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd wedi codi i'r chwe safle uchaf yn y Bencampwriaeth ar ôl ennill o ddwy gôl i ddim yn erbyn Bristol City yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Digon prin oedd y cyfleoedd i'r ddau dîm yn yr hanner cyntaf.
Fe wnaeth Kharlan Grant orfodi arbediad da gan Max O'Leary wedi ergyd o ganol y cwrt cosbi, tra bod Harry Cornick wedi dod yn agos i'r ymwelwyr wedi gwaith da gan Sam Bell.
Ond wedi 33 o funudau fe aeth yr Adar Gleision ar y blaen wrth i'r amddiffynnwr Perry Ng benio i gornel ucha'r rhwyd o gic gornel Joe Ralls.
Dyma ail gêm yn olynol i Ng sgorio i Gaerdydd wedi ei gic rydd yn erbyn Huddersfield nos Fawrth.
Digon cyfartal oedd hi wedi'r egwyl hefyd, y ddau dîm yn creu hanner cyfleoedd ond yn ei chael hi'n anodd rheoli'r chwarae.
Bron i Jason Knight unioni'r sgôr gydag ergyd o bellter, ond roedd Jack Alnwick yn effro i'r perygl yn y gôl i Gaerdydd.
Ac yn ystod yr amser gafodd ei ychwanegu am anafiadau fe sgoriodd yr eilydd Rubin Colwill gôl ardderchog i sicrhau'r triphwynt i Gaerdydd.
Fe gurodd o ddau o amddiffynwyr Bristol City cyn taro'r bêl yn bwerus i gefn y rhwyd.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod yr Adar Gleision yn codi i'r pumed safle yn y Bencampwriaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2023