Yr Ŵyl Cerdd Dant yn cefnogi'r digartref yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Coleg Caerdydd a'r Fro
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro eleni

Mae trefnwyr Gŵyl Cerdd Dant Cymru yng Nghaerdydd yn cydweithio ag elusen leol i geisio cefnogi'r rhai sy'n ddigartref yn y brif ddinas.

Mae yna apêl eleni ar i gystadleuwyr ddod â brwsh dannedd newydd gyda nhw i'r ŵyl ar 11 Tachwedd.

Roedd Canolfan Huggard, sy'n cefnogi unigolion digartref yng Nghaerdydd, bod yna angen mawr am nwyddau hylendid.

Dywedodd Eirian Evans, aelod o bwyllgor gwaith yr ŵyl eu bod yn "awyddus iawn i gydweithio ag un o elusennau'r ddinas ar brosiect fyddai'n gadael gwaddol yng Nghaerdydd".

Bydd Gŵyl Cerdd Dant Caerdydd 2023 yn cael ei chynnal yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.

Ychwanegodd Ms Evans ei bod hi'n gweld yr apêl am frwshys dannedd fel un sy'n "addas iawn efallai i gefnogwyr yr Ŵyl Gerdd Dant".

"Mae'n cais ni'n un clir; os fyddwch chi'n ymweld â'r ŵyl, rydym yn gofyn yn garedig iawn i chi ddod â brwsh dannedd newydd sbon, mewn pecyn heb ei agor gyda chi," meddai.

"Bydd bwcedi yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro i'w derbyn."

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Cerdd Dant Cymru

Dywedodd Prif Weithredwr Canolfan Huggard, Richard Edwards, bod yr apêl yn un pwysig.

"Rydym yn ddiolchgar i drefnwyr a chefnogwyr yr Ŵyl Gerdd Dant am eu cefnogaeth," meddai.

"Mae gallu brwsio ein dannedd gyda brws dannedd glan yn rhywbeth mae'r mwyafrif ohonom yn ei gymryd yn ganiataol.

"Ond nid felly i bobl digartref ac felly dyna paham mae hi'n bwysig ein bod ni yn Huggard yn darparu nwyddau fel brwshis dannedd i bobl sy'n defnyddio ein cawodydd".