HSBC: Cau llinell ffôn Gymraeg i arwain at 'wasanaeth gwell'

  • Cyhoeddwyd
arwydd siop hsbcFfynhonnell y llun, PA Media

Mae un o benaethiaid HSBC wedi dweud y bydd y penderfyniad i ddileu llinell ffôn Gymraeg y banc yn arwain at wasanaeth gwell i gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.

Dywedodd Jose Carvalho wrth ASau y bydd gwasanaeth galw yn ôl Cymraeg newydd y banc yn arwain at fwy o alwadau yn Gymraeg.

Ychwanegodd pennaeth cyfoeth a bancio personol HSBC UK ei fod yn cydnabod fod penderfyniad y banc i gau eu llinell ffôn Cymraeg wedi "achosi aflonyddwch".

Cyhoeddodd HSBC yn gynharach y mis hwn fod y banc yn cau'r llinell ffôn iaith Gymraeg yn y flwyddyn newydd.

Ond wrth siarad ym mhwyllgor diwylliant Senedd Cymru, dywedodd Jose Carvalho y gallan nhw "warantu" y bydd galwadau i'r gwasanaeth galw yn ôl newydd yn cael eu hateb yn Gymraeg o fewn tridiau.

Dywedodd y byddai nifer y rhai sy'n delio â galwadau ffôn yn Gymraeg yn cynyddu o dri i 48, tra hefyd yn gwneud gwaith yn Saesneg.

"Byddwn yn adolygu'r canlyniadau i'r cwsmeriaid" ar y gwasanaeth galw yn ôl, meddai Mr Carvalho.

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jose Carvalho ei fod yn cydnabod fod penderfyniad y banc i gau eu gwasanaeth ffôn Cymraeg wedi "achosi aflonyddwch"

Dywedodd bod y llinell Gymraeg wedi cael ei "thanddefnyddio'n sylweddol", gan dderbyn 22 galwad y dydd ar gyfartaledd.

Gyda thri aelod o staff yn gweithio ar y gwasanaeth, ar gyfartaledd roeddynt yn ateb saith galwad y dydd.

Esboniodd eu bod wedi symud i system lle'r oedd y tri aelod hefyd yn ateb galwadau Saesneg, oedd yn golygu mai "dim ond 6% o'r galwadau yn Gymraeg oedd yn cael eu hateb yn yr iaith".

"Trwy'r gwasanaeth galw'n ôl gallwn warantu bod pobl yn derbyn gwasanaeth yn Gymraeg. Felly bydd mwy o alwadau yn Gymraeg," meddai.

Mewn llythyr yn gynharach y mis hwn, dywedodd y banc "nad oedd yn benderfyniad a wnaed yn ysgafn", ond fod y galw am y llinell ffôn Gymraeg wedi lleihau dros amser.

'Banc lleol y byd'

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Delyth Jewell wrth Mr Carvalho "na ellir disgwyl i bobl sy'n byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg aros am dridiau er mwyn parhau â'u bywydau".

"Rwy'n erfyn ar y banc i wrthdroi'r penderfyniad," ychwanegodd.

Dywedodd aelod arall o'r pwyllgor, Alun Davies, fod y banc yn methu â chyflawni ei honiad fel "banc lleol y byd".

Ychwanegodd: "Mae dweud wrthym y gallwn ni gael galwad yn ôl mewn tridiau yn annigonol - nid dyna sut rydyn ni'n byw ein bywydau."

Dywedodd Mr Carvalho y byddai'r banc yn adolygu'r sefyllfa yn ail chwarter 2024.

Pynciau cysylltiedig