Y byd yn wynebu 'argyfwng llygredd plastig'
- Cyhoeddwyd
Mae'r byd yn wynebu argyfwng pan mae'n dod i wastraff a llygredd plastig, yn ôl elusen.
Daw rhybudd Tearfund, wrth iddyn nhw baratoi i ymuno â chynrychiolwyr o wledydd y byd mewn cynhadledd arbennig i drafod sut mae mynd i'r afael a gwastraff plastig.
Y Cenhedloedd Unedig sydd wedi trefnu'r digwyddiad, sy'n cael ei gynnal yn Nairobi yn Kenya.
Yn ôl Mari Williams, sy'n rhan o dîm Tearfund, mae angen cytundeb cyfreithiol sy'n gorfodi gwledydd a chwmnïau i leihau eu defnydd o blastig.
Mae hi bellach yn anghyfreithlon i fusnesau gynnig nifer o ddeunyddiau plastig tafladwy fel cwpanau, platiau a chyllyll a ffyrc i'w cwsmeriaid yng Nghymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd y cyfyngiadau'n helpu "lleihau llif gwastraff plastig niweidiol" i'r amgylchedd.
Ond mae gwaith ymchwil newydd gan elusen Tearfund yn awgrymu bod gwastraff plastig "allan o reolaeth" ar hyd cyfandir Affrica.
Maen nhw'n dweud bod digon o lygredd plastig i orchuddio cae pêl-droed yn cael ei daflu, neu ei losgi yn Affrica Is-Sahara bob munud.
Mae ystadegau Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn rhagweld y bydd y rhanbarth yn cynhyrchu chwe gwaith yn fwy o wastraff plastig yn 2060 o'i gymharu â 2019.
Yn ôl Mari Williams, sy'n uwch ymgynghorydd polisi gydag elusen Tearfund, mae'r sefyllfa o amgylch y byd yn "ofnadwy".
"Mae faint o blastig sy'n cael ei gynhyrchu yn tyfu, ond dydi lot o wledydd ddim hefo'r capasiti i reoli hyn, ac i reoli'r gwastraff sy'n dod yn sgil hyn," meddai.
"Ar hyn o bryd mae tua dau biliwn o bobl yn byw heb fynediad at reolaeth gwastraff - dim fel chi a fi yn gallu rhoi ein bins allan bob wythnos, ac mae'r lori'n dod i gymryd y gwastraff i ffwrdd.
"Maen nhw'n gorfod byw yn ei ganol o, heb unrhyw ddewis ond i dumpio neu losgi eu gwastraff nhw, ac mae hyn yn creu problemau enfawr i iechyd ac i'r amgylchedd."
'Cyfle enfawr'
Mae Tearfund yn amcangyfrif bod hyd at filiwn o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd afiechydon sydd wedi cael eu creu gan wastraff sydd heb ei reoli. Mae hynny'n cyfateb i un person bob 30 eiliad.
Ddydd Llun, bydd llywodraethau'r byd yn dod ynghyd i drafod cytundeb byd-eang i geisio mynd i'r afael â'r broblem gwastraff plastig.
"Mae'n gyfle enfawr... 'dan ni ar groesffordd yn y byd ar hyn o bryd. Mae'r broblem yn enfawr, ond mae 'na gyfle yma i'w thaclo," meddai Ms Williams.
"Mae Tearfund yn gobeithio gweld cytundeb cryf, lle fydd 'na dargedau cryf i leihau faint o blastig sy'n cael ei gynhyrchu, ond hefyd 'dan ni eisiau cydnabyddiaeth a chefnogaeth i waste pickers y byd.
"Rhain ydi'r bobl, 20 miliwn ohonyn nhw o amgylch y byd, sydd yn casglu lot o'r plastig sydd yn cael ei ailgylchu.
"Mae 60% o'r plastig sy'n cael ei ailgylchu yn fyd-eang yn cael ei gasglu gan y waste pickers yma sydd yn aml yn gweithio mewn amodau anodd iawn, a dyw hawliau dynol nhw yn aml ddim yn cael eu parchu."
Mae disgwyl i'r trafodaethau yn Nairobi barhau am wythnos, a'r nod yw llunio cytundeb erbyn diwedd y cyfnod hwnnw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022