Betsi: Gallai gymryd cymaint â degawd i wneud gwelliannau
- Cyhoeddwyd
Gallai gymryd cymaint â degawd i wneud y gwelliannau sydd eu hangen i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, meddai ei gadeirydd dros dro.
Cafodd y corff sy'n darparu gwasanaethau iechyd gogledd Cymru ei roi o dan fesurau arbennig am yr eildro ym mis Chwefror, gydag 11 aelod o'r bwrdd yn cael eu gorfodi i ymddiswyddo.
Ddydd Iau, dywedodd Dyfed Edwards fod gwneud y newidiadau angenrheidiol "bron fel creu bwrdd iechyd newydd".
Byddai hyn "yn ôl pob tebyg" yn cymryd pump i 10 mlynedd, meddai wrth aelodau o'r Senedd.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod hwn yn "gyfaddefiad rhyfedd" tra bod Plaid Cymru yn ailadrodd ei galwad am ymchwiliad i "beth sydd wedi bod yn mynd o'i le yn Betsi".
700,000 o bobl
Mae gan Betsi Cadwaladr, sefydliad iechyd mwyaf Cymru, weithlu o 19,000 yn gwasanaethu mwy na 700,000 o bobl ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae'n cael y lefel uchaf o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar ôl cyfres o fethiannau difrifol ar ddiogelwch cleifion, perfformiad a llywodraethu, ynghyd â phrinder staff a chyfres o uwch swyddogion gweithredol yn gadael.
Ond dywedodd Mr Edwards fod "cyfle i ni helpu bron i ailosod y bwrdd iechyd, nid dim ond adnewyddu, ond ailosod".
"Mae bron fel creu bwrdd iechyd newydd ac, yn yr ystyr yna, mae'n gyfle gwych," meddai wrth bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru.
"Mae'n her enfawr, ond mae'n gyfle i ddweud 'dyma beth rydyn ni eisiau ei gyflawni, dyma beth rydyn ni eisiau i'r bwrdd iechyd ei gyflawni ar gyfer pobl yng nghymunedau ein rhanbarth'."
Roedd y bwrdd, pwysleisiodd Mr Edwards, yn sicrhau bod "gwelliant parhaus", gan mai'r nod oedd creu "rhywbeth llawer mwy dros y cyfnod hirach".
Ychwanegodd: "Mae'n debyg mai tasg pump i 10 mlynedd yw hon, ynte?"
'Dim problem gyda hynny'
Pan ofynnwyd iddo gan gadeirydd y pwyllgor, yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol Russell George, a oedd hynny'n golygu bod yn y mesurau arbennig am hyd at ddegawd, dywedodd Mr Edwards "na fyddai'n debygol o fod yn arwydd iach" ond "does gen i ddim problem gyda hynny".
"Os yw'n golygu bod y llywodraeth yn mynd i roi'r ffocws hwnnw i ni, mae hynny'n iawn."
Ymddangosodd Carol Shillabeer, a benodwyd yn brif weithredwr parhaol newydd Betsi Cadwaladr yn gynharach y mis hwn ar ôl gwasanaethu yn y rôl dros dro, ochr yn ochr â Mr Edwards yn y pwyllgor.
Gofynnwyd iddi sut olwg fyddai ar lwyddiant mwy uniongyrchol, dros y chwech i 12 mis nesaf.
"Fe fyddwn ni'n fwy effeithiol fel sefydliad, bydd gennym ni arweinyddiaeth ac ymgysylltiad mwy effeithiol, bydd gennym ni gynlluniau mwy effeithiol [a] chliriach, byddwn ni'n perfformio'n well [gyda] gwelliant parhaus," meddai.
"A byddwn yn canolbwyntio ar ein dysgu, ein datblygiad, ein hymchwil, ein hyfforddiant a buddsoddi yn ein staff."
'Methu'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar, fod Mr Edwards wedi gwneud "cyfaddefiad rhyfedd", ac er gwaethaf yr "heriau anferth" ni all cleifion "aros hyd at ddegawd arall cyn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw".
"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes yn dal y record am fod o dan fesurau arbennig am gyfnod hirach nag unrhyw sefydliad yn hanes y gwasanaeth iechyd," meddai.
"Mae'n hollol amlwg fod llywodraeth Lafur Cymru yn methu pobl yn y gogledd ac nad yw eu trefniadau ymyrryd yn gweithio," meddai.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth y byddai "galwad hirsefydlog ei blaid am ymchwiliad i'r hyn sydd wedi bod yn mynd o'i le yn Betsi yn helpu i ddarparu glasbrint ar gyfer gwell gwasanaeth iechyd yn y gogledd".
Wrth bostio ar X, Twitter gynt, dywedodd: "Rhaid i chi ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol wrth baratoi ar gyfer y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd31 Awst 2023
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2023