Felinwnda: Ysgol leiaf Gwynedd i gau ei drysau fis nesaf

  • Cyhoeddwyd
Ysgol FelinwndaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Felinwnda wedi gwasanaethu cymunedau Saron a Dinas ers 1895

Mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi pleidleisio'n unfrydol dros gau ysgol gynradd sydd ag ond wyth o ddisgyblion.

Mae penderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd brynhawn Mawrth yn golygu y bydd Ysgol Felinwnda yn cau ar 31 Rhagfyr eleni.

Bydd y disgyblion yn cael y dewis o drosglwyddo i Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog yn y flwyddyn newydd.

Roedd pedwar gwrthwynebiad wedi ei dderbyn yn dilyn cyhoeddi rhybudd statudol i gau ysgol leiaf y sir.

Ond clywodd cynghorwyr y byddai trosglwyddo'r plant i ysgolion cyfagos yn golygu eu bod yn derbyn eu haddysg mewn dosbarthiadau o faint mwy addas.

Nododd yr adroddiad hefyd fod niferoedd y disgyblion yn Ysgol Felinwnda, sydd wedi ei leoli ger pentrefi Saron a Dinas ar gyrion Caernarfon, "wedi gostwng yn sylweddol ers 2018" ac "yn fregus ers peth amser".

Nodwyd fod cost y pen ar gyfer pob disgybl yn Ysgol Felinwnda yn £14,643 o'i gymharu â chyfartaledd y sir o £4,509.

Ond fel rhan o'r penderfyniad, fe ymrwymodd y cabinet i gynnal ymgynghoriad er mwyn cytuno pa ysgol, neu ysgolion, fydd yn gwasanaethu plant dalgylch presennol Ysgol Felinwnda i'r dyfodol.

Bydd trafnidiaeth am ddim hefyd ar gael i'r disgyblion i'w hysgol newydd o'r flwyddyn newydd ymlaen.

Nid oedd swyddogion o'r farn byddai cau'r ysgol yn cael effaith ehangach ar weithgarwch lleol gan fod canolfan gymunedol eisoes yn bodoli yn y pentref.

Dywedodd deilydd y portffolio addysg, y Cynghorydd Beca Brown, ei bod yn cyflwyno'r adroddiad "gyda chalon drom" ond bod angen cydnabod ei statws fel ysgol leiaf y sir, gyda swyddogion o'r farn nad yw bellach yn hyfyw.

'Mater anodd yw cau ysgolion bach'

Dywedodd y cynghorydd lleol, Huw Rowlands, byddai cau Ysgol Felinwnda yn "ddigwyddiad trist i'r gymuned a'r rhieni, ac yn enwedig i'r plant".

Ychwanegodd mai "mater anodd yw cau ysgolion bach, gan effeithio ar gymunedau gwledig a Chymreig", gan annog y cyngor i edrych ar strategaeth newydd i ddelio ag ysgolion cefn gwlad, gan gynnwys ymyrraeth posib unwaith fod niferoedd yn dechrau syrthio.

"Mae angen edrych ar sut mae ysgolion gwledig yn gwasanaethu ein cymunedau yn y dyfodol," meddai.

"Maen nhw'n rhan hollol naturiol o wead Gwynedd."

Mae nifer y disgyblion yn yr ysgol wedi gostwng yn sylweddol o 31 yn 2012.

Ond gan fod yr ysgol â llai na 10 o ddisgyblion, mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn nodi nad oedd angen i'r awdurdod gynnal ymgynghoriad cyffredinol cyn dilyn y broses ffurfiol i'w chau.

Pynciau cysylltiedig