Disgyblion Sir Gâr yn taclo heriau amgylcheddol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae criw o bobl ifanc o Sir Gaerfyrddin wedi bod yn ceisio llunio atebion ymarferol i rai o'n problemau amgylcheddol mwyaf mewn cystadleuaeth yn yr Ardd Fotaneg yng Nghaerfyrddin.
Cafodd 24 o ddisgyblion eu dewis i gymryd rhan mewn "sialens fawr" sydd wedi cael ei drefnu gan fenter addysgiadol Cymbrogi.
Nod y fenter yw hyfforddi a meithrin pobl ifanc fel y gall Cymru gyrraedd dyfodol Sero Net.
Bu'r disgyblion yn cyflwyno eu syniadau i banel arbennig mewn digwyddiad sy'n cael ei lwyfannu gan gwmni gwastraff Cwm Environmental.
Mae'r disgyblion sydd wedi cyrraedd yr her derfynol yn gorfod ymateb i un o dri her bosib a pharatoi cyflwyniadau yn amlinellu eu syniadau:
Gwastraff Feps Electronig: Sut mae lleihau effaith e-sigarennau ar yr amgylchedd ac iechyd pobl?
Ynni: Sut mae cynorthwyo pobl Llanelli i leihau biliau a'u defnydd o ynni?
Cymunedau Cynhwysol: Sut mae dod a phobl o bob oedran at ei gilydd i fynd i'r afael â phynciau o bwys?
Roedd panel o feirniaid - o fusnesau fel Cwm Environmental, Castell Howell, Bluestone ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau - wedi bod yn mentora'r bobl ifanc cyn y rownd derfynol, pan fydda nhw'n cyflwyno eu syniadau i'r panel.
Mae 400 o blant ysgolion Bryngwyn a Choedcae yn Llanelli wedi bod yn rhan o gynllun "Newidwyr Yfory" - sydd wedi ei ysbrydoli gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Cwricwlwm newydd i Gymru, a thargedau byd eang y Cenhedloedd Unedig.
Maen nhw wedi cael hyfforddiant ar-lein am broblemau cyfoes, sy'n cynnwys pynciau fel yr economi gylchol a chynaliadwyedd.
Grŵp Cariad Community o Ysgol Bryngwyn Llanelli oedd yn fuddugol yn y rownd derfynol ddydd Gwener, am eu cyflwyniad ar sut i greu cymuned fwy cynhwysol, a chymdeithas fwy iach a hapus yn Llanelli.
Y wobr oedd taleb ar gyfer gwers syrffio ar draeth Pen-bre.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2021