'Dim cyfleon' i bobl ag anghenion dysgu ers diwedd cynllun

  • Cyhoeddwyd
Lliwen Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lliwen Roberts o Gerrig y Drudion yn un o'r rhai lwyddodd i fanteisio ar gynllun Engage to Change cyn iddo ddod i ben

"Dwi'n teimlo'n hapus bo' fi efo gwaith, achos bo' fi wedi g'neud anifeiliaid yn coleg bo' fi'n licio bod efo anifeiliaid, just gweithio, bod rownd nhw'n 'neud fi'n hapus."

I Lliwen Roberts, mae ei swydd yn fwy na gwaith yn unig - mae'n rhoi boddhad iddi, ac wedi bod yn gyfle i fagu hyder a sgiliau.

Mae gan Lliwen anghenion dysgu ychwanegol, ac fe fanteisiodd ar gynllun hyfforddiant arbennig er mwyn gallu ymdopi â'r heriau a ddaeth gyda dechrau swydd newydd.

Ond mae 'na "ddiffyg cyfleon" i bobl sydd ag anghenion ychwanegol gael gwaith ers i'r cynllun ddod i ben eleni, meddai un cwmni oedd yn rhan ohono.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai rhannau gorau'r cynllun yn cael eu cynnwys mewn rhaglenni eraill.

Yn ôl arbenigwyr yn y maes, mae 'na fwlch yn y ddarpariaeth ers i brosiect o'r enw Engage to Change ddod i ben eleni. 

Roedd y cynllun yn helpu datblygu sgiliau a sicrhau swydd â chyflog i bobl rhwng 16 a 25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Un o'r rhai fanteisiodd ar y cynllun yw Lliwen, sydd o Gerrigydrudion.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lliwen waith llawn amser yn fferm Derwydd yn dilyn y cymorth cynllun Engage to Change

Ar ôl gorffen ei chwrs coleg yn astudio sut mae gofalu am anifeiliaid bach, fe gafodd le yn helpu mewn fferm wyau yn lleol. 

Erbyn hyn mae wedi cael swydd llawn amser gyda Wyau Derwydd yn Llanfihangel Glyn Myfyr. 

"Efo'r wyau, dwi'n checio os mae nhw wedi cracio neu yn fudr, neud yn siwr os ydyn nhw'n lan.

"Dwi'n teimlo'n hapus bo' fi efo gwaith, achos bo' fi wedi g'neud anifeiliaid yn coleg bo' fi'n licio bod efo anifeiliaid, just gweithio, bod rownd nhw'n neud fi'n hapus."

Mae fferm Derwydd yn cadw dros 30,000 o ieir gwyn ac yn cynhyrchu dros 10 miliwn o wyau - yn bennaf ar gyfer yr archfarchnadoedd. 

Llyr Jones yw'r perchennog, ac mae'n dweud bod Lliwen yn aelod pwysig o'r tîm sydd wedi magu hyder yn y swydd, gan weithio llawn amser bedwar diwrnod yr wythnos.

"Mae bendant yn aelod da o'r tîm. Mae'n gweithio efo pawb. Mae ganddo ni bump person yn gweithio yma felly mae'n gweithio efo pawb really.

"Mae'n dda iawn. Mae'n ddibynnol. Mae'n eitha' hyblyg efo newid - helpu pobl efo gwyliau, pobl yn sâl. Mae'n bwysig iawn yn ein tîm ni 'wan."

Disgrifiad o’r llun,

Llyr Jones yw perchennog fferm Derwydd

Dechreuodd cynllun Engage to Change yn 2016, ond daeth i ben ym mis Mai, ar ôl cefnogi dros 1,000 o bobl ag anableddau dysgu neu awtistiaeth yng Nghymru.  

Bellach mae'r cynllun wedi sicrhau cyllid i ganolbwyntio ar sicrhau bod ymchwil, polisïau a gwersi a gafodd eu dysgu o'u gwaith yn helpu i sicrhau strategaeth - fel bod cyfle teg a chyfartal i bawb i gael swydd.

Mae hynny'n cynnwys cynlluniau penodol ar gyfer hyfforddiant a mentora mewn swydd ar gyfer pobl ifanc sydd ag anableddau dysgu.

'Dod i stop'

Un o bartneriaid y cynllun oedd cwmni Agoriad Cyf o Fethesda. Ond mae'r prif weithredwr Arthur Beechey yn teimlo fod colli Engage to Change wedi creu bwlch.

"Mae pethau fwy neu lai wedi dod i stop. Mae dal angen i bobl fynd mewn i waith cyflogedig, yn enwedig os ydyn nhw efo anableddau dysgu neu awtistiaeth, ond does 'na ddim cynlluniau ar gael ar wahan i Pathway 4."

Ychwanegodd mai "diffyg cyfleon a strwythr ydi'r prif her".

Disgrifiad o’r llun,

Mae prifweithredwr Agoriad Cyf, Arthur Beechey yn teimlo fod colli Engage to Change wedi creu bwlch

Wrth edrych i'r dyfodol mae Engage to Change yn dweud bod angen strategaeth mentora a hyfforddi mewn swydd.

Roedd Sioned Jones, swyddog gwaith gyda chwmni Agoriad, yn cynghori a chefnogi Lliwen pan ddechreuodd hi yn ei swydd, ac mae hi'n credu fod hyfforddiant yn allweddol.

"Dyna ydi'r rôl bwysig yn hwn dwi'n meddwl, ydi bod ni yne i'r cyflogwr ac i'r unigolyn - union yr un fath - er mwyn 'neud yn siwr fod pethe yn mynd yn llyfn a dangos beth i 'neud.

"Dysgu nhw i ddysgu'u rôl fel bod o'n cario mlaen ar ôl i ni fynd o 'na."

Disgrifiad o’r llun,

Bu Sioned Jones yn helpu Lliwen pan ddechreuodd ar ei swydd yn fferm Derwydd

I gyflogwyr fel Llyr Jones roedd y prosiect yn ffordd dda o recriwtio mwy o bobl ag anableddau, ac roedd y mentora a'r hyfforddi cynnar yn help mawr iddo. 

"Mae hwnna reallyyn hanfodol oherwydd mae Lliwen angen 'chydig bach mwy o amser a dyna beth dwi'n fyr ohono fo.

"Felly wrth gael Sioned yna i helpu a rhoi yr amser i Lliwen dros y misoedd roedd hynny wir, wir yn help achos dyna oeddwn i'n methu rhoi i Lliwen oedd yr amser."

Mae'r Aelod o'r Senedd Hefin David wedi paratoi adroddiad i Lywodraeth Cymru ar y pwnc, gan edrych ar brofiadau unigolion wrth bontio o addysg i waith yng Nghymru. Mae'n galw am strategaeth hyfforddi mewn swydd wedi'i hariannu'n effeithiol. 

"Yr angen yw cymorth i mewn i waith, felly hyfforddiant swydd arbenigol, i ddangos y math o bethau sy'n cael eu disgwyl ganddyn nhw yn y gweithle."

"Mae angen cael cysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan a gwahanol llefydd i gael arian. Mae angen edrych ymlaen tymor hir."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn pwyso a mesur gwersi sydd wedi eu dysgu eisoes cyn symud ymlaen.

Dywedodd Gweindiog yr Economi, Vaughan Gething fod "prosiect Engage to Change wedi helpu mwy na 1,000 o bobl ifanc," a'u bod "am wneud yn siwr bod rhannau da o'r prosiect yn cael eu cynnwys mewn rhaglenni eraill".

"Rydyn ni eisiau parhau i helpu pobl sydd gyda anableddau dysgu. Mae hyn yn bwysig er mwyn cael mwy o annibyniaeth trwy cael cyfle i weithio ac ennill arian."

Pynciau cysylltiedig