Diffyg cyllid ffermwyr yn bygwth targedau hinsawdd - undeb

  • Cyhoeddwyd
Aled Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen cyllideb sy'n adlewyrchu gwir gost targedau hinsawdd y sector, medd Aled Jones

Mae angen mwy o gyllid ar y diwydiant amaeth os ydy hi am gyflawni ei thargedau o ran bwyd, hinsawdd a'r amgylchedd, yn ôl NFU Cymru.

Er bod y sector yn wynebu chwyddiant o 40% ers 2020, mae cyllidebau'n "parhau ar yr un lefel a sefydlwyd ryw ddegawd yn ôl," medd llywydd yr undeb Aled Jones.

Wrth annerch cynhadledd yr undeb ar ffermio cynaliadwy yn Llŷn ddydd Iau, fe ddywedodd Mr Jones fod gan NFU Cymru a'r llywodraeth "uchelgeisiau sylweddol" am sut y gallai'r sector gynhyrchu bwyd sy'n ystyriol o'r hinsawdd a gwella'r amgylchedd.

Ond er mwyn cyflawni hynny, rhaid cael trefniant cyllido hirdymor gan lywodraethau Cymru a'r DU sy'n adlewyrchu "costau cynyddol, cyllidebau tynnach a llai o elw o'r farchnad".

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod fod ffermwyr yn hanfodol i economi Cymru, ond bod NFU Cymru yn ymwybodol o'r "heriau ariannol" i weinidogion - gyda £900m yn llai ar gael.

Fe ddywedodd Mr Jones bod angen cynnal cyllideb y Cynllun Taliad Sylfaenol ar y lefel bresennol yn 2024, sy'n "gwbl hanfodol" i fusnesau a chymunedau gwledig.

"Mae gallu'r ffermwyr i weithredu ar ran yr amgylchedd yn dibynnu ar hyfywedd eu ffermydd," meddai.

Ychwanegodd y byddai angen cynnydd o ryw £79m yn y gyllideb Cynllun Taliad Sylfaenol er mwyn dal lan â chwyddiant ers ei chyflwyno ddegawd yn ôl, a chynnydd o bron i hanner biliwn i gronfeydd newydd y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

"Mae holl gyllideb materion gwledig, gan gynnwys amaethyddiaeth, yn cyfrif am gyn lleied â 2% o wariant Llywodraeth Cymru," meddai.

"Yn 2022, roedd y diwydiant ffermio'n gyfrifol am gyflawni allbwn gros o £2.1 biliwn. Felly, gallwn ddweud gyda hyder, mae pob punt sy'n cael ei roi drwy'r cynllun i'r ffermwyr yng Nghymru yn troi'n naw punt. Does dim amheuaeth bod y diwydiant ffermio'n darparu gwerth ardderchog am arian.

"Dwi'n gobeithio y bydd y llywodraeth yn siarad gyda ni, yn hytrach nac amdanom ni. Mae 'na wahaniaeth mawr.

"Os 'da chi yn ymwneud yn agos gyda ni fel amaethwyr... mae o'n hanfodol bwysig eu bod nhw'n cynnal y sgwrs gyda ni."

'Methu gweithredu heb gyllideb'

"Mae'r llywodraeth yn disgwyl i ni wneud llawer iawn o bethau i'r amgylchedd," meddai'r ffermwr Paul Williams wrth Newyddion S4C.

"A dwi'n siwr bydd y diwydiant yn ddigon parod i wneud hynny.

"Ond heb gyllideb a dim sicrwydd o gyllideb, fedrwn ni ddim gwneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Dydy amaethwyr "ddim yn gwybod beth fydd ar gael" yn y dyfodol, meddai Awel Mai Hughes

"Dydyn ni fel busnes methu edrych ymlaen am ddwy, dair mlynedd eto," ychwanegodd y gyfreithwraig Awel Mai Hughes.

"Achos dan ni ddim yn gwybod beth fydd ar gael i ni."

Mewn datganiad, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae ffermwyr yn chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru."

"Fodd bynnag, mae'r NFU yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa ariannol eithriadol o anodd rydyn ni'n ei hwynebu. Mae ein sefyllfa ariannol hyd at £900m yn is mewn termau real.

"Mae darparu'r Cynllun Taliad Sylfaenol ar y lefelau presennol yn 2024 yn amodol ar argaeledd cyllideb a bydd cyhoeddiad ar gyllid yn y dyfodol yn cael ei wneud maes o law."