Esgusodwch Fi?: Pum peth o sgwrs Gruff Jones, Sŵnami

  • Cyhoeddwyd
Iestyn Wyn, Gruff Jones a Meilir Rhys Williams
Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Wyn, Gruff Jones a Meilir Rhys Williams

Y cerddor Gruff Jones yw gwestai diweddaraf y podlediad Esgusodwch Fi? Yn aelod o'r band Sŵnami, mae Gruff hefyd yn DJ ac yn gymysgydd sain.

Cafodd sgwrs â Iestyn Wyn a Meilir Rhys Williams, a sôn am sut mae cerddoriaeth wedi chwarae rhan flaenllaw yn eu bywyd, o DJio mewn gigs yn 16 oed, i helpu iddyn nhw gwrdd â phobl newydd, a dod allan i'r byd fel person anneuaidd (non-binary).

Mae wedi byw ar hyd a lled Cymru... bron

"[Ges i fy ngeni'n] Aberystwyth, yna symud i Ffostrasol... sydd proper West Wales. Wedyn 'naethon ni symud i Bethel am ryw bedair blynedd, wedyn Bangor, a fan'na am wyth mlynedd.

"Es i i'r brifysgol i Gaerdydd, a 'nes i jest setlo yma rili. Mae'n ddinas mor lyfli; dydi hi ddim yn rhy fawr a mae mor amrywiol."

Dechreuodd ymwneud â cherddoriaeth yn 16 oed

"Ers blynydde, cerddoriaeth yw'r unig ffordd fi 'di gallu socialisio gyda pobl, achos fi'n berson eitha introverted.

"O'n i'n arfer DJio yn 16 oed mewn gigs Cymraeg, a dyna'r ffordd 'nes i ddod i 'nabod lot o fandiau Cymraeg - fel Derwyddon Dr Gonzo a'r Ods, oedd yn gneud gigs yng ngogledd Cymru - cyn i mi fynd ymlaen i 'neud fy stwff fy hun.

"Fi'n chwarae percussion, telyn, bach o'r gitâr fas a bach o biano; ond dwi ddim yn dda am chwarae'r piano, ond dwi'n gwneud beth alla i. Yr unig reswm dwi'n cael y fraint o chwarae'r keyboard mewn band yw achos mod i'n gwybod sut i wneud synnau, yn hytrach na chwarae stwff.

"'Nes i chwarae gyda Sywel Nyw llynedd, a mae Gwenno Morgan yn chwarae keys iddo hefyd, ac mae hi'n athrylith... O'n i'n sticio at y pethau hawdd!"

Ffynhonnell y llun, Arabella Itani
Disgrifiad o’r llun,

Gruff (ail o'r dde) gyda gweddill band Sŵnami

Sŵnami: Ffrindiau a theulu sy'n cynnig cyngor

"Mae Sŵnami bron â bod fel ail deulu, hyd yn oed rhieni aelodau'r band. Heb Sŵnami, 'swn i probably ddim lle dwi heddi... dwi ddim yn siŵr be' 'swn i'n ei 'neud.

"Fel person sy'n autistic, sydd wastad wedi stryglo i gymdeithasu efo pobl, nhw sydd wastad wedi bod y grŵp o bobl sydd wedi pwsho fi i allu bod mwy sociable. Bron fod e fel survival tactic, chos ti'n gigio a pherfformio o flaen pobl drwy'r amser.

"Ti'n dod i 'nabod pobl pob nos, a nhw yw'r grŵp o bobl sy'n dweud 'ti angen siarad gyda pobl fel hyn...dim fel 'na.' Roedd gen i'r tendency o fod yn rhy onest. Felly o ran datblygiad fi o ran cymdeithasu gyda phobl, maen nhw wedi chwarae rhan fawr yn hwnna."

Mae'r gân Be Bynnag Fydd yn sôn am brofiad Gruff o ddod allan i'r band fel person anneuaidd

"O'n i ym Mhorthcawl yn gneud photoshoot, ac o'n i wedi troi lan gyda make-up artist achos o'n i ddim eisiau stubble. O'dden nhw'n gofyn pam, a ddes i mas 'da fe - 'fi'n non-binary, fi erioed wedi teimlo fel dyn, fi ddim eisie bod yn ddyn, it's not for me.'

"Oedden nhw'n lyfli: 'Cŵl, beth yw pronouns ti? Ti yw ti, does yna ddim byd am newid.'

"Oedd y tensiwn wedi bod yn ofnadwy, ac o'n i ddim yn gwybod sut i ddweud wrthyn nhw. Ti erioed wedi cael shower rili oer? Mae e'n ofnadwy, ond pan ti'n dod mas ti'n teimlo'n anhygoel, ti'n teimlo mor ffres - o'dd e fel yna. Pam o'n i gymaint o ofn dweud wrthyn nhw?!

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Lwp

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Lwp

"Naethon ni sgwennu'r gân, ac o'n i eisiau gwneud rhyw fath o gân dod mas, ac roedd Ifan [Davies], Ifan [Ywain] a fi ar Zoom gyda'n gilydd, a ddywedon nhw eu bod am gyfleu y teimlad o pan ddes i mas iddyn nhw.

"Dwi'n cynnig syniadau - 'dyma sut fi'n teimlo, dyma sydd yn fy mhen i' - a mae Ifan Ywain wastad yn fy synnu, sut mae e'n gallu trosglwyddo'r syniadau 'ma a'i 'neud e i swnio fel lyrics. Dwi ddim yn berson sy'n siarad yn dda iawn, ac mae e'n llwyddo i gyfleu sut fi'n teimlo."

Mae Gruff yn gobeithio am ddyfodol mwy amrywiol i'r Sîn Roc Gymraeg

"Fi ishe bod yn positif a dweud ei fod e mynd i fod yn amrywiol, achos ti'n gweld lot mwy o ferched ar y sîn nag erioed na phan o'n i'n tyfu lan. Mae'r SRG lot mwy ffrwythlon nag erioed.

"Fi'n gobeithio gweld llai o ddynion gwyn strêt yn mynd yn pissed ar y llwyfan, yn meddwl bod nhw'n rockstars..."

Gwrandewch ar y sgwrs yn llawn ar BBC Sounds.

Hefyd o ddiddordeb: