Euro 2024: Rhaid trechu Twrci a 'gobeithio am wyrth'

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Armenia yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n berfformiad siomedig yn Yerevan ddydd Sadwrn

Bydd Cymru yn "gobeithio am wyrth" wrth hefyd dargedu buddugoliaeth angenrheidiol yn erbyn Twrci nos Fawrth er mwyn cyrraedd Euro 2024.

Mae'r gêm gyfartal yn Armenia brynhawn Sadwrn yn golygu y bydd yn rhaid i Gymru guro arweinwyr Grŵp D yng Nghaerdydd, a gobeithio na fydd Croatia yn ennill gartref yn erbyn Armenia.

Oni bai am hynny, mae'n sicr y bydd Cymru yn chwarae yn y gemau ail gyfle ym mis Mawrth.

Ond os am ddilyn y llwybr hwnnw i gyrraedd Euro 2024 byddai'n rhaid ennill dwy gêm yn olynol.

Yn dilyn canlyniadau nos Lun, byddai Cymru'n chwarae gartref yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, a hynny yn erbyn Y Ffindir, Wcráin neu Wlad yr Iâ.

Ennill honno, a byddai angen trechu un ai Gwlad Pwyl neu Estonia er mwyn cyrraedd y bencampwriaeth yn Yr Almaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd siom Rob Page yn amlwg wedi'r gêm yn Yerevan

Yn siarad ar raglen Dros Ginio dywedodd un o gyflwynwyr rhaglen Sgorio ar S4C, Sioned Dafydd, fod y naws wedi'r gêm yn Yerevan yn un siomedig.

"Roedd 'na deimlad fod nhw wedi gadael eu hunain i lawr bron achos roedd beth oedd angen ei wneud yn eitha' syml, ond doedd y perfformiad jyst ddim digon da," meddai.

"Mae pêl-droed yn gallu bod yn gamp fach od achos oedd yr euphoria yna o guro Croatia ond wedyn un pwynt yn unig ry'n ni wedi cael yn erbyn Armenia.

"Ond yn fathemategol ma' fe dal yn bosib i ni gyrraedd yr Ewros yn awtomatig, ond y siom yw fod e allan o'n rheolaeth ni erbyn hyn a'n bod ni angen ffafr fach gan Armenia, er ein bod ni gyd yn cytuno ei fod yn annhebygol iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Wal Goch yn dathlu wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Croatia fis diwetha', ond nid yw ffawd Cymru bellach yn eu dwylo eu hunain

Ychwanegodd Steffan Leonard o'r podlediad pêl-droed, Camsefyll: "Mae 'da ni chwaraewyr rili da yn y garfan, wrth gwrs ry'n ni wedi colli'n superstars fel Gareth Bale, ond mae lot yn chwarae'n wych i'w clybiau ac o fanno mae'r siom yn dod i fewn.

"Mae 'da ni'r chwaraewyr sy'n gallu mynd i Armenia ac ennill, yn anffodus nawr ry'n ni wedi colli'r luxury o gael e yn ein dwylo ni."

'Disgwyliadau yn rhy uchel'

Yn Ysgol Gyfun Llangefni, roedd barn rhai o ddisgyblion blwyddyn 11 yn syml.

"Wnaeth Cymru ddim cymryd eu cyfleon yn ddigon da," meddai Osian ar y Post Prynhawn wrth edrych nôl ar y gêm yn erbyn Armenia.

"Roedd y tactegau yn rhy negyddol, roeddan ni'n eistedd yn ôl gormod yn lle defnyddio'n chwaraewyr i drio symud ymlaen a chreu cyfleon i sgorio.

"Dwi'n teimlo lot o frustration hefo sut 'naethon ni chwarae.

"Mae'n rhaid i ni [nos Fawrth] o leia' trio'n ddigon caled, especially achos y sefyllfa galed 'da ni wedi rhoi ein hun ynddi."

Disgrifiad o’r llun,

Osian, Gruff a Bedwyr, sydd ym mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn

Dywedodd Gruff: "Bosib oedd ein disgwyliadau yn rhy uchel. Mi oedd Armenia'n lot gwell tîm na ni yn ein stadiwm ein hunain [fis Mehefin].

"Doeddan ni methu gwneud y pethau syml yn gywir."

Yn ôl Bedwyr nid oedd pump yn y cefn wedi gweithio yn Yerevan, ac fe fyddai'n hoffi gweld Daniel James a Brennan Johnson yn chwarae o'r cychwyn.

"Dwi'n meddwl oedd angen taflu mwy atyn nhw," meddai.

"Mae gynnon ni'r cefnogwyr tu ôl i ni nos Fawrth, 'da ni'n gwbod fod Twrci wedi cyrraedd yr Ewros yn barod a 'sgynnyn nhw ddim byd i'w golli."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Os nad yw Croatia'n llwyddo i guro Armenia yn Zagreb yna bydd yn ailagor y drws i Gymru gyrraedd Euro 2024 heb yr angen i chwarae gemau ail gyfle

Mae Sioned Dafydd hefyd yn disgwyl i'r drafodaeth ar ddyfodol Rob Page ail danio.

"Yn naturiol wneith y sgwrs yna ail ddechrau gan mai'r nod oedd cyrraedd yr Ewros," meddai.

"Os y'n ni ddim yn cyrraedd yn awtomatig neu os gawn ni grasfa yn erbyn Twrci yna fydd [y trafod] yn dechrau'n syth.

"Mae Rob Page bendant hefo un llygad ar fis Mawrth a'r gemau ail gyfle ond mae pethau'n gallu newid mor glou.

"Roedd gymaint o drafodaeth am ddyfodol Rob Page cyn gêm Croatia, allwn ond gobeithio cael y triphwynt yn erbyn Twrci a jyst gweddïo fod gwyrth am ddigwydd rhwng Armenia a Croatia."