Costau uwch a thaliadau llai yn 'bryder mawr' i ffermwyr

  • Cyhoeddwyd
Katie-Rose Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Katie-Rose Davies y bydd ei thaliadau yn cael eu torri o bron i 50% pan ddaw cynllun Glastir i ben

"Rydyn ni'n poeni'n fawr am sut rydyn ni'n mynd i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol ac os fyddwn ni'n gallu parhau i wneud be rydyn ni'n ei wneud."

Mae teulu Katie-Rose Davies wedi ffermio ar fynydd y Bwlch uwchlaw Cwm Ogwr ers bron i ganrif, ond gyda chostau'n cynyddu a thaliadau gan Lywodraeth Cymru ar fin lleihau mae'r fam i dri yn dweud bod y dyfodol yn ansicr.

Daw ei sylwadau wrth i undeb amaeth NFU Cymru alw ar Lywodraeth Cymru i warchod y cyllid ar gyfer materion gwledig pan fydd yn cyhoeddi ei chynlluniau gwario ar gyfer y flwyddyn nesa' ymhen rhai wythnosau.

Dywedodd y llywodraeth ei bod wedi "ymrwymo'n llawn i gefnogi ffermwyr a chymunedau gwledig".

Yng nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, cafodd £482m ei roi i faterion gwledig - tua 2% o'r gyllideb gyfan.

Ond y llynedd, ar ôl i weinidogion dreulio'r haf yn chwilio am arbedion, cafodd hynny ei dorri o £37m.

"Yn dilyn y toriad rydyn ni wedi ei weld yn barod, rydyn ni'n aros i weld beth mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'w wneud," meddai dirprwy lywydd NFU Cymru Abi Reader wrth raglen Politics Wales.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Abi Reader, mae cynllun Cynefin Cymru yn enghraifft o gyfathrebu gwael rhwng y llywodraeth a'r diwydiant amaeth

Ychwanegodd Ms Reader: "Y ffordd y gall Llywodraeth Cymru brofi i ni eu bod yn gwerthfawrogi popeth rydyn ni'n ei wneud ydy drwy warchod ein cyllideb.

"Dydyn ni ddim yn gofyn am fwy, dim ond gwarchod beth sydd yna a sicrhau bod ffermwyr trwy Gymru yn gallu parhau i wneud popeth rydyn ni'n ei addo."

Mae undebau hefyd wedi beirniadu newidiadau sydd ar y gweill i raglen amgylcheddol Llywodraeth Cymru ar gyfer ffermwyr.

Maen nhw'n dweud bod cynllun Cynefin Cymru, fydd yn dod i rym ar 1 Ionawr ar ôl i gynllun Glastir ddod i ben, yn arwain at doriad sylweddol i incwm nifer o ffermwyr.

'Dim rhybudd'

Dywedodd Katie-Rose Davies y bydd ei thaliadau hi'n cael eu torri o bron i 50%.

"Mae e wedi digwydd dros nos a dweud y gwir - doedd yna ddim rhybudd," meddai.

Yn ôl Ms Reader, mae'r cynllun - fydd yn para blwyddyn - yn esiampl o gyfathrebu gwael rhwng Llywodraeth Cymru a'r diwydiant amaeth.

"Dydy hynny ddim yn arwydd da ar gyfer y dyfodol," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gyllideb yn "brawf litmws" o ymrwymiad y llywodraeth i ffermwyr, yn ôl Llyr Gruffydd

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig, Llyr Gruffydd, y byddai'r gyllideb yn "brawf litmws" o ymrwymiad y llywodraeth i ffermwyr.

"Mae'r disgwyliadau'n uwch nag erioed pan mae'n dod i'r diwydiant amaeth ac os fysen ni'n wynebu toriad yn y gyllideb ar yr un pryd dyw hynny ddim yn gynaliadwy," meddai.

"Byddai hynny yn fy marn i yn codi cwestiwn gwirioneddol ynglŷn â pha mor o ddifri' y mae Llywodraeth Cymru, nid dim ond yn cymryd y sector amaeth a chefn gwlad, ond pa mor o ddifri' ydyn nhw ynglŷn â chwrdd â'r heriau cymdeithasol yna mae etholwyr ym mhob rhan o Gymru yn disgwyl iddyn nhw ddelifro arnyn nhw."

'Amser buddsoddi mewn cymunedau gwledig'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion gwledig Sam Kurtz: "Nid dyma'r amser i dorri'r gyllideb ymhellach. Mae'r gyllideb yn fach yn barod.

"Mae hwn yn amser i fuddsoddi mewn cymunedau gwledig, buddsoddi yn ein cymuned amaeth a rhoi cefnogaeth iddyn nhw fel eu bod nhw'n gallu parhau i warchod ein tir, ond hefyd bod yn gynhyrchwyr bwyd gwych."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alexander Phillips yn poeni y bydd "gostyngiad yn lefel yr ymarferion natur-gyfeillgar sy'n digwydd yng Nghymru"

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol hefyd wedi galw ar weinidogion i ddiogelu'r gyllideb materion gwledig.

Dywedodd Alexander Phillips ar ran WWF Cymru: "Mae nifer o ffermwyr sydd wedi bod yn defnyddio ymarferion natur-gyfeillgar ers 15 i 20 mlynedd nawr yn edrych ar eu cyfrifon ac yn dweud, 'dwi ddim yn siŵr a ydy hyn yn mynd i weithio mwyach'.

"Mae hynny'n bryder mawr i ni achos bydd hynny'n arwain at ostyngiad yn lefel yr ymarferion natur-gyfeillgar sy'n digwydd yng Nghymru."

'Sefyllfa ariannol heriol iawn'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi bod yn glir iawn ein bod ni'n wynebu sefyllfa ariannol heriol iawn, yr anoddaf ers dechrau datganoli.

"Rydyn ni'n gwybod bod yna benderfyniadau anodd i'w gwneud ar draws Llywodraeth Cymru.

"Er gwaetha'r heriau yma, rydyn ni wedi ymrwymo'n llawn i gefnogi ffermwyr a chymunedau gwledig ar draws Cymru."

Ar y newidiadau i'r cynllun amgylcheddol ar gyfer ffermwyr, ychwanegodd y llefarydd bod gweinidogion wedi bod yn "trafod yn aml gyda'r undebau ac eraill yn y cyd-destun ariannol anodd yma".

"Mae'r cynllun Cynefin Cymru yn caniatáu i fwy o ffermwyr ymgeisio ac mae dros 3,200 wedi gwneud hynny, nifer ohonyn nhw nad oeddent yn rhan o gynlluniau amgylcheddol blaenorol."

Mae Politics Wales ar BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul, ac yna ar iPlayer.