Brwydro camwybodaeth ar ôl colli tri aelod o'r teulu i Covid
- Cyhoeddwyd
Mae Francis yn ei chael hi'n anodd trafod yr hyn sydd wedi digwydd iddo dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn 2021, bu farw ei frawd, ei dad a'i fam o Covid - y tri o fewn wythnos i'w gilydd.
Ar ben hynny, fe dderbyniodd sylwadau sarhaus a bygythiadau difrifol ar ôl rhannu ei stori ar-lein.
Ond mae'r profiadau yma wedi ysbrydoli Francis i fynd ati i geisio brwydro lledaeniad camwybodaeth.
Fe rannodd y cogydd o Gaerdydd hanes ei deulu er mwyn ceisio herio camwybodaeth ynglŷn â'r pandemig.
Dywedodd bod ei deulu wedi gwrthod cael eu brechu, a bod camwybodaeth yn rhannol gyfrifol am hynny.
Roedd gan ei rieni bryderon am y brechlyn Covid, ac roedd o'n credu y byddai rhannu ei stori yn helpu pobl eraill i "gwestiynu eu hofnau ei hunain am y pwnc".
"Fedrwch chi un ai aros yn dawel a symud ymlaen gyda'ch bywyd, neu gwneud rhywbeth. Nes i benderfynu rhannu'r neges," meddai.
Unwaith iddo rannu ei stori, dywedodd bod pobl o wahanol wledydd mor bell â Norwy, Rwsia, Yr Eidal ac Awstralia wedi cysylltu â fo.
"Mi oedd hi'n wych gweld bod y cyfan yn cael effaith, ond roedd 'na agweddau negyddol hefyd."
Dywedodd Francis fod pobl wedi ei gyhuddo o fod yn rhan o un o sefydliadau'r llywodraeth, a'i fod o'n dweud celwydd am fodolaeth ei deulu.
"Ac yna daeth y bygythiadau. Pobl yn bygwth fy lladd, pobl yn bygwth achosi niwed i'n nheulu i... fe wnaeth rheiny stopio yn weddol sydyn ar ôl i mi gysylltu â'r heddlu, ond fe wnaeth y cyhuddiadau barhau."
'Dwyn pobl i gyfrif'
Mae Francis bellach wedi llunio deiseb - gyda'r nod o'i chyflwyno i Lywodraeth y DU - yn galw am ei gwneud hi'n orfodol i bobl sydd â chyfrifon ar wefannau cymdeithasol i uwchlwytho dogfen adnabod fel pasbort neu drwydded yrru.
Mae o'n awgrymu y byddai hynny'n golygu y bydd modd dwyn pobl sy'n rhannu camwybodaeth neu'n cam-drin pobl eraill ar-lein i gyfrif.
Ychwanegodd na fyddai'r wybodaeth ar gael i'r cyhoedd er mwyn amddiffyn preifatrwydd pobl.
Un arall sydd wedi derbyn bygythiadau ac wedi cael ei cham-drin ar-lein o ganlyniad i geisio rhwystro lledaeniad camwybodaeth yw Dr Bnar Talabani, sy'n ddarlithydd clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ystod y pandemig fe ddechreuodd hi gyhoeddi fideos yn trafod gwahanol faterion iechyd.
Dywedodd fod rhai pobl wedi ymateb yn negyddol i rai o'i hymddangosiadau ar raglenni radio a theledu: "Weithiau roedd pobl yn cwestiynu pam fy mod i wedi cael fy nhalu am y fath beth, ond hefyd roedd 'na bobl yn bygwth lladd fi neu fy nheulu."
Ond mae hi'n credu ei bod hi'n bwysig iddi gario ymlaen, gan fod camwybodaeth yn gallu arwain at bobl yn marw os ydyn nhw'n penderfynu peidio derbyn gwahanol driniaethau ac ati.
"Dwi'n meddwl bod camwybodaeth wedi erydu hyder y cyhoedd mewn gweithwyr iechyd proffesiynol a sefydliadau, ac mae 'na lot fawr o waith i'w wneud i fynd i'r afael a hynny," meddai.
Yn ôl Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Amddiffyn Iechyd gydag Iechyd cyhoeddus Cymru, mae camwybodaeth yn "her gynyddol" i weithwyr iechyd proffesiynol.
"Dwi'n credu ei fod yn beryglus iawn, ac yn gallu camarwain pobl. Mae pobl wedyn yn gorfod dioddef a delio â sgil effeithiau hynny," meddai.
Roedd adroddiad gan Iechyd cyhoeddus Cymru ym mis Hydref yn nodi fod 89% o bobl wedi gweld camwybodaeth yn cyfeirio at frechlynnau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ychwanegodd Dr Shankar: "Mae camwybodaeth nid yn unig wedi effeithio ar y niferoedd sy'n dewis cael eu brechu, ond hefyd wedi arwain at oedi triniaethau... ac ry'n ni'n gweld mai yn aml iawn y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas sy'n cael eu heffeithio waethaf gan gamwybodaeth o'r fath."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod "y ddeddf diogelwch ar-lein yn gorfodi gwefannau cymdeithasol i gael gwared ar gynnwys anghyfreithlon - gan gynnwys aflonyddu a bygythiadau i ladd - yn ogystal ag unrhyw achosion eraill sy'n mynd yn groes i delerau ac amodau'r platfform".
Ychwanegodd y llefarydd fod y ddeddf yn ei gwneud hi'n orfodol i gwmnïau dynnu camwybodaeth o'u gwefannau unwaith y maen nhw'n ymwybodol ohono.
Mae modd gweld mwy am y stori yma ar raglen Wales Live ar BBC iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd31 Awst 2021
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2021