RAAC: Disgwyl mwy yn yr ysgol wedi gwaith diogelu
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i fwy o wersi wyneb yn wyneb gael eu cynnal mewn ysgol uwchradd ym Môn ddydd Llun wedi'r gwaith angenrheidiol i ddelio â choncrit RAAC.
Bu'n rhaid cau Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy ac Ysgol Uwchradd Caergybi i ddisgyblion am gyfnod er mwyn cynnal adolygiad diogelwch pellach o'r deunydd sy'n gallu dymchwel yn ddirybudd.
Mae Ysgol David Hughes wedi croesawu pob disgybl yn ôl ers dechrau'r flwyddyn ysgol bresennol ond mae Ysgol Uwchradd Caergybi wedi bod yn cynnig cymysgedd o wersi o bell a gwersi wyneb yn wyneb, gyda'r disgyblion yn dod i'r ysgol yn eu tro fesul blwyddyn.
Ond dywed Cyngor Môn bod y gwaith yn "dod yn ei flaen yn dda" a bod modd bellach cynnig mwy o wersi yno.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Llinos Medi: "Gallwch fod yn hollol sicr ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu, mor gyflym ag y gallwn, i wneud yn siŵr bod pob disgybl yn gallu dychwelyd i Ysgol Uwchradd Caergybi yn ddiogel.
"Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo yn Ysgol David Hughes i wneud yn siŵr bod mwy o gyfleusterau'r ysgol yn gallu ailagor yn ddiogel.
"Hoffwn ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod cyfnod anodd a rhwystredig iawn i bawb."
Dywedodd Ms Medi wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru mai'r nod yw cwblhau'r gwaith "erbyn dechrau 2024".
"Ma' 'na fwy o waith yn cael ei wneud a 'da ni'n dal i ddod i adnabod ansawdd y concrit, felly dwi'n ofalus iawn wrth roi dyddiad, ond dyna ydi'r nod," meddai.
Ychwanegodd bod y cyngor wedi cysylltu â chorff arholi CBAC, er mwyn trafod effaith y sefyllfa ar y rhai fydd yn gwneud arholiadau eleni.
"Mae 'na rai ym mlwyddyn 10 ac 11 yn gwneud arholiadau TGAU ym mis Tachwedd, felly ma' swyddogion CBAC wedi bod ar ymweliadau i'r ddwy ysgol.
"Y gofod (i gynnal arholiadau) ydi'r peth mwyaf, achos ma' 'na reolau o ran sut y mae ysgolion yn fod i gynnal arholiadau - felly mae'r swyddogion wedi bod i lawr i weld yr amgylchiadau, fel bo' nhw'n deall, a bod ystyriaeth yn cael ei roi i hynny."
Wrth drafod pwy fyddai'n gyfrifol am dalu am y gwaith, dywedodd Ms Medi: "Mae'r trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn parhau ar hyn o bryd, ac mae'r trafodaethau hynny yn edrych yn addawol iawn.
"Y nod cyntaf ydi gwneud y gwaith i gael y disgyblion yn ôl yn yr ysgol a rhoi'r amodau iawn i'r athrawon allu eu dysgu nhw, ond mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi cydweithion agos iawn efo ni."
'Llawer iawn o waith yn cael ei wneud'
Yn ôl Cyngor Môn mae'r adeiladau wedi cael eu heffeithio mewn gwahanol ffyrdd.
Mae disgwyl y bydd llawr cyntaf Ysgol David Hughes yn weithredol ar ôl y gwyliau hanner tymor, gan gynyddu capasiti'r adeilad.
Ychwanegon nhw fod y gwaith ar y gwahanol flociau a'r campfeydd yn Ysgol Uwchradd Caergybi hefyd wedi bod yn mynd yn ei flaen.
'Cyfnod heriol iawn i bawb'
"Rydym yn deall yn iawn ac yn gwerthfawrogi bod hwn yn dal i fod yn gyfnod heriol iawn i bawb," medd Prif Weithredwr y cyngor, Dylan Williams.
"Hoffwn dawelu meddyliau rhieni, staff a disgyblion bod llawer iawn o waith yn cael ei wneud yn y cefndir. Mae'r gwaith yn cymryd amser, ond mae goleuni ym mhen draw'r twnnel.
"Hoffem ddiolch i'r ddau bennaeth, staff yr ysgol, disgyblion a rhieni am eu cydweithrediad, amynedd a chefnogaeth barhaus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2023
- Cyhoeddwyd8 Medi 2023