Dedfryd carchar am oes i ddyn am lofruddio ei fam
- Cyhoeddwyd

Clywodd y llys bod Kelly Pitt yn "fenyw fregus" ond roedd yn berson serchus, gofalgar a doniol yn ôl ei merch
Mae dyn 26 oed o Gasnewydd, a lofruddiodd ei fam mewn ymosodiad "hir a gorffwyll", wedi cael dedfryd o garchar am oes.
Roedd Lewis Bush wedi gadael Kelly Pitt, 44, yn anymwybodol ar ôl ymosod arni yn ei fflat am tua 11:30 ar 12 Mai.
Roedd wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth ond fe newidiodd ei ble cyn dechrau'r achos yn Llys y Goron Casnewydd.
Bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 16 o flynyddoedd dan glo cyn cael ceisio am barôl.
'Menyw fregus'
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r fflat yn Sandalwood Court gan gymydog, wedi i gymar ei merch ddarganfod Ms Pitt yn farw ar wely oedd yn socian â gwaed.
Fe wnaeth archwiliad post-mortem ddangos ei bod wedi cael sawl anaf i'r pen, gwddf a'r corff a bod 41 o asennau wedi eu torri.
Roedd yna dystiolaeth bod Ms Pitt, a gafodd ei disgrifio yn y llys fel "menyw fregus gyda phroblemau alcohol" wedi ceisio amddiffyn ei hun ond "nid oedd mewn sefyllfa i atal yr ymosodiad".

Cafodd Lewis Bush ei weld mewn lluniau CCTV yn prynu cwrw y diwrnod y cafodd corff ei fam ei ddarganfod
Roedd yna dystiolaeth hefyd bod ymgais wedi bod i lanhau'r fflat ond fe gafodd gwaed Bush ei ddarganfod ar ddillad gwely ei fam.
Roedd ei merch, Jordan Bush, wedi anfon negeseuon ati ar 10 Mai a 11 Mai yn gofyn a oedd hi'n iawn wedi iddi glywed ei brawd yn bygwth eu mam yn eiriol, wrth iddi siarad â'i mam ar y ffôn.
Atebodd Bush y ffôn gan ddweud eu bod mam yn ei gwely ac yn rhy sâl i unrhyw un ymweld â hi.
Dywedodd yr erlyniad nad oedd "wedi helpu i gael cymorth i'w fam" a'i fod wedi "ei gadael i farw".
Clywodd y llys bod amodau mechnïaeth, a oedd yn ymwneud ag ymosodiad blaenorol ar ei fam, yn atal Bush rhag cysylltu â hi a mynd i'w chartref.
Ond roedd wedi torri'r amodau hynny sawl tro, gan fynd i'r fflat a mynnu arian ac ymddwyn yn ymosodol.
Cafodd ei arestio a'i holi gan roi atebion "dim sylw" i'r heddlu.

Fe dorrodd Lewis Bush amodau mechnïaeth oedd yn ei atal rhag mynd i fflat ei fam yn Sandalwood Court
Mewn datganiad i'r llys, dywedodd Jordan Bush bod ei mam yn fenyw "ofalgar, serchus, doniol a byrlymus".
Dywedodd bod rhaid iddi "fyw gyda'r euogrwydd bob diwrnod" na ffoniodd yr heddlu ar ôl methu â chael ateb gan ei mam.
Gan gyfeirio at ei brawd yn y doc, dywedodd: "Y cyfan wnaeth hi oedd dy garu di... dwyt ti ddim yn frawd i mi."
Dywedodd bargyfreithiwr y diffynnydd nad oedd wedi bwriadu llofruddio, a'i fod, trwy newid ei ble, "yn cydnabod ei gyfrifoldeb, sy'n fan cychwyn o ran dangos edifeirwch".
Wrth ddedfrydu Bush, dywedodd y Barnwr Daniel Williams "na fydd unrhyw ddedfryd yn gwneud yn iawn am y ffordd y daeth bywyd Kelly i ben".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd15 Mai 2023