Torri arian celfyddydau'n 'erydu diwylliant y genedl'
- Cyhoeddwyd
Wrth i sioe gerdd Branwen barhau ar ei thaith o gwmpas Cymru, mae cyfarwyddwr artistig Canolfan y Mileniwm wedi rhybuddio na fydd cynyrchiadau o'r fath yn bosib yn y dyfodol oni bai bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy o arian yn y celfyddydau.
Cyd-gynhyrchiad rhwng Canolfan y Mileniwm a chwmni Frân Wen yw Branwen: Dadeni.
Mewn cyfweliad prin, dywedodd Graeme Farrow ei bod hi'n amser codi llais am yr "argyfwng" sy'n wynebu'r celfyddydau yng Nghymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i weithio gyda'r sector celfyddydol" ac yn "cydnabod y cyfraniad gwerthfawr mae'r celfyddydau'n eu gwneud i'r economi a lles pobl yng Nghymru".
Yn ei sgwrs gyda rhaglen Politics Wales BBC Cymru, dywedodd Mr Farrow bod y gost o redeg Canolfan y Mileniwm wedi cynyddu o £1m y flwyddyn ers 2019.
"Mae pobl yn mynd i wneud llai o sioeau, bydd llai o gyfleoedd i bobl ifanc i fod yn greadigol a magu sgiliau, bydd llai o gyfleoedd i bobl ymwneud â'r celfyddydau, ac yn raddol bydd hynny'n erydu diwylliant y genedl.
"Rydyn ni newydd wneud cynhyrchiad mawr gyda chwmni Frân Wen sy'n sioe gerdd Gymraeg fawr sy'n llwyddiant enfawr.
"Os ydyn ni eisiau gwneud mwy o waith fel yna a chyflogi artistiaid a chael cynulleidfaoedd yn cymeradwyo, mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth yn wahanol.
"Rydyn ni i gyd yn gwneud mwy gyda llai ac mae pwynt yn dod pan rydych chi'n cyrraedd man ble dydy hynny ddim yn gynaliadwy a dyna ble rydyn ni wedi cyrraedd."
Dywedodd Mr Farrow y byddai cynnydd o 10% ym muddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y celfyddydau yn ddigon i "sefydlogi pethau".
Yn ei chyllideb derfynol ar gyfer 2023-24, fe wnaeth Llywodraeth Cymru neilltuo £33.3m ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, sy'n dosbarthu arian cyhoeddus ar draws y celfyddydau.
Mae hynny'n llai na 0.2% o gyllideb gyfan Llywodraeth Cymru.
"Mae hyn yn dod yn ôl at faint o bwysigrwydd ydyn ni'n ei roi i'r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru," meddai Yvonne Murphy, cyfarwyddwr theatr llawrydd.
"Dydy llai na 1% o'r gyllideb ddim yn ddigon."
Ym mis Medi fe gafodd National Theatre Wales wybod y byddai'r cwmni'n colli ei grant gan y Cyngor Celfyddydau.
Mae NTW yn apelio ond yn y cyfamser mae gan y prif weithredwr Lorne Campbell bryderon am ddyfodol y diwydiant.
"Fe wnes i siarad yn ddiweddar gyda phrif weithredwr un o'n canolfannau mwyaf ni ac maen nhw'n gwneud shifftiau front-of-house achos dydyn nhw methu fforddio staff i gymryd tocynnau oddi ar gwsmeriaid wrth iddyn nhw ddod i'r theatr," meddai.
"Dyna ble rydyn ni. Dyna sut mae rhai o'n canolfannau mwyaf ni'n llwyddo i gadw'r drysau ar agor, a gallwch chi wneud hynny am ychydig ond dydy hynny ddim yn gynllun.
"Does neb yn dweud nad oes yna benderfyniadau anodd iawn i'w gwneud [ond] mae'r dystiolaeth bod y celfyddydau'n gwneud gwahaniaeth i addysg, i iechyd a'r economi yn gwbl glir."
Rhaid 'dathlu ac arwain'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, Heledd Fychan nad oedd yna unrhyw un i godi llais ar ran y celfyddydau o fewn i Lywodraeth Cymru.
"Mi ddylai fod ganddon ni ddirprwy weinidog sy'n hyrwyddo ac yn dathlu ac yn rhoi arweiniad i ddyfodol diwylliant yng Nghymru, ac yn anffodus does ganddon ni ddim ar y funud."
Fe wnaeth y dirprwy weinidog diwylliant, Dawn Bowden wrthod cais am gyfweliad ond dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth:
"Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r sector celfyddydol yn y cyfnod heriol yma ac yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr mae'r celfyddydau'n eu gwneud i'r economi a lles pobl yng Nghymru.
"Rydym wedi clustnodi £1m i helpu gyda phwysau'n gysylltiedig â chynnydd costau byw drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda £500,000 yn 2022/23, a £500,000 yn 2023/34."
Mae Politics Wales ar BBC1 Wales am 10:00 ddydd Sul 19 Tachwedd ac yna ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023