Gwefan wedi annog ein merch i ladd ei hun, medd rhieni

  • Cyhoeddwyd
Bronwen Morgan a'i rhieniFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni Bronwen Morgan yn galw am waredu gwefannau sy'n rhoi cyngor am hunanladdiad

Mae rhieni myfyrwraig a laddodd ei hun wedi galw am waredu gwefannau hunanladdiad er mwyn achub bywydau pobl ifanc eraill.

Bu farw Bronwen Morgan ar ôl iddi gael ei chanfod yn anymwybodol mewn gwesty ym Mhentwyn, Caerdydd, ym mis Awst 2020.

Ar ôl y cwest, gofynnodd y crwner i lywodraethau Cymru a'r DU ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i wefannau o'r fath.

Rhwystrwyd mynediad i un safle ar y we ar ôl i ymchwiliad gan y BBC ei gysylltu â 50 o farwolaethau.

Mae mam Bronwen, Jayne a'i thad Haydn, o Gaerdydd, wedi bod yn sôn wrth BBC Cymru am eu "sioc, arswyd a dicter" wedi iddyn nhw ganfod rhai o'r negeseuon oedd wedi cael eu hanfon at eu merch hynaf.

"Roedd darllen y sgwrs a gafodd gyda rhai pobl ar y wefan mor frawychus - ynghyd â gweld bod yna bobl yn annog pobl fregus i gymryd eu bywydau, gan gynnig technegau," meddai Mrs Morgan.

'Dim cefnogaeth o gwbl'

Yn 2019 roedd Ms Morgan wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth.

Fe wnaeth y fyfyrwraig nyrsio o Brifysgol Caerdydd geisio lladd ei hun sawl gwaith - cymaint fel ei fod wedi "dod yn norm" i'w theulu.

"Dros gyfnod o ddwy flynedd, roedd yna tua 30, 40 ymgais siŵr o fod," meddai Mrs Morgan.

"Roedden ni'n teimlo'n hollol ddiymadferth. Roedden ni'n byw mewn byd gwallgof, roedd yn hunllef a dweud y gwir. Roedd e bron yn normalrwydd a dyna sut rydych chi'n delio ag ef.

"Doedden ni ddim yn gwybod beth allen ni ei wneud i'w helpu hi. Doedd dim cefnogaeth o gwbl. Roedden ni wedi cyrraedd pen ein tennyn."

Ychwanegodd Mr Morgan, sy'n blismon wedi ymddeol, fod yr "ymdrechion yn dod yn fwy difrifol".

"Roedden ni'n gwybod ei fod yn fwy na chri am help. Roedd rhain yn ymdrechion difrifol i ladd ei hun."

Dywedodd y teulu eu bod nhw a Bronwen wedi "colli pob gobaith".

Ar y noson y bu farw Bronwen, roedd y teulu'n barod i dreulio "cyfnod hir yn yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys", fel roedden nhw wedi gwneud nifer o weithiau o'r blaen.

Ond roedd y tro hwn yn wahanol. Yn anffodus, doedd dim modd ei hadfywio.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd Bronwen Morgan yn anymwybodol yng Nghaerdydd yn 2020

Doedd teulu Bronwen ddim yn ymwybodol o'r gwefannau y bu hi'n ymweld â nhw tan ar ôl ei marwolaeth.

"Daethom ar draws rhywfaint o wybodaeth ar ei chyfrifiadur, ar ei gliniadur. Roeddem yn gallu olrhain rywfaint o hanes ei chwilio a'r fforymau yr oedd hi wedi bod ynddynt," meddai Mrs Morgan.

Dywedodd Mr Morgan fod "y cyfan yn sioc fawr".

"Roedd pobl ar y gwefannau yn annog eraill i ladd eu hunain ac yn cynnig dulliau a syniadau sut oedd gwneud," meddai.

"Doeddwn i ddim yn credu bod safleoedd o'r fath yn bodoli. Ond yn amlwg maen nhw ac maen nhw dal yna."

"Rhywun sydd mor fregus," ychwanegodd Mrs Morgan. "Ar ôl i ni golli Bronwen, ar ôl iddi ladd ei hun, fe ddaeth neges ar ffurf sgwrs yn gofyn, 'Wyt ti yno? Wnest ti e?'

"Maen nhw bron yn annog pobl i gymryd y cam nesaf."

Mae'r teulu yn credu y "byddai Bronwen dal gyda ni nawr" petai hi ddim wedi cael gwybodaeth o'r wefan.

'Gwybod yn union beth i'w wneud'

"Roedd darllen y sgwrs a gafodd hi gyda phobl ar y wefan mor frawychus, a gweld bod yna bobl sy'n annog pobl fregus i gymryd eu bywydau, gan gynnig technegau," meddai Mrs Morgan.

"Mae'n arswydus meddwl bod y safleoedd hyn ar gael i unrhyw un. Mae'n frawychus."

Ychwanegodd Mr Morgan: "Fyddai hi byth wedi gwybod sut i wneud yr hyn wnaeth hi heb fynd ar y wefan honno a chael cyfarwyddiadau.

"Roedd Bronwen yn gwybod yn union beth i'w wneud cyn iddi farw.

"Mae'n rhy hawdd i blant fynd ar y safleoedd hyn - plant o bob oed.

"Rydyn ni eisiau i ddarparwyr gymryd hyn o ddifrif a gwneud rhywbeth i'w atal. Nid dim ond ystadegyn arall [yw ei marwolaeth]."

Daeth plismyn o hyd i Bronwen yng ngwesty Premier Inn ym Mhentwyn yn Awst 2020. Roedd hi'n anymwybodol ac wrth ei hymyl roedd llythyr wedi'i adael.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth teulu Bronwen geisio ei chefnogi wrth i'w hiechyd meddwl waethygu

Yn y cwest i farwolaeth Bronwen, rhybuddiodd crwner Canol De Cymru, Graeme Hughes, y gallai mwy o bobl farw ar ôl ymweld â fforymau sy'n trafod dulliau hunanladdiad.

Dywedodd Mr Hughes fod tystiolaeth yn y cwest yn dangos bod Ms Morgan wedi "cofrestru a chymryd rhan mewn fforymau trafod" am ddulliau hunanladdiad.

Nododd ei adroddiad fod Ms Morgan yn "trafod ac yn ceisio cael cyngor gan eraill".

Fe gyflwynodd adroddiad ar atal marwolaethau yn y dyfodol i lywodraethau Cymru a'r DU.

Does dim modd cael mynediad bellach i'r wefan yr oedd Bronwen wedi ymweld â hi, wedi i ddarparwyr y we yn y DU rwystro mynediad.

Mae ei rhieni yn ymgyrchu i waredu mwy o safleoedd ac i wella iechyd meddwl pobl ifanc, trwy eu helusen Bronwen's Wish.

'Colli hi bob eiliad o bob dydd'

"Pe baen ni'n gallu chwifio ffon hud, fe fyddai'r holl safleoedd yma'n cael eu cau," meddai Mr Morgan.

Ychwanegodd Mrs Morgan:."Rydym yn gwneud llawer o waith er mwyn sicrhau newidiadau cadarnhaol o fewn maes iechyd meddwl.

"Rydyn ni'n ei cholli hi bob eiliad o bob dydd."

"Mae'n dorcalonnus," ychwanegodd Mr Morgan.

"Rwy'n dal i deimlo fy mod mewn breuddwyd ofnadwy. Chi byth yn credu bod eich plentyn yn mynd i ladd ei hun."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig