Felinwnda: Cyngor sir i ymgysylltu ar ddyfodol ysgol leiaf Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Gwynedd wedi gohirio penderfyniad ynglŷn â dyfodol ysgol gynradd yn y sir sydd ag wyth disgybl.
Yn ôl adroddiad i gabinet y cyngor mae nifer y disgyblion sy'n mynychu Ysgol Felinwnda, yn Llanwnda, wedi gostwng yn sylweddol o 31 yn 2012.
Mae cost y pen ar gyfer pob disgybl yn Ysgol Felinwnda yn £14,643 - mae cyfartaledd y sir yn £4,509.
Argymhelliad yr adroddiad oedd cau ysgol leiaf y sir ar ddiwedd y flwyddyn addysg bresennol, gyda'r disgyblion sy'n weddill yn cael eu hanfon i Ysgol Bontnewydd, ddwy filltir i ffwrdd.
Ond yn dilyn cyfarfod cymunedol yn Llanwnda nos Lun, ble bu pobl leol yn mynegi eu pryder, mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu cynnal cyfnod ymgysylltu gyda'r gymuned.
"Bydd y cyngor nawr yn symud ymlaen i gyfnod o ymgysylltu gyda chymunedau Llanwnda, Llandwrog a chymunedau cyfagos, ar faterion sy'n gysylltiedig â dyfodol yr ysgol," meddai llefarydd ar ran Awdurdod Addysg Lleol Gwynedd.
"Bydd y mater yn dychwelyd gerbron y cabinet wedi i'r trafodaethau hyn ddod i ben."
Dywedodd Sioned Griffiths, sy'n fam i ddau o blant, ei bod yn anghytuno gyda'r syniad o gau'r ysgol.
"Mae'r plant yn nabod yr athrawon, a'r athrawon yn nabod y plant yn dda iawn.
"Mae wir yn teimlo fel un teulu mawr yn yr ysgol a byddai cau'r ysgol yn hynod o drist."
Roedd nifer o'r rhai fynychodd y cyfarfod yng nghanolfan Bro Llanwnda yn cyhuddo'r sir o ddiffyg cyfathrebu gyda phobl yr ardal.
Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Felinwnda, Elfyn Owen: "'Da ni fel cymuned angen bod yn rhan o'r trafodaethau.
"Felly 'da ni'n gofyn i gabinet Cyngor Gwynedd i beidio symud ymlaen i gau'r ysgol, ac i gymryd cam yn ôl, ymgynghori'n llawn gyda'r gymuned ac edrych ar yr effaith negyddol posib i Ysgol Llandwrog hefyd, sy'n bartner i Ysgol Felinwnda."
Er bod opsiynau eraill wedi'u hystyried gan swyddogion, gan gynnwys cadw'r ysgol ar agor neu ffederaleiddio gydag ysgolion cyfagos, yr argymhelliad yw cau'r ysgol 125 oed.
Mae'r adroddiad yn nodi: "Ysgol Felinwnda yw'r ysgol leiaf yn y sir, gyda dim ond wyth o ddysgwyr."
Mae hefyd yn nodi fod niferoedd y disgyblion "wedi gostwng yn sylweddol ers 2018" ac "yn fregus ers peth amser".
Ar hyn o bryd mae'r ysgol yn cyflogi pennaeth rhan amser - sydd hefyd yn gyfrifol am Ysgol Llandwrog - ac un athro llawn amser.
Nid dyma'r tro cyntaf i'r cyngor drafod cau'r ysgol.
Mae tri o blant Robin Griffiths wedi mynychu'r ysgol ac mae'n cofio sgwrs debyg am ddyfodol yr ysgol blynyddoedd yn ôl.
"'Da ni 'di gyrru tri o blant yma ac mae wedi bod yn ysgol dda iawn.
"Dwi ddim yn meddwl bod rhai pobl, neu gynghorwyr, o hyd yn sylwi'r manteision sydd i ysgolion bach o'i gymharu ag ysgolion mawr.
"'Da ni 'di bod drwy hyn o'r blaen yn 1987 pan aeth yr ysgol lawr i dri o blant.
"Bu'n rhaid i ni gwffio i gadw'r ysgol ar agor pryd hynny. Ac ar ôl i ni ennill y frwydr yna dyma'r niferoedd yn cynyddu eto ar ôl hynny."
Mae Irfon Jones yn byw yn y pentref, ac yn ffyddiog bydd y niferoedd sy'n mynychu'r ysgol yn cynyddu unwaith eto os ydy'r ysgol yn aros ar agor.
"Wyth sydd yma ar hyn o bryd, mae'r ysgol wedi bod gyda 35 o blant.
"'Da ni 'di clywed eisoes bod 'na 17 o blant yn y cylch meithrin, mae hynna wrth gwrs yn mynd i fwydo mewn i'r ysgol yma yn ogystal ag Ysgol Llandwrog felly mae 'na botensial i fwy ddod ymlaen."
Yn ymateb i'r penderfyniad ddydd Mawrth dywedodd Ffred Ffransis ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith eu bod yn "gobeithio y bydd hyn yn agor y ffordd ar gyfer trafodaeth gadarnhaol gyda chymunedau Llanwnda a Llandwrog am ddarpariaeth addysg a datblygiad y ddwy gymuned Gymraeg".
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud eu bod nhw'n gwerthfawrogi cyfraniad ysgolion bychain i ddarpariaeth addysgol y sir, ond bod ganddyn nhw ddyletswydd i ddarparu'r addysg a phrofiadau gorau posib i blant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2021