Mared Jarman: 'Anabledd a rhyw yn dipyn o bwnc tabŵ'

  • Cyhoeddwyd
Mared Jarman fel Ceri yn 'How This Blind Girl'
Disgrifiad o’r llun,

Mared Jarman fel Ceri yn 'How This Blind Girl'

Fe enillodd Mared Jarman wobr Torri Trwodd Bafta Cymru yn ddiweddar, yn sgil ei gwaith yn ysgrifennu ac yn actio yn y ddrama gomedi 'How This Blind Girl'.

Mae'r gyfres yn dilyn y prif gymeriad, Ceri, sydd yn ei hugeiniau hwyr, yn ei bywyd carwriaethol ac wrth iddi ddefnyddio apiau dêtio.

Yr unig beth sy'n wahanol am Ceri, o'i chymharu gyda'i ffrindiau, yw ei bod hi'n ddall.

Bwriad Mared, sy'n ddall ei hun, oedd ceisio chwalu'r mythau a thorri tabŵs am bobl anabl a rhyw.

"Nid yw pobl eisiau meddwl am bobl anabl fel bodau rhywiol," meddai Mared, sy'n dioddef o glefyd llygad dirywiol.

"Y gwir amdani yw bod pobl anabl yr un mor rhywiol ag unrhyw un arall. Mae anabledd a rhyw yn dipyn o bwnc tabŵ.

"Mae'n hurt meddwl nad oes gennym yr un greddf ag awch ag unrhyw un arall."

Disgrifiad o’r llun,

Mared yn chwarae rhan Ceri yn How This Blind Girl

Roedd Mared wedi cael llond bol o weld sut roedd cymeriadau anabl yn cael eu portreadu ac felly aeth ati i ysgrifennu'r ddrama gomedi.

"Fel person anabl prin iawn ydy'r cyfleoedd [actio]," meddai.

"Fel actor, mae'n anghyffredin bod rolau anabl yn dod fy ffordd a phan maen nhw, yn aml maen nhw'n benodol iawn o ran yr hyn maen nhw am ei bortreadu fel person anabl."

Dywedodd fod camsyniadau yn cael eu gwneud am gymeriadau anabl yn aml.

"Pan dwi'n trio am swyddi actio sy'n 'gweld', mae gan ganran enfawr ohonyn nhw olygfeydd noeth ac maen nhw'n rhywiol, mae'r ferch yn fflyrtiog, mae 'na olygfa rhyw... ond alla i ddim cofio un rôl anabl dwi wedi mynd amdani lle mae 'na olygfa noeth, golygfa gusanu, golygfa rhyw, unrhyw beth," meddai.

10 oed yn datblygu clefyd Stargardt

Mae gen Mared gyflwr o'r enw Stargardt.

Fe gafodd ddiagnosis pan yn 10 oed, ond fe ddirywiodd ei golwg yn sydyn pan yn ei harddegau.

Pan roedd hi'n 14 oed, fe gollodd 80% o'i golwg yn ei llygad dde o fewn wythnos.

Erbyn heddiw, mae bron yn ddall yn ei llygad dde ond mae ganddi olwg well yn ei llygad chwith er bod hwnnw wedi dirywio hefyd.

Fe gafodd ei magu yng Nghaerdydd gyda'i thad, y canwr, Geraint Jarman, a'i mham, yr actores, Nia Caron.

Mae perfformio, ysgrifennu a chanu felly yn y gwaed.

Ffynhonnell y llun, Mared Jarman
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mared, fel ei chymeriad Ceri, yn cyfaddef ei bod wedi ceisio cuddio ei hanabledd yn y gorffennol

Roedd hi'n gweld y broses o ysgrifennu yn gathartig.

"Doeddwn i ddim am roi filter ar fy hun... Rwyf am fod yn fersiwn diymddiheurol o berson anabl fel mae cymaint ohonom yn y byd modern," meddai.

O gusanu'r person anghywir i ymuno â bwrdd o ddieithriaid yn ddamweiniol mewn tafarn, faint o'r hyn sy'n digwydd i'w chymeriad Ceri sy'n hunangofiannol?

"Nid fy mhrofiad i yn unig yw e… mae e wrth gwrs wedi ei ddramateiddio ond dyma yw'r realiti o fod yn berson ifanc, anabl yn ceisio llywio'i hun drwy fywyd," meddai.

Mi gyfaddefodd ei bod wedi eistedd wrth y bwrdd anghywir ar ddêt unwaith.

"Roedd e'n hileriys, roedd e'n llawn cywilydd, ond cymaint gwell yw mynd 'oce, fe gofia'i hynny, ei ddefnyddio fe, ac fe fydda i'n ennill yn y diwedd."

Fel ei chymeriad Ceri, mae greddf Mared, yn y gorffennol, wedi ceisio cuddio ei hanabledd.

Disgrifiad o’r llun,

Mared yn chwarae cymeriad Ceri

I lawer o bobl ag anabledd, gall 'masgio' ddod yn rhan fawr o fywyd, meddai Mared.

"Nid yn unig wrth ddêtio, ond o ran goroesi o ddydd i ddydd - mae pasio fel rhywun 'abl' yn rhan enfawr o 'mywyd, jyst oherwydd fy mod yn byw mewn dinas ac mae troseddau casineb anabledd yn llawer mwy cyffredin nag y byddech yn credu."

Dallineb yn 'fwystfil dwy-ochrog'

Roedd ennill gwobr Bafta yn ddiweddar yn foment fawr iddi, nid yn unig yn ei gyrfa ond yn nhermau derbyn ei hanabledd.

Wrth dderbyn ei gwobr, dywedodd: "I bob merch fach ddall, bachgen dall, person anabl sydd wedi cael rhywun yn dweud wrthyn nhw nad ydyn nhw'n gallu gwneud unrhywbeth a chael ansawdd bywyd da, mae hyn i ni oherwydd mae hynny'n anghywir."

Wrth fyfyrio ar ennill y wobr, fe ddywedodd: "Mi gyrhaeddais foment yn fy mywyd nad oeddwn i'n meddwl byddai byth, byth yn bosib, oherwydd y ffordd mae cymdeithas a phobl eraill wedi gwneud i mi deimlo, ac yn anffodus, ro'n i wedi dechrau'u credu.

"Ro'n i'n arfer ffeindo hi'n anodd iawn jyst i ddweud y geiriau 'dwi'n ddall' wrth rywun arall - mae dal yn sialens ddyddiol, ond dwi ddim yn gweld e mor anodd mwyach."

Disgrifiodd ei hanabledd fel "bwystfil dwyochrog".

"Mae bod yn ddall yn rhan o bwy ydw i ac ydy, mae'n lladdfa, ydy, mae'n flinedig ac yn frawychus, ond mae o hefyd yn wych.

"Mae wedi dysgu pethau i mi am bobl ac am y byd ac wedi rhoi cyfleoedd i mi na fyddwn i fel arall yn eu cael."

Ffynhonnell y llun, Mared Jarman

Mae hi eisiau gweld newid yn ei diwydiant ac yn meddwl y byddai castio agored ar gyfer rolau (clyweliadau lle nad oes angen gwahoddiad) yn lle gwych i ddechrau.

"Does dim rhaid iddo effeithio ar y stori, mae pobl anabl yn rhan o'n bywydau, rydyn ni'n ffurfio canran enfawr o'r boblogaeth," meddai.

"Mae angen i ni roi'r gorau i anwybyddu mai dim ond rhan o fywyd yw anabledd."

Pynciau cysylltiedig